Mae ymchwil o Brifysgol 亚洲色吧 yng Nghymru a Phrifysgol Abertay yn Dundee, yr Alban, wedi cynhyrchu prototeip o biobrawf llif sy'n gallu canfod hyd at bum haint, gyda modd dadansoddi鈥檙 canlyniadau'n gyflym a'u cyfathrebu trwy ap ff么n clyfar arbenigol.
Mae modd i鈥檙 broses gyflymu diagnosteg yn sylweddol a fyddai wedi cymryd wythnosau cyn hynny trwy ddarparu data yn y fan a'r lle. Mae hefyd yn llawer mwy fforddiadwy na'r model profi presennol, lle mae'n rhaid dadansoddi鈥檙 canlyniadau mewn labordy.
Gan ddefnyddio twbercwlosis fel achos peilot, dyluniodd yr ymchwilwyr y prawf 鈥 sy'n gweithio'n debyg i brawf brys 鈥 i allu canfod ystod o heintiau ac, yn bwysig, i allu canfod mwy nag un haint ar y tro.

Defnyddiodd y project ymchwil samplau serwm a ddarparwyd gan Sefydliad Iechyd y Byd o wledydd lle mae twbercwlosis yn gyffredin.
Cynhyrchodd ymchwilwyr brawf prototeip a ddefnyddiodd ddull mewnol newydd ar gyfer cynhyrchu'r nanoronynnau aur wedi'u gorchuddio 芒 gwrthgyrff sy'n ofynnol er mwyn iddo fod yn effeithiol.
Yna gweithiodd y t卯m i drawsnewid y prototeip o un mesuriad yn offeryn sgrinio aml-glefyd trwy ddefnyddio dyluniad newydd o gefndir wedi'i argraffu 芒 chwyr a oedd yn caniat谩u profi am hyd at bum clefyd ar yr un pryd. Drwy鈥檙 gwaith hwn gellir cael canlyniadau o fewn 15 munud a lleihau costau'r prawf.
Dangosodd y prawf sensitifrwydd o 90% a phenodolrwydd o 63% wrth ganfod twbercwlosis, sy'n golygu y gall nodi achosion yn gywir wrth ddarparu prawf sgrinio da ar gyfer lleoliadau anghysbell.
Datblygwyd rhaglen ff么n clyfar (RAP-TBS) i ddarparu dadansoddiad meintiol o ganlyniadau'r profion. Mae hyn yn golygu y gellid cynnal y prawf yn uniongyrchol mewn pentrefi anghysbell, gan ddarparu canlyniadau ar unwaith a lleihau'r angen i gleifion deithio pellteroedd sylweddol i gael mynediad i gyfleusterau labordy, sy鈥檔 aml yn wir mewn gwledydd lle mae seilwaith labordy traddodiadol yn ddiffygiol.
Er mwyn dod 芒'r prawf i'r farchnad, bydd ymchwil bellach yn canolbwyntio ar ymestyn oes silff yr adweithyddion canfod, mireinio manwl gywirdeb, a chydweithio 芒 darparwyr gofal iechyd i integreiddio'r offeryn i systemau gofal iechyd.
Arweiniwyd yr ymchwil gan yr Athro Christopher Gwenin o Gyfadran Gwyddorau Cymdeithasol a Chymhwysol Prifysgol Abertay, mewn cydweithrediad 芒'r Athro Mark Baird o Brifysgol 亚洲色吧, y datblygodd ei d卯m y moleciwlau a ddefnyddiwyd i ganfod heintiau mycobacteriol penodol. Gwnaed y gwaith hefyd gan y diweddar Joanne Hacking, ymchwilydd PhD ar y project.
Dywedodd yr Athro Baird, sydd bellach yn Athro Emeritws ym Mhrifysgol 亚洲色吧: 鈥淕yda datblygiad pellach, mae gan y ddyfais arloesol hon botensial gwirioneddol i ddarparu offeryn sgrinio cyflym iawn i roi diagnosis nid yn unig o dwbercwlosis, ond hefyd heintiau dynol ac anifeiliaid arwyddocaol eraill a achosir gan mycobacteria.鈥
Dywedodd yr Athro Gwenin: 鈥淢ae datblygiad y prawf gwaed prototeip hwn yn gam sylweddol ymlaen o ran arloesi ym maes gofal iechyd, gan gynnig modd o adnabod a rhoi diagnosis cyflym ar gyfer clefydau heintus lluosog mewn ardaloedd anghysbell. Gallai hyn yn wir achub bywydau. Mae gwella ein gallu i ganfod a thrin achosion o dwbercwlosis, a鈥檙 llu o glefydau eraill sy鈥檔 rhemp yn y byd sy鈥檔 datblygu, yn ffrwd bwysig o waith ac yn faes lle mae angen cynnal y momentwm o ran buddsoddi mewn ymchwil a datblygu.鈥
Mae effaith bosibl gwella profion mewn gwledydd sy'n datblygu yn sylweddol, gyda twbercwlosis yn parhau i fod yn un o glefydau heintus mwyaf marwol y byd ac yn hawlio tua 1.25 miliwn o fywydau bob blwyddyn 鈥 mwy na HIV/AIDS a malaria gyda'i gilydd.
Yn 么l Sefydliad Iechyd y Byd, mae angen US$ 22 biliwn ychwanegol yn flynyddol ar gyfer atal, diagnosis, triniaeth a gofal twbercwlosis, i gyrraedd y targed byd-eang erbyn 2027 y cytunwyd arno yn uwchgyfarfod 2023 y Cenhedloedd Unedig ar twbercwlosis
Ariannwyd yr ymchwil gan raglen A4B Llywodraeth Cymru, a darparwyd samplau o sbesimenau twbercwlosis o Raglen Arbennig UNICEF/UNDP/Banc y Byd/Sefydliad Iechyd y Byd ar gyfer Ymchwil a Hyfforddiant mewn Clefydau Trofannol. Cydweithiodd Novarum ar y project i ddatblygu'r cymhwysiad ff么n clyfar RAP-TBS.