Arweinir Sefydliad Bochum gan yr Athro Stefan Berger, sy'n arbenigo mewn astudiaethau cenedlaetholdeb ac hunaniaeth genedlaethol, hanesyddiaeth a theori hanesyddol, astudiaethau llafur cymharol, a hanes treftadaeth ddiwydiannol. Cyn dod i Bochum, bu'n dysgu yng Nghaerdydd, Prifysgol Morgannwg, a Phrifysgol Manceinion.

Dywedodd Alexander, 鈥淢ae鈥檔 anrhydedd i mi gael fy ethol i鈥檙 r么l allweddol hon, ac i wasanaethu sefydliad hynod lwyddiannus sydd wedi ehangu ei weithgareddau鈥檔 fawr ers ei sefydlu yn 1980. Mae gan y Sefydliad safle unigryw sy鈥檔 cynnig ystod eang o wasanaethau i fyfyrwyr, ymchwilwyr a鈥檙 cyhoedd 芒 diddordeb 鈥 yn enwedig o ran mudiadau cymdeithasol a gorffennol a phresennol rhanbarth Ruhr, ardal drefol fwyaf yr Almaen gyda phoblogaeth o dros 5 miliwn.
鈥淩wy鈥檔 awyddus i helpu i ehangu cysylltiadau rhyngwladol niferus y Sefydliad. Mae'r Sefydliad wedi ymrwymo'n arbennig i Gymdeithas Ryngwladol Sefydliadau Hanes Llafur (IALHI), yr Ysgol Ewropeaidd i Raddedigion ar gyfer Hyfforddiant mewn Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol (ESTER), a Chynhadledd Ryngwladol Hanes Llafur a Chymdeithasol. Mae Sefydliad Hanes y Ruhr, sydd wrth asgwrn cefn y Sefydliad, hefyd yn ariannu Gwobr Haneswyr Bochum, un o鈥檙 gwobrau mwyaf mawreddog ym maes hanes yn yr Almaen. Mae enillwyr y gorffennol yn cynnwys yr haneswyr o'r DU Eric Hobsbawm, Catherine Hall, a Frank Trentmann. Byddwn yn annog cydweithwyr ym Mangor i ystyried cyfrannu erthyglau i'r cyfnodolyn rhyngwladol a adolygir gan gymheiriaid y sefydliad, Moving the Social 鈥 Journal of Social History and the History of Social Movements, sydd 芒鈥檌 wreiddiau yn nisgyblaeth hanes ond sydd 芒 diddordeb amlwg mewn gwaith a gynhyrchwyd ar faterion cymdeithasol a mudiadau cymdeithasol gan ddisgyblaethau eraill, yn enwedig y gwyddorau cymdeithasol, daearyddiaeth, anthropoleg ac ethnoleg.鈥