Cafodd myfyrwyr o ysgolion a cholegau ledled Gogledd Cymru wybod rhagor am sut mae ymchwiliadau’r heddlu’n cael eu cynnal mewn ‘Diwrnod Ymchwilio i Lofruddiaeth’ drefnwyd gan arweinwyr cyrsiau troseddeg, cymdeithaseg a’r gyfraith ym Mhrifysgol ɫ ddydd Mercher 13 Rhagfyr.
Syniad Alun Oldfield, darlithydd ar radd Plismona Prifysgol ɫ oedd y digwyddiad, a daw Alun â 30 mlynedd a mwy o brofiad plismona i’w rôl yn y brifysgol, gan ddarparu mewnwelediad i ymchwiliadau i droseddau difrifol a’u gwneud yn hygyrch i fyfyrwyr prifysgol a Lefel A.
Wrth agor y digwyddiad, dywedodd Prif Gwnstabl Heddlu Gogledd Cymru Amanda Blakeman, “Rwy’n falch iawn o gefnogi’r cydweithio rhwng Heddlu Gogledd Cymru a Phrifysgol ɫ. Heddiw, ar y Diwrnod Ymchwilio i Lofruddiaeth cyntaf un yma, bydd myfyrwyr yn cael cipolwg gwerthfawr ar yr hyn sy’n cael ei wneud yn ystod ymchwiliad i lofruddiaeth, gan gynnwys sut mae’r lleoliad cychwynnol yn cael ei ddiogelu yr holl ffordd at erlyn y troseddwr. Rydych chi'n mynd i brofi'r heriau sy'n wynebu plismona wrth iddynt ymateb i'r digwyddiadau mwyaf difrifol, lle rydym wedi’n ymrwymo’n llwyr i ddod â throseddwyr o flaen eu gwell i gefnogi dioddefwyr a darparu'r gwasanaeth gorau y gallwn i'n cymunedau.
“Mae gen i dros ddeng mlynedd ar hugain o brofiad plismona erbyn hyn mewn amrywiaeth o swyddogaethau, a does dim un mwy heriol na’r hyn rydyn ni’n ei ofyn gan ein hymchwilwyr a’n ditectifs. Nid yw cyfleoedd i weithio ar y troseddau mwyaf cymhleth a mwyaf difrifol yn dod yn fwy heriol nag ymchwiliad i lofruddiaeth. Rwy’n hynod o falch o fod yn heddwas ac yn hynod falch o fod yn Brif Gwnstabl Heddlu Gogledd Cymru, ac rwy’n gobeithio y bydd heddiw’n rhoi cyfle ichi feddwl am yrfaoedd pellach, naill ai ym maes plismona, troseddeg neu’r gyfraith ac yn fodd i sicrhau cydweithio pellach rhwng Heddlu Gogledd Cymru a Phrifysgol ɫ.”
Yn ystod y dydd, clywodd myfyrwyr yn uniongyrchol gan yr heddlu ac arbenigwyr eraill, gan gynnwys John Gittins, Uwch Grwner Gogledd Cymru (Dwyrain a Chanol), y Rheolwr Cymorth Gwyddonol a Ditectif Brif Arolygydd Tîm Ymchwiliadau Mawr Heddlu Gogledd Cymru am eu profiadau eu hunain o weithio ar ymchwiliadau llofruddiaeth. Yna, bu'r myfyrwyr yn edrych ar leoliad y drosedd, yn gwrando ar gyfweliadau wedi'u ffilmio gyda'r rhai a ddrwgdybir a thystion, a dysgu sut mae'r holl dystiolaeth yn cael ei rhoi at ei gilydd.
Roedd y Diwrnod Ymchwilio i Lofruddiaethau yn gydweithrediad traws-golegol gefnogwyd gan fyfyrwyr Drama a’r Cyfryngau Prifysgol ɫ fel actorion, cyfwelwyr, a chynhyrchwyr rhaglenni dogfen, yn ogystal â darlithwyr troseddeg a phlismona.
Y syniad y tu ôl i’r diwrnod yw caniatáu i fyfyrwyr sydd â diddordeb mewn plismona, troseddeg, gwyddor gymdeithasol a’r gyfraith glywed yn uniongyrchol mae ymchwiliadau’r heddlu yn cael eu rheoli, a chynnig y mewnwelediad hwnnw iddynt o’r holl swyddogaethau gwahanol sydd ar gael os oes ganddynt ddiddordeb yn y maes.
“Mae wedi bod yn bleser gweithio gyda Heddlu Gogledd Cymru a Swyddfa’r Crwner i gynllunio’r digwyddiad hwn a chynnig y cyfle yma i fyfyrwyr Lefel A mewn ysgolion a cholegau lleol.”
Dywedodd Dewi Roberts o Goleg Llandrillo, sydd hefyd yn dysgu ar y cwrs Plismona Proffesiynol ym Mhrifysgol ɫ, “Mae wedi bod yn ddiwrnod hynod ddiddorol a phwysig o ran helpu myfyrwyr i feddwl am y gwahanol lwybrau gyrfa y gallant eu dilyn a pha gyrsiau fyddai fwyaf addas ar gyfer eu diddordebau.
Dysgwch am ein rhaglen mewn Plismona Proffesiynol ymaTroseddeg a Chyfiawnder Troseddol yma.
Mwy am yr holl gyrsiau yn y Gwyddorau Cymdeithasol yma.