ÑÇÖÞÉ«°É

Fy ngwlad:
Llyfrau yn y llyfrgell

Ysgol Hanes, y Gyfraith a Gwyddorau Cymdeithas CROESO

Croeso i'r Ysgol Hanes, y Gyfraith a Gwyddorau Cymdeithas.

Rydym yn cynnig llawer o raglenni cyffrous, gan gynnwys Hanes Modern, Hanes Modern a Chanoloesol Cynnar, Archaeoleg, Treftadaeth, Athroniaeth a Chrefydd, y Gyfraith, Troseddeg, Plismona, Cymdeithaseg a Pholisi Cymdeithasol yn ogystal â Gwleidyddiaeth.

Mae gennym hanes balch a hir o addysgu ac ymchwil o safon, gan fynd yn ôl, mewn rhai achosion, i 1884, pan sefydlwyd y Brifysgol. Er ein bod yn ymdrin ag ystod eang o bynciau, mae gan yr Ysgol gryfderau ar draws pob disgyblaeth mewn addysgu ac ymchwil yn seiliedig ar gymdeithas, hunaniaethau, cyfiawnder a diwylliannau.

Yr Athro Peter Shapely

Myfyrwyr yng Nghanolfan Addysg Grefyddol Prifysgol ÑÇÖÞÉ«°É

Canolfan Genedlaethol Addysg Grefyddol Cymru

Mae'r Ganolfan Genedlaethol Addysg Grefyddol Cymru yn ganolfan newydd a deinamig a’r nod o weithio i sicrhau bod Addysg Grefyddol yn ei hystyr ehangaf, o ran astudio crefyddau amrywiol, athroniaethau, moeseg, gwerthoedd a bydolygon, yn cael ei diogelu.

Wrth wraidd y Ganolfan, mae hyrwyddo addysg, annog parch at fydolygon a thraddodiadau gwahanol, a gwneud yr hyn sy’n bosib i geisio gofalu ein bod yn byw mewn cymdeithas gynhwysol.

Llun o lyfr a cwpan o de ar fwrdd gwyn

Clinig Cyngor Cyfreithiol Prifysgol ÑÇÖÞÉ«°É (BULAC)

Mae'r Clinig Cyngor Cyfreithiol Prifysgol ÑÇÖÞÉ«°É (BULAC)Ìý yn darparu cyngor cyfreithiol am ddim i aelodau'r cyhoedd (a staff a myfyrwyr). Rhoddir yr holl gyngor gan fyfyrwyr y gyfraith sydd ar eu blwyddyn olaf ym Mhrifysgol ÑÇÖÞÉ«°É, a hynny dan oruchwyliaeth cyfreithwyr cymwys. Nod y Clinig yw cyfuno’r angen am fynediad at gyfiawnder yn y fro, parhau i feithrin y berthynas rhwng y Brifysgol â’r gymuned, a darparu addysg gyfreithiol glinigol eithriadol i’n myfyrwyr.

Prifysgol ÑÇÖÞÉ«°É, ÑÇÖÞÉ«°É, LL57 2DG

Cysylltwch â ni

Prifysgol ÑÇÖÞÉ«°É, ÑÇÖÞÉ«°É, LL57 2DG