Ynglŷn â’r Cwrs Yma
Gyda phlismona’n newid mae’r radd hon mewn Plismona Proffesiynol yn tynnu ar brofiad, tystiolaeth a theori sefydledig. Mae'n eich paratoi i atal ac ymateb i droseddu, gan feithrin ymddiriedaeth mewn cymunedau lleol.
Wedi'i thrwyddedu gan y Coleg Plismona, mae'n bodloni holl ofynion craidd y Fframwaith Cymwysterau Addysg Plismona (PEQF). Mae hyn yn golygu y gallwch, ar ôl graddio, wneud cais i ymuno â'r heddlu ar raglen gyrfa llwybr carlam unrhyw le yng Nghymru neu Loegr.
Byddwch yn elwa o'n harbenigedd cyfun – mewn ymchwil i blismona, achosion trosedd a rheoli trosedd, a sgiliau plismona ymarferol. Yn ogystal â gwybodaeth ddeddfwriaethol, polisi a gweithdrefnol, byddwch yn cael cipolwg ar arferion cyfredol yr heddlu.
Bydd y radd Blismona ymarferol hon yn rhoi’r sgiliau a’r wybodaeth briodol i chi addasu i gymhlethdod proffesiynol plismona modern, gan gynnwys natur newidiol troseddu a galwadau ar wasanaethau'r heddlu.
Byddwch yn barod ar gyfer gofynion emosiynol, corfforol a meddyliol gyrfa werth chweil yn yr heddlu a meysydd cysylltiedig. Bydd eich gwybodaeth fanwl am blismona a chyfiawnder troseddol, ynghyd â sgiliau cyfathrebu, arwain, perswadio, diplomyddiaeth ac ymchwil rhagorol, yn hynod ddeniadol i gyflogwyr y dyfodol. Nid dim ond mewn meysydd eraill o’r system cyfiawnder troseddol, ond hefyd unrhyw swydd yn y gwasanaeth sifil neu’r sector cyhoeddus.
Mae’r radd hon gan Brifysgol ÑÇÖÞÉ«°É sydd wedi’i thrwyddedu gan y Coleg Plismona wedi’i datblygu mewn partneriaeth â Grŵp Llandrillo Menai (GLLM). Byddwch yn cael eich addysgu yn gyfan gwbl ym Mhrifysgol ÑÇÖÞÉ«°É.
Pam dewis Prifysgol ÑÇÖÞÉ«°É ar gyfer y cwrs?
- Mae'r rhaglen yn manteisio ar gysylltiadau agos â Heddlu Gogledd Cymru ac asiantaethau cyfiawnder troseddol eraill yn yr ardal, o ran cynorthwyo myfyrwyr ag opsiynau gyrfa.
- Dysgu gan droseddegwyr sy’n weithgar mewn ymchwil a chyn-heddweision profiadolÂ
- Mae’r rhaglen radd wedi’i llunio i roi ymgysylltiad effeithiol i fyfyrwyr â chwricwlwm y Coleg Plismona sy'n cyfuno dysgu ymarferol ac academaidd drwy gydol y tair blynedd.Â
- Mae amrywiaeth o siaradwyr gwadd yn ychwanegu at y profiad dysgu.
- Rydym yn cynnig cefnogaeth fugeiliol ac arweiniad trwy dîm ymroddedig o diwtoriaid personol a chydlynwyr blwyddyn sy'n monitro perfformiad myfyrwyr ac yn rhoi arweiniad trwy gydol tair blynedd y rhaglen radd.
Cynnwys y Cwrs
Yn seiliedig ar y cwricwlwm cenedlaethol i fod yn gwnstabl yr heddlu, mae’r BSc (Anrh) Plismona Proffesiynol hwn yn eich dysgu am hanes plismona a phlismona cyfoes. Mae hyfforddiant academaidd, seiliedig ar dystiolaeth a’r arferion gorau, yn rhoi'r sgiliau, yr agweddau a'r wybodaeth i chi addasu i newid yn y dyfodol.
Byddwch yn dysgu sut i gymhwyso theori i ymarfer, boed hynny'n cynnal ymchwiliadau, yn cydlynu ymateb yr heddlu i ddigwyddiad neu'n datblygu ymgysylltiad cymunedol. Gan fabwysiadu ymagwedd strategol, byddwch nid yn unig yn ystyried pam mae pobl yn cyflawni trosedd, er enghraifft, ond hefyd beth sy'n gwneud pobl yn agored i droseddu a sut i ddyfeisio strategaethau i amddiffyn a chefnogi dioddefwyr. Wrth i'r radd fynd rhagddi, byddwch yn ymdrin â gweithgareddau mwy arbenigol, fel seiberdroseddu, troseddau trefnedig, gwrthderfysgaeth a phlismona ffyrdd y wlad.
Byddwn yn eich annog i ennill profiad gweithredol trwy ddod yn gwnstabl gwirfoddol, rhywbeth y mae rhai o'n myfyrwyr blaenorol wedi'i wneud.
Elfennau allweddol o arferion plismona modern yw'r model penderfynu cenedlaethol (NDM) a safonau ymddygiad proffesiynol cysylltiedig, sy'n rhoi moeseg wrth wraidd holl benderfyniadau'r heddlu. Byddwch yn dod i werthfawrogi pwysigrwydd meithrin ymddiriedaeth a hyder yn y cyhoedd a sut i ddefnyddio’r model penderfynu cenedlaethol yn effeithiol, gan gymhwyso modelau plismona a sgiliau cyfathrebu gwahanol yn dibynnu ar amryfal amgylchiadau.
Trwy gydol eich astudiaethau byddwch yn clywed profiadau uniongyrchol gan siaradwyr gwadd megis uwch swyddogion heddlu, gweithwyr estyn allan ym maes cyffuriau a staff cyfiawnder troseddol. Bydd digon o gyfleoedd hefyd i drafod straeon newyddion poblogaidd – yn ddiweddar bu myfyrwyr seiberdroseddu’n trafod gwrywdod gwenwynig yng nghyd-destun Andrew Tate ar y cyfryngau cymdeithasol.
Modiwlau ar gyfer y flwyddyn academaidd gyfredol
Mae’r rhestrau modiwlau ar gyfer eich arwain yn unig ac fe allant newid. Cymerwch olwg ar yr hyn y mae ein myfyrwyr yn ei astudio ar hyn o bryd ar tudalen Modiwlau Plismona Proffesiynol BSc (Anrh).
Mae cynnwys y cwrs wedi’i nodi i’ch arwain yn unig ac fe all newid.
Cyfleusterau
Cyfleusterau Cyffredinol y Brifysgol
Gwasanaeth Llyfrgell ac Archifau
Mae ein pedair llyfrgell yn cynnig amrywiaeth o amgylcheddau astudio braf gan gynnwys mannau gweithio cydweithredol, ystafelloedd cyfarfod a mannau tawel i astudio.
Mae yma gasgliad mawr o lyfrau a chylchgronau, ac mae llawer o'r cylchgronau ar gael ar gyfrifiadur mewn fformat testun llawn.
Mae gennym hefyd un o’r archifau prifysgol mwyaf nid yn unig yng Nghymru ond hefyd drwy holl wledydd Prydain. Yn gysylltiedig â'r archifau mae casgliadau arbennig o lyfrau printiedig prin.
Adnoddau Dysgu
Mae yma ddewis eang o adnoddau dysgu, sy’n cael eu cefnogi gan staff profiadol, i’ch helpu i astudio.Â
Mae gwasanaethau TG y Brifysgol yn darparu cyfleusterau a gwasanaethau cyfrifiaduro, cyfryngau a reprograffeg sy’n cynnwys:Â
- Dros 1,150 o gyfrifiaduron i fyfyrwyr, gyda rhai ystafelloedd cyfrifiaduron ar agor 24 awr bob dydd
- Blackboard, rhith-amgylchedd dysgu masnachol, sy’n galluogi i ddeunydd dysgu fod ar gael ar-lein.
Costau'r Cwrs
Costau Cyffredinol yn y Brifysgol
Myfyrwyr Cartref (DU)
- Cost cwrs israddedig llawn-amser yw £9,250 y flwyddyn (2025/26).
- Y ffi ar gyfer pob blwyddyn dramor integredig yw £1,385 (2025/26).
- Y ffi ar gyfer blwyddyn mewn diwydiant integredig fel rhan o'r cwrs yw £1,850 (2025/26).
Mwy o wybodaeth am ffioedd a chyllid i fyfyrwyr Cartref (DU).
Myfyrwyr Rhyngwladol (yn cynnwys yr UE)
Costau Ychwanegol
Mae yna hefyd rai costau ychwanegol cyffredin sy'n debygol o godi i fyfyrwyr ar bob cwrs, er enghraifft:
- Os dewiswch chi astudio dramor neu gymryd y Flwyddyn Profiad Rhyngwladol fel rhan o'ch cwrs.
- Os ydych chi'n mynd i'ch Seremoni Raddio, bydd cost llogi gŵn (£25- £75) a chost am docynnau i westeion ychwanegol (tua £12 yr un).
Costau ychwanegol cwrs-benodol
Yn dibynnu ar y cwrs rydych chi'n ei astudio, efallai y bydd costau ychwanegol cwrs-benodol y bydd gofyn i chi eu talu. Gellir rhoi'r costau hyn mewn tri chategori:
- Costau Gorfodol: mae'r rhain yn gysylltiedig â modiwl craidd neu orfodol penodol y mae'n ofynnol i chi ei gwblhau i gwblhau eich cymhwyster e.e. teithiau maes gorfodol, gwisgoedd i fyfyrwyr ar leoliad, gwiriad gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS).
- Costau Angenrheidiol: efallai na fydd pob myfyriwr yn cael y costau hyn, a bydd yn amrywio yn dibynnu ar y cwrs e.e. aelodaeth o gorff proffesiynol, teithio i leoliadau, meddalwedd arbenigol, cyfarpar diogelu personol.
- Costau Dewisol: mae'r rhain yn dibynnu ar eich dewis o fodiwlau neu weithgaredd, ac fe'u dangosir er mwyn rhoi syniad ichi o'r costau dewisol a allai godi i sicrhau bod cymaint o wybodaeth â phosibl ar gael i chi cyn i chi wneud eich dewis. Gall y rhain gynnwys digwyddiadau graddio ar gyfer eich cwrs, teithiau maes dewisol, tripiau Wythnos Groeso.
Gofynion Mynediad
TGAU: C/4 mewn Mathemateg a Cymraeg/Saesneg.
Mae'r cynigion yn seiliedig ar dariffau, 96 - 120 pwynt tariff o gymwysterau Lefel 3* e.e.:
Lefel A:Â Ni dderbynnir Astudiaethau Cyffredinol a Sgiliau Allweddol fel rheol.
- Diploma Estynedig Cenedlaethol BTEC: MMM- DDM
- Diploma Technegol Estynedig Caergrawnt: MMM - DDM
- Diploma Estynedig Technegol Uwch City & Guilds (1080):Â MMM - DDM
- Diploma Estynedig Lefel 3 NCFE CACHE: gradd C
- Diploma’r Fagloriaeth Ryngwladol: derbynnir
- Access:Â Pasio yn ofynnol
- Bagloriaeth Cymru: Byddwn yn derbyn y cymhwyster hwn ar y cyd â chymwysterau lefel 3 eraill
- Lefelau T: Ystyrir lefelau T mewn pwnc perthnasol fesul achos
- Project Estynedig:Â Gall y pwyntiau gynnwys Project Estynedig (EPQ) perthnasol ond rhaid iddynt gynnwys o leiaf 2 lefel A llawn, neu gyfwerth.
Rydym yn hapus i dderbyn cyfuniadau o'r cymwysterau a restrir uchod, yn ogystal â chymwysterau Lefel 3 amgen fel City & Guilds, Cwrs Mynediad a Diploma Technegol Estynedig Caergrawnt.
Rydym hefyd yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr hÅ·n.
Ymgeiswyr Rhyngwladol: derbyniwn gymwysterau ymadael â’r ysgol cyfwerth â lefel A/Lefel 3 a/neu diplomâu colegau o wledydd ledled y byd (yn amodol ar ofynion iaith Saesneg penodol). manylionÂ
*I gael rhestr lawn o gymwysterau Lefel 3 a dderbynnir, ewch i .
Sylwer: Nid yw cwblhau'r radd hon yn sicrhau cewch eich recriwtio i'r heddlu. Cynghorir y sawl sydd yn cynllunio gyrfa gyda'r heddlu, wirio'r meini prawf cymhwystra sydd wedi eu gosod gan y gwasanaethau heddlu unigol.Â
Gofynion Cyffredinol y Brifysgol
I astudio cwrs gradd mae’n rhaid i chi gael isafswm o bwyntiau tariff UCAS. Am eglurhad manwl o bwyntiau tariff UCAS, ewch i .
Rydym yn derbyn myfyrwyr â phob math o gymwysterau a chefndiroedd ac yn ystyried pob cais yn unigol.
Mae’n rhaid i bob ymgeisydd gael sgiliau sylfaenol da ond mae’r Brifysgol hefyd yn gweld pwysigrwydd sgiliau cyfathrebu a thechnoleg gwybodaeth.Â
Mae’n bolisi gan y Brifysgol i ystyried ceisiadau gan ddarpar fyfyrwyr anabl yn yr un modd â; phob cais arall.
Rydym yn ystyried ceisiadau gan fyfyrwyr hÅ·n sy’n medru dangos fod ganddynt y gallu a’r ymrwymiad i astudio rhaglen prifysgol. Bob blwyddyn rydym yn cofrestru nifer sylweddol o fyfyrwyr hÅ·n. Am fwy o wybodaeth am astudio fel myfyriwr aeddfed, ewch i adran Astudio ym Mangor.ÌýÌý
Gyrfaoedd
Ar ôl ennill y radd Plismona Proffesiynol hon, byddwch yn barod i wneud cais i ddod yn gwnstabl heddlu ar brawf gydag unrhyw heddlu yng Nghymru neu Loegr. Yn wir, mae rhai o’n graddedigion wedi llwyddo i gael swydd gyda Heddlu Gogledd Cymru.
Gallwch wneud cais am swyddi proffesiynol eraill yn yr heddlu, fel swyddogion cymorth cymunedol, gweithredwyr ystafell reoli a dadansoddwyr. Gallech hefyd ddilyn llu o yrfaoedd eraill fel sifiliad yn y maes cyfiawnder troseddol gan weithio i'r heddlu, byd y llysoedd, carchardai neu’r gwasanaeth prawf, troseddau ieuenctid, asiantaethau cudd-wybodaeth a diogelwch cenedlaethol, diogelwch preifat, cyfiawnder cymunedol, a chymorth i ddioddefwyr. Dros amser, efallai y byddwch yn dewis arbenigo mewn meysydd penodol, megis seiberdroseddu neu ymchwilio i dwyll, er enghraifft.
Yn ystod eich astudiaethau, byddwch yn ennill dealltwriaeth gadarn o blismona ar sail tystiolaeth a'r defnydd o ddulliau ymchwil y gwyddorau cymdeithasol, ynghyd â llu o sgiliau trosglwyddadwy. Yn arbennig, bydd eich sgiliau dadansoddi, datrys problemau, rhesymu, perswadio, cyd-drafod, a chloriannu beirniadol o ddiddordeb i lywodraeth leol neu ganolog, sefydliadau gwirfoddol, elusennau, sefydliadau ymchwil, melinau trafod a darparwyr addysg.
Gallwch hefyd ddewis parhau â'ch astudiaethau ar ein MA Troseddeg a Chyfiawnder Troseddol neu un o'r cyrsiau ôl-raddedig eraill a gynigiwn, er mwyn hyfforddi fel ymchwilwyr a darlithwyr mewn addysg uwch.
Ymhlith y swyddi nodweddiadol mae:
- Swyddog cyfarwyddyd i oedolion
- Swyddog Llu'r Ffiniau
- Swyddog datblygu cymunedol
- Cwnselydd
- Ymchwilydd safle trosedd
- Ditectif
- Rheolwr/swyddog tai
- Swyddog llywodraeth leol
- Paragyfreithiwr
- Swyddog yr heddlu
- Dadansoddwr risg gwleidyddol
- Swyddog carchar
- Ymchwilydd preifat
- Swyddog prawf neu barôl
- Ymchwilydd
- Ymchwilydd cymdeithasol
- Gweithiwr cymdeithasol
- Cyfreithiwr
- Eiriolydd dioddefwyr
- Gweithiwr ieuenctid
Cyfleoedd ym Mangor
Mae Gwasanaeth Sgiliau a Chyflogadwyedd y Brifysgol yn cynnig amryw o adnoddau i’ch helpu i gyflawni eich amcanion ar ôl graddio.
Rhaglen Interniaeth Prifysgol ÑÇÖÞÉ«°É
Mae Prifysgol ÑÇÖÞÉ«°É yn cynnal cynllun interniaeth â thâl yn adrannau academaidd a gwasanaethau’r Brifysgol.
Gwirfoddoli
Mae gwirfoddoli yn ehangu eich profiadau ac yn gwella eich cyflogadwyedd. Cewch fwy o wybodaeth am wirfoddoli ar wefan .
Gweithio tra'n astudio
Mae TARGETconnect yn hysbysebu swyddi lleol, cenedlaethol a rhyngwladol i raddedigion, cyfleodd profiad gwaith ac interniaethau a chyfleon gwirfoddol.
Adroddiad Cyflawniad Addysg Uwch (HEAR)
Ceir pob myfyriwr sy’n graddio adroddiad terfynol HEAR. Mae’r adroddiad yn rhestru holl gyflawniadau academaidd ac allgyrsiol fel bod darpar gyflogwyr yn ymwybodol o’r sgiliau ychwanegol rydych wedi eu hennill tra yn y Brifysgol.