Nod y Siarter Cydraddoldeb Hil yw gwella cynrychiolaeth, profiad, dilyniant a llwyddiant staff a myfyrwyr ethnig leiafrifiedig mewn addysg uwch. Mae'n darparu fframwaith trwyadl i sefydliadau weithio drwyddo i nodi rhwystrau at gydraddoldeb, i adfyfyrio'n feirniadol amdanynt ac i weithredu yn eu cylch.
Advance HE yw鈥檙 sefydliad sy鈥檔 dyfarnu鈥檙 Wobr Efydd ac yn gwneud hynny er mwyn nodi ymrwymiad y Brifysgol i weithio tuag at gyflawni cydraddoldeb hil ar draws y sefydliad. Rhan o鈥檙 gwaith hwnnw yw Cynllun Gweithredu Hil dros gyfnod o 5 mlynedd.
Meddai鈥檙 Athro Morag Macdonald, Dirprwy Is-ganghellor dros Gydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant, Cadeirydd Pwyllgor Cydraddoldeb, Amrywiaeth, Cynhwysiant a Llesiant y Brifysgol, ac aelod gweithgar o D卯m Hunanasesu鈥檙 Siarter Cydraddoldeb Hil,
鈥Mae鈥檙 wobr hon yn tystio i鈥檙 gwaith gwych a wnaed gan D卯m Hunanasesu鈥檙 Siarter Cydraddoldeb Hil. Maent wedi ymgynghori鈥檔 helaeth 芒鈥檔 cymuned o staff a myfyrwyr, ac wedi gwneud gwaith sylweddol yn dadansoddi data i ddarparu darlun cynhwysfawr o鈥檙 heriau a鈥檙 cyfleoedd yn y Brifysgol. Y gwaith hwnnw sydd wedi arwain at ddatblygu鈥檙 cynllun gweithredu.鈥
Sefydlwyd y T卯m Hunanasesu ym mis Mawrth 2023 a dewiswyd yr aelodau yn seiliedig ar eu swyddi, eu harbenigeddau a'u profiadau bywyd. Un ystyriaeth ganolog wrth ffurfio鈥檙 t卯m oedd ymrwymiad i gynrychiolaeth amrywiol, gyda phwyslais arbennig ar glywed lleisiau鈥檙 gymunedau ethnig leiafrifol. Mae鈥檔 nodedig bod 37% o'r t卯m yn staff a myfyrwyr o gymunedau ethnig leiafrifol. Mae'r t卯m wir yn cynrychioli cymuned amrywiol y brifysgol.
Dros gyfnod o 18 mis mae鈥檙 t卯m hunanasesu wedi dangos ymroddiad ac ymrwymiad i'r broses hunanasesu. Roedd eu cyfraniadau鈥檔 eang eu cwmpas ac yn fawr eu heffaith, gan, er enghraifft, fynychu cyfarfodydd y t卯m, ymwneud 芒鈥檙 rhaglen 鈥楧eall Hil a Hiliaeth鈥, cydweithio 芒 Bwrdd Gweithredol y Brifysgol, arwain gweithgorau thematig, dadansoddi data sefydliadol, a gosod blaenoriaethau clir ar gyfer Cynllun Gweithredu Hil y Brifysgol.
Ychwanegodd Morag, 鈥淣id yw鈥檙 gwaith hanfodol yma鈥檔 dod i ben yn fan hyn. O droi ein golygon tua鈥檙 dyfodol, bydd aelodau'r T卯m Hunanasesu yn parhau 芒'u hymdrechion trwy fod yn rhan o weithgor newydd y Siarter Cydraddoldeb Hil, a fydd yn cyfarfod bob chwarter i fonitro cynnydd a sicrhau momentwm parhaus wrth roi'r cynllun gweithredu ar waith.
鈥淢ae鈥檙 Brifysgol yn parhau i fod yn gwbl ymroddedig i hyrwyddo cydraddoldeb hil a chreu amgylchedd cynhwysol i bawb.鈥
Cyhoeddir Cynllun Gweithredu Hil y Brifysgol yn y misoedd nesaf ochr yn ochr 芒 thudalennau newydd ar y wefan i staff am gydraddoldeb hil. Bydd Gwobr Efydd y Brifysgol yn ddilys am gyfnod o bum mlynedd.