Mae cystadleuaeth ffuglys yn efelychu gwrandawiad llys (fel arfer yn y Llys Ap锚l neu uwch) lle mae myfyrwyr yn chwarae rhan bargyfreithiwr neu gyfreithiwr, ac yn datblygu eu sgiliau ymchwil, datrys problemau ac eiriolaeth.听
Mae ffuglys yn gofyn bod myfyrwyr yn paratoi cyflwyniadau ysgrifenedig a chyflwyno dadl lafar resymegol. Mae'r senarios fel arfer yn ymwneud 芒 maes dadleuol, neu ansefydlog yn y gyfraith, neu faes sydd wedi newid yn ddiweddar, neu ddatblygiad cyfreithiol newydd.听
Bob blwyddyn mae staff Goruchaf Lys y Deyrnas Unedig yn gwahodd dros 100 o ysgolion y gyfraith yn y Deyrnas Unedig i gystadlu am y cyfle i gynnal rownd derfynol eu cystadleuaeth ffuglys yn y Goruchaf Lys, gerbron un o'r 12 ynad. Goruchaf Lys y Deyrnas Unedig yw'r llys ap锚l olaf yn y Deyrnas Unedig ar gyfer achosion sifil, ac ar gyfer achosion troseddol o Gymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon. Mae'r llys yn clywed achosion o'r pwysigrwydd cyhoeddus neu gyfansoddiadol mwyaf, sy'n effeithio ar y boblogaeth gyfan.听
Stephen Clear, Arweinydd Pwnc y Gyfraith a Darlithydd Cyfraith Gyfansoddiadol a Gweinyddol yr Ysgol Hanes, y Gyfraith a Gwyddorau Cymdeithas, yw Cydlynydd Ffuglys yr ysgol ac ef arweiniodd gais Prifysgol 亚洲色吧 i'r Goruchaf Lys at y flwyddyn nesaf.听
Meddai am y llwyddiant:听
鈥淢ae鈥檔 anrhydedd mawr cael y cyfle hwn. Dyma fydd y trydydd tro i Brifysgol 亚洲色吧 gael y fraint hon ar lefel genedlaethol. Ni oedd yr ysgol y gyfraith gyntaf o Gymru i ddadlau yn y Goruchaf Lys yn 2013, pan gyflwynodd ein myfyrwyr eu dadleuon gerbron yr Arglwydd Kerr a Hefin Rees QC. Yn 2017 cawsom y cyfle eto, a daethom yn ysgol y gyfraith gyntaf i ddadlau senario yn ymwneud 芒 maes cyfraith gyhoeddus yng nghyd-destun dargyfeiriad rhwng y deddfau yng Nghymru a Lloegr.听
"Yn 2017, clywyd ein hachos gan Ynad Goruchaf Lys Cymru, yr Arglwydd Lloyd-Jones, a'i gynorthwyydd barnwrol. Rydym yn falch iawn o gael cyfle i ddychwelyd i'r llys eto'r flwyddyn nesaf, i drafod cwestiwn sy'n ymwneud 芒 chyfraith gyhoeddus a hawliau dynol. Mae cyfleoedd fel y rhain yn gwneud byd o wahaniaeth i gyflogadwyedd ein myfyrwyr, gyda nifer o'r rhai sydd wedi cymryd rhan yn y rhaglenni hyn o'r blaen bellach yn gweithio fel bargyfreithwyr a chyfreithwyr."
Meddai Stephen Clear: 鈥淢ae鈥檙 ffuglys ym Mhrifysgol 亚洲色吧 yn parhau i fynd o nerth i nerth, ac mae鈥檙 llwyddiant diweddaraf hwn yn dilyn llawer o lwyddiant cenedlaethol yn 2021. Mae Prifysgol 亚洲色吧 eisoes wedi cyrraedd y rhestr o 32 o ysgolion y gyfraith olaf yn yr Inns of Court College of Advocacy and Oxford University Press National Moot Competition, yn dilyn llwyddiant myfyrwyr y Gyfraith Danial Barrett ac Anne-Marie Radiguet-Correa yn erbyn Prifysgol Huddersfield y mis diwethaf. Byddan yn cystadlu yn erbyn Prifysgol Abertawe ar 么l y Nadolig.鈥
鈥淢ae myfyrwyr y gyfraith Joe Brittan a Nour Kasir hefyd wedi cynrychioli Prifysgol 亚洲色吧 gyda rhagoriaeth yn y National Michael Corkery QC Criminal Law Moot (a drefnwyd gan 5 Paper Buildings) a chystadleuaeth Advocate of the Year BPP. Mae wedi bod yn semester prysur iawn ac mae mwy i ddod ar 么l y Nadolig, gyda myfyrwyr yn paratoi at ffuglys rhyngwladol dros gyfnod y gwyliau. 听
鈥淢ae'r llwyddiannau hyn ar lefel genedlaethol yn glod i鈥檙 t卯m i gyd. Maent yn dyst i ymroddiad ac ymrwymiad ein myfyrwyr. Yn enwedig eu gallu i ymchwilio i'r gyfraith a'r datblygiadau diweddaraf yn gadarn ac yn drylwyr; yn ogystal 芒 chyflwyno dadleuon llafar rhesymegol yn huawdl wrth ateb cwestiynau dan bwysau. Diolch hefyd i aelodau staff academaidd Ysgol y Gyfraith a gynigiodd arweiniad hyfforddi pellach eleni, gan gynnwys Dr Ama Eyo, Mr Thomas Perry, a Ms Chaynee Hodgetts.鈥
Ceir rhagor o fanylion yn ymwneud 芒 Rhaglenni Ffuglys Prifysgol 亚洲色吧 yma.
Ceir rhagor o fanylion .
听