Crynodeb

Mae ymchwil a wnaed mewn dau broject a ariannwyd gan yr AHRC ar 'Deithwyr Ewropeaidd i Gymru: 1750-2010' yn cynnwys darganfod, astudio a dehongli bron i 500 o hanesion gan deithwyr o bob rhan o Ewrop.听Mae effaith yr ymchwil wedi bod yn eang ac wedi cynnwys llawer o weithgareddau ymwneud 芒'r cyhoedd, wedi eu hanelu at amrywiol gynulleidfaoedd.听Mae鈥檙 effaith wedi bod ar ffurf gwell dealltwriaeth ymhlith y cyhoedd o gysylltiadau rhyngddiwylliannol thwng Cymru ac Ewrop (trwy arddangosfa deithiol, deunyddiau addysgol sydd ar gael am ddim, darlithoedd cyhoeddus ac amrywiaeth o adnoddau ar-lein) a gwelliannau sylweddol yn y sectorau treftadaeth a thwristiaeth, gan gynnwys datblygu adnoddau newydd a gwybodaeth am gymhellion i deithio i Gymru a safleoedd o ddiddordeb arbennig (trwy gronfa ddata mynediad agored, gwefan ryngweithiol ac amrywiaeth o gyfleoedd i gyrff treftadaeth).
Ymchwilwyr

听
- Professor Carol Tully
- Dr Rita Singer
听