
Cafwyd trafodaeth hynod ddiddorol ar raglen arbennig o Bwrw Golwg (BBC Radio Cymru), ddydd Sul, 18 Awst 2024, a ganolbwyntiai ar y newidiadau mawr yn y Cwricwlwm i Gymru o ran addysg rhyw ac addysg grefyddol. Yn ymuno â’r cyflwynydd, Gwenfair Griffith, a’r siaradwyr eraill, Beca Brown, Mefys Jones-Edwards, a Rachel Bendall, roedd Dr Gareth Evans-Jones, Darlithydd Athroniaeth a Chrefydd, Prifysgol ÑÇÖÞÉ«°É, ac un o Gyfarwyddwyr Canolfan Genedlaethol Addysg Grefyddol Cymru (CGAGC).Ìý

Yn y rhaglen, trafodwyd yr heriau sydd wedi codi ers newid addysg rhyw i fod yn bwnc gorfodol a thynnu’r gallu gan rieni a gwarcheidwaid i dynnu eu plant o’r gwersi hynny, ynghyd a manteision posib ymagwedd o’r fath.
Yn dilyn hynny, ystyriwyd y newid i Addysg Grefyddol sydd bellach yn bwnc newydd – ÌýCrefydd, Gwerthoedd a Moeseg – ac yn un y gellid, yn ôl dewis pob ysgol yn unigol, un ai ei addysgu fel pwnc yn ei hawl ei hun neu fel pwnc hybrid, y Dyniaethau, sydd hefyd yn cynnwys Hanes, Daearyddiaeth, Astudiaethau Busnes, ymysg pynciau eraill.Ìý
Ìý
Fasa'r addysg yma [Crefydd, Gwerthoedd a Moeseg] yn galluogi pobl ifanc i fedru mynd i'r byd ac ymwneud â'r byd mewn ffordd barchus a goddefgar yn ogystal.
Dr Gareth Evans-Jones
Ym mis Ebrill 2024, cyhoeddodd CGAGC adroddiad a luniwyd gan gyfarwyddwyr y Ganolfan, yr Athro Lucy Huskinson, Dr Joshua Andrws a Dr Gareth Evans-Jones, a’u cymrawd ymchwil, Ms Rachel Healand-Sloan, i ymatebion athrawon ynghylch y newid yma yn y modd yr addysgir y pwnc. Trafododd Dr Evans-Jones hyn a’r ail gam i’w hymchwil yn ystod y rhaglen a derbyn adborth hynod fuddiol.
Mae modd ichi ddal i fyny â’r bennod arbennig hon o Bwrw Golwg yma: .
Darllenwch fwy am yr adroddiad yma: Cyflwyno adroddiad arwyddocaol yn y Senedd.