Ynglŷn â’r Cwrs Yma
Mae ein cwrs Llenyddiaeth Saesneg ac Iaith Saesneg (gyda Blwyddyn Sylfaen) yn gwrs pedair blynedd gyda blwyddyn sylfaen integredig sy'n arwain at yr un cymhwyster â'r radd anrhydedd tair blynedd. Cynlluniwyd y cwrs yn benodol i fyfyrwyr sydd eisiau astudio ar lefel gradd ond nad ydynt yn bodloni'r gofynion mynediad neu ddim yn meddu ar gymwysterau traddodiadol.
Mae'r cwrs hwn yn rhoi cyfle i chi astudio dwy agwedd bwysig ar yr iaith a ddisgrifir orau yn y byd. Byddwch yn edrych ar sut mae Saesneg yn gweithio, pam a sut y caiff ei defnyddio, ac o ble y daeth. Bydd cydran Iaith Saesneg y radd hon yn rhoi’r cyfle i chi ddysgu am strwythur gramadegol y Saesneg (e.e., sut y caiff geiriau a brawddegau eu ffurfio), sut y caiff ystyr ei gwneud, ei dehongli a'i hymestyn dros ddisgyrsiau cyfan, sut y caiff seiniau eu ffurfio, eu cynhyrchu a'u deall, a sut mae defnydd iaith yn amrywio ymhlith siaradwyr a grwpiau a sut mae'n newid dros amser.
Byddwch hefyd yn archwilio hanes y Saesneg, datblygiad ac ymddangosiad tafodieithoedd Saesneg a’r gwahanol fath o Saesneg a siaredir ledled y byd, sut mae'r Saesneg yn cael ei defnyddio mewn cymdeithas (e.e., sut mae newidynnau cymdeithasol-ddiwylliannol yn llunio'r defnydd o'r Saesneg) a lle’r Saesneg mewn cymdeithas, mewn addysg ac fel lingua franca fyd-eang.
Wrth astudio Llenyddiaeth Saesneg, byddwch yn darllen ac yn dysgu sut i ddadansoddi'n feirniadol amrywiaeth o lenyddiaeth Saesneg mewn gwahanol genres a ffurfiau ac o bob rhan o hanes Lloegr, o'r cyfnod Eingl-Sacsonaidd hyd heddiw.Byddwch hefyd yn datblygu technegau beirniadol, sgiliau darllen llenyddiaeth a sgiliau astudio testunau ac awduron o amrywiaeth eang o lenyddiaeth Saesneg Prydain ac America. Caiff gweithiau llenyddol eu hastudio mewn gwahanol ffyrdd - gan edrych ar gyd-destunau cymdeithasol neu wleidyddol, neu gymryd agwedd fwy ieithyddol neu arddulliadol.
Mae'r flwyddyn sylfaen (blwyddyn 0) yn gyfle i chi ehangu a chryfhau eich hyder, sgiliau a gwybodaeth - gan sicrhau eich bod yn barod ac yn gymwys i symud ymlaen i Flwyddyn 1 y radd israddedig.
Pam dewis Prifysgol ÑÇÖÞÉ«°É ar gyfer y cwrs?
- Rydym yn adran fywiog, hygyrch a chyfeillgar ac mae’r staff wedi ymrwymo i addysgu o ansawdd uchel, i gynnig profiad rhagorol i fyfyrwyr, cefnogaeth fugeiliol gref, ac i gyfuno ymchwil a phynciau blaengar cyfredol yn eich darlithoedd trwy gydol eich astudiaethau. ÌýRydym hefyd yn ymroddedig i sicrhau bod ein myfyrwyr Iaith Saesneg a Llenyddiaeth Saesneg (gyda Blwyddyn Sylfaen) yn datblygu sgiliau rhagorol mewn meddwl yn feirniadol, dadansoddi data, cyflwyno ac ymchwil annibynnol i wella eu cyflogadwyedd ar ôl graddio.
- Rydym wedi ymrwymo i addysgu mewn grwpiau bach: cyflwynir llawer o'n modiwlau trwy seminarau wythnosol, ochr yn ochr â darlithoedd; addysgir eraill trwy seminarau wythnosol yn unig.
- Byddwch yn cael dealltwriaeth gadarn o strwythur a defnydd iaith yn ogystal â datblygu’r gallu i ddadansoddi amrywiaeth eang o lenyddiaeth yn feirniadol.
- Mae’r staff addysgu’n ymchwilwyr gweithgar mewn amryw o feysydd damcaniaethol a chymhwysol sy'n ymwneud ag Iaith Saesneg, Ieithyddiaeth, Ieithyddiaeth Gymhwysol, Llenyddiaeth Saesneg - mae gan lawer enw da’n rhyngwladol yn y maes.
- Mae gennym gyfleusterau dysgu o’r radd flaenaf gan gynnwys stiwdio sain/ recordio o safon broffesiynol (ein labordy Lleferydd), labordy tracio llygaid, a labordy potensial digwyddiad-berthynol (ERP) a chyfleuster adnoddau ieithyddiaeth corpws. Mae gennym hefyd offer sain a fideo at waith maes. Mae’r cyfleusterau hefyd yn cynnwys casgliad helaeth o lyfrau am Ieithyddiaeth ac Iaith Saesneg a llyfrgell iaith a gynhelir gan gymdeithas y myfyrwyr israddedig - Cymdeithas Ieithyddiaeth ÑÇÖÞÉ«°É (BLS).
- Byddwch yn ymuno â chymuned lenyddol fywiog. Mae gennym gysylltiadau agos â Pontio, canolfan gelfyddydau'r brifysgol, theatrau lleol, grwpiau barddoniaeth a chymdeithasau myfyrwyr bywiog - yn cynnwys Cymdeithas Ddrama Saesneg ÑÇÖÞÉ«°É (BEDS) - mae llawer o gyfleoedd i chi gymryd rhan.
Opsiynau Cwrs Ychwanegol
Mae'r cwrs hwn ar gael fel opsiwn 'gyda Blwyddyn ar Leoliad' lle byddwch yn astudio am flwyddyn ychwanegol. Mae'r myfyrwyr yn gwneud y Flwyddyn ar Leoliad ar ddiwedd yr ail flwyddyn ac maent i ffwrdd o'r Brifysgol am y flwyddyn academaidd gyfan.
Mae Blwyddyn ar Leoliad yn gyfle gwych i chi ehangu eich gorwelion a datblygu sgiliau a chysylltiadau hynod ddefnyddiol trwy weithio gyda sefydliad sy'n berthnasol i bwnc eich gradd. Y cyfnod lleiaf ar leoliad (mewn un lleoliad neu fwy nag un lleoliad) yw saith mis calendr; fel rheol mae myfyrwyr yn treulio 10-12 mis gyda darparwr lleoliad. Byddwch fel rheol yn dechrau rywbryd yn y cyfnod rhwng mis Mehefin a mis Medi yn eich ail flwyddyn ac yn gorffen rhwng mis Mehefin a mis Medi y flwyddyn ganlynol. Gall y lleoliad fod yn y Deyrnas Unedig neu dramor a byddwch yn gweithio gyda'r staff i gynllunio a chwblhau trefniadau eich lleoliad.
Bydd disgwyl i chi ddod o hyd i leoliad sy'n addas i'ch gradd, a'i drefnu, ac mi gewch chi gefnogaeth lawn gan aelod pwrpasol o staff eich Ysgol academaidd a Gwasanaeth Sgiliau a Chyflogadwyedd y Brifysgol.
Bydd gennych y cyfle i ystyried yr opsiwn hwn yn llawn ar ôl cychwyn eich cwrs ym Mangor a gallwch wneud cais i drosglwyddo i'r opsiwn hwn ar yr adeg priodol. Darllenwch fwy am y cyfleoedd profiad gwaith sydd ar gael neu, os oes gennych unrhyw ymholiad, mae croeso i chi gysylltu â ni.
Mae'r cwrs hwn ar gael fel opsiwn 'gyda Blwyddyn Profiad Rhyngwladol' lle byddwch yn astudio neu'n gweithio am flwyddyn yn ychwanegol. Bydd ‘gyda Phrofiad Rhyngwladol’ yn cael ei ychwanegu at deitl eich gradd pan fyddwch yn graddio.Ìý
Mae astudio dramor yn gyfle gwych i weld ffordd wahanol o fyw, i ddysgu am ddiwylliannau newydd ac ehangu eich gorwelion. Gyda phrofiad rhyngwladol o’r fath, rydych yn gwneud byd o les i’ch gyrfa. Mae yna ddewis eang o leoliadau a phrifysgolion sy'n bartneriaid. Os ydych yn bwriadu astudio mewn gwlad lle nad yw’r Saesneg yn cael ei siarad fel iaith frodorol, efallai y bydd cefnogaeth iaith ychwanegol ar gael i chi ym Mangor neu yn y brifysgol yn y wlad arall i wella'ch sgililau iaith.
Bydd gennych y cyfle i ystyried yr opsiwn hwn yn llawn ar unrhyw adeg yn ystod eich gradd ym Mangor a gallwch wneud cais. Os oes gennych unrhyw ymholiad yn y cyfamser, mae croeso i chi gysylltu â ni.
Darllenwch fwy am y rhaglen Blwyddyn Profiad Rhyngwladol a chymrwch olwg ar yr opsiynau astudio neu weithio dramor sydd ar gael yn adran Cyfnewidiadau Myfyrwyr o’r wefan.
Cynnwys y Cwrs
Byddwch yn treulio tua 8-12 awr yr wythnos mewn darlithoedd, seminarau a thiwtorialau. Byddwch hefyd yn treulio amser yn darllen, yn gweithio ar aseiniadau, yn cyflawni tasgau gwaith cartref, yn cwrdd â darlithwyr a thiwtoriaid yn eu swyddfeydd, yn mynd i seminarau cyffredinol, etc. Mae rhai modiwlau Llenyddiaeth Saesneg yn cynnwys teithiau i'r theatr, gwylio ffilmiau, ymweld ag orielau a'r cyfle i glywed awduron gwadd.
Mae'r dulliau asesu yn amrywio. Mae dulliau asesu modiwlau Iaith Saesneg yn cynnwys ysgrifennu traethodau, ysgrifennu adroddiadau, dadansoddi data, aseiniadau ymarferol, astudiaethau ymchwil empirig, cyflwyniadau llafar ac arholiadau (yn cynnwys profion ar-lein). Asesir modiwlau Llenyddiaeth Saesneg yn gynyddol trwy waith cwrs.
Modiwlau ar gyfer y flwyddyn academaidd gyfredol
Mae’r rhestrau modiwlau ar gyfer eich arwain yn unig ac fe allant newid. Cymerwch olwg ar yr hyn y mae ein myfyrwyr yn ei astudio ar hyn o bryd ar tudalen Modiwlau Iaith Saesneg gyda Llenyddiaeth Saesneg (gyda Blwyddyn Sylfaen) BA (Anrh).
Mae cynnwys y cwrs wedi’i nodi i’ch arwain yn unig ac fe all newid.
Cyfleusterau
- Mae gennym gyfleusterau dysgu o’r radd flaenaf gan gynnwys stiwdio sain / recordio o safon broffesiynol (ein labordy Lleferydd), labordy tracio llygaid, a labordy potensial digwyddiad-berthynol (ERP) a chyfleuster adnoddau ieithyddiaeth corpws. Mae gennym hefyd offer sain a fideo at waith maes.
- Mae’r cyfleusterau hefyd yn cynnwys casgliad helaeth o lyfrau am Ieithyddiaeth ac Iaith Saesneg a llyfrgell iaith a gynhelir gan ein cymdeithas myfyrwyr israddedig - Cymdeithas Ieithyddiaeth ÑÇÖÞÉ«°É (BLS).
Cyfleusterau Cyffredinol y Brifysgol
Gwasanaeth Llyfrgell ac Archifau
Mae ein pedair llyfrgell yn cynnig amrywiaeth o amgylcheddau astudio braf gan gynnwys mannau gweithio cydweithredol, ystafelloedd cyfarfod a mannau tawel i astudio.
Mae yma gasgliad mawr o lyfrau a chylchgronau, ac mae llawer o'r cylchgronau ar gael ar gyfrifiadur mewn fformat testun llawn.
Mae gennym hefyd un o’r archifau prifysgol mwyaf nid yn unig yng Nghymru ond hefyd drwy holl wledydd Prydain. Yn gysylltiedig â'r archifau mae casgliadau arbennig o lyfrau printiedig prin.
Adnoddau Dysgu
Mae yma ddewis eang o adnoddau dysgu, sy’n cael eu cefnogi gan staff profiadol, i’ch helpu i astudio.Ìý
Mae gwasanaethau TG y Brifysgol yn darparu cyfleusterau a gwasanaethau cyfrifiaduro, cyfryngau a reprograffeg sy’n cynnwys:Ìý
- Dros 1,150 o gyfrifiaduron i fyfyrwyr, gyda rhai ystafelloedd cyfrifiaduron ar agor 24 awr bob dydd
- Blackboard, rhith-amgylchedd dysgu masnachol, sy’n galluogi i ddeunydd dysgu fod ar gael ar-lein.
Costau'r Cwrs
Costau Cyffredinol yn y Brifysgol
Myfyrwyr Cartref (DU)
- Cost cwrs israddedig llawn-amser yw £9,250 y flwyddyn (2025/26).
- Y ffi ar gyfer pob blwyddyn dramor integredig yw £1,385 (2025/26).
- Y ffi ar gyfer blwyddyn mewn diwydiant integredig fel rhan o'r cwrs yw £1,850 (2025/26).
Mwy o wybodaeth am ffioedd a chyllid i fyfyrwyr Cartref (DU).
Myfyrwyr Rhyngwladol (yn cynnwys yr UE)
Costau Ychwanegol
Mae yna hefyd rai costau ychwanegol cyffredin sy'n debygol o godi i fyfyrwyr ar bob cwrs, er enghraifft:
- Os dewiswch chi astudio dramor neu gymryd y Flwyddyn Profiad Rhyngwladol fel rhan o'ch cwrs.
- Os ydych chi'n mynd i'ch Seremoni Raddio, bydd cost llogi gŵn (£25- £75) a chost am docynnau i westeion ychwanegol (tua £12 yr un).
Costau ychwanegol cwrs-benodol
Yn dibynnu ar y cwrs rydych chi'n ei astudio, efallai y bydd costau ychwanegol cwrs-benodol y bydd gofyn i chi eu talu. Gellir rhoi'r costau hyn mewn tri chategori:
- Costau Gorfodol: mae'r rhain yn gysylltiedig â modiwl craidd neu orfodol penodol y mae'n ofynnol i chi ei gwblhau i gwblhau eich cymhwyster e.e. teithiau maes gorfodol, gwisgoedd i fyfyrwyr ar leoliad, gwiriad gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS).
- Costau Angenrheidiol: efallai na fydd pob myfyriwr yn cael y costau hyn, a bydd yn amrywio yn dibynnu ar y cwrs e.e. aelodaeth o gorff proffesiynol, teithio i leoliadau, meddalwedd arbenigol, cyfarpar diogelu personol.
- Costau Dewisol: mae'r rhain yn dibynnu ar eich dewis o fodiwlau neu weithgaredd, ac fe'u dangosir er mwyn rhoi syniad ichi o'r costau dewisol a allai godi i sicrhau bod cymaint o wybodaeth â phosibl ar gael i chi cyn i chi wneud eich dewis. Gall y rhain gynnwys digwyddiadau graddio ar gyfer eich cwrs, teithiau maes dewisol, tripiau Wythnos Groeso.
Gofynion Mynediad
Mae'r cynigion yn seiliedig ar dariffau, 48 - 88 pwynt tariff o gymwysterau Lefel 3* e.e.:
- Lefelau A (gan gynnwys: Safonau UG, Astudiaethau Cyffredinol)
- Derbynnir Diplomâu a Thystysgrifau BTECÌý
- Diplomâu a Thystysgrifau Technegol Caergrawnt
- Diploma Estynedig Uwch City & Guilds: Ìý
- Bagloriaeth Ryngwladol
- Derbynnir Bagloriaeth Cymru
- Mynediad
- Cymhwyster Project Estynedig
- Lefelau-T: ystyrir fesul achos.
Rydym hefyd yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr hŷn. Caiff myfyrwyr aeddfed a/neu'r rheini â chymwysterau eraill eu hystyried yn ôl teilyngdod unigol
*Ewch i www.ucas.com i weld rhestr lawn o'r cymwysterau Lefel 3 a dderbynnir.
Mae'r cynigion yn seiliedig ar dariffau, 48 - 96 pwynt tariff o gymwysterau Lefel 3* e.e.:
- Lefelau A (gan gynnwys: Safonau UG, Astudiaethau Cyffredinol)
- Derbynnir Diplomâu a Thystysgrifau BTECÌý
- Diplomâu a Thystysgrifau Technegol Caergrawnt
- Diploma Estynedig Uwch City & Guilds: Ìý
- Bagloriaeth Ryngwladol
- Derbynnir Bagloriaeth Cymru
- Mynediad
- Cymhwyster Project Estynedig
- Lefelau-T: ystyrir fesul achos.
Rydym hefyd yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr hŷn. Caiff myfyrwyr aeddfed a/neu'r rheini â chymwysterau eraill eu hystyried yn ôl teilyngdod unigol
*Ewch i www.ucas.com i weld rhestr lawn o'r cymwysterau Lefel 3 a dderbynnir.
Gofynion Cyffredinol y Brifysgol
I astudio cwrs gradd mae’n rhaid i chi gael isafswm o bwyntiau tariff UCAS. Am eglurhad manwl o bwyntiau tariff UCAS, ewch i .
Rydym yn derbyn myfyrwyr â phob math o gymwysterau a chefndiroedd ac yn ystyried pob cais yn unigol.
Mae’n rhaid i bob ymgeisydd gael sgiliau sylfaenol da ond mae’r Brifysgol hefyd yn gweld pwysigrwydd sgiliau cyfathrebu a thechnoleg gwybodaeth.Ìý
Mae’n bolisi gan y Brifysgol i ystyried ceisiadau gan ddarpar fyfyrwyr anabl yn yr un modd â; phob cais arall.
Rydym yn ystyried ceisiadau gan fyfyrwyr hÅ·n sy’n medru dangos fod ganddynt y gallu a’r ymrwymiad i astudio rhaglen prifysgol. Bob blwyddyn rydym yn cofrestru nifer sylweddol o fyfyrwyr hÅ·n. Am fwy o wybodaeth am astudio fel myfyriwr aeddfed, ewch iÌýadran Astudio ym Mangor.ÌýÌý
Gyrfaoedd
Mae gradd mewn Iaith Saesneg a Llenyddiaeth Saesneg (gyda Blwyddyn Sylfaen) yn darparu gwybodaeth ac arbenigedd yn y pwnc. Byddwch hefyd yn datblygu sgiliau trosglwyddadwy pwysig y mae cyflogwyr amrywiol yn eu gwerthfawrogi. Mae'r rhain yn cynnwys darllen yn feirniadol a gwerthuso, ymchwil a sgiliau dadansoddi, sgiliau rheoli project, hyfedredd mewn dulliau cyflwyno amrywiol (ysgrifenedig, electronig a llafar), sgiliau datrys problemau, profiad o weithio'n annibynnol, rheoli amser a phrofiad o waith tîm, sgiliau technoleg gwybodaeth, a'r cyfle i ddatblygu cyfathrebu rhyngbersonol effeithiol.
Mae graddedigion Iaith Saesneg a Llenyddiaeth Saesneg yn ennill sgiliau amrywiol sy'n berthnasol i amryw o yrfaoedd, megis y cyfryngau, addysg, hysbysebu, rheoli, cyhoeddi, y gwasanaeth sifil, gwaith cymunedol (e.e., sy’n ymwneud â pholisi ac ymgysylltiad iaith), ac yn y blaen. Mewn rhai achosion bydd angen hyfforddiant a chymwysterau pellach yn ychwanegol at yr hyn y mae'r cwrs yn ei ddarparu. Mae gyrfa ymchwil hefyd yn bosibilrwydd, ac astudiaethau ôl-radd hefyd.
Cyfleoedd ym Mangor
Mae Gwasanaeth Sgiliau a Chyflogadwyedd y Brifysgol yn cynnig amryw o adnoddau i’ch helpu i gyflawni eich amcanion ar ôl graddio.
Rhaglen Interniaeth Prifysgol ÑÇÖÞÉ«°É
Mae Prifysgol ÑÇÖÞÉ«°É yn cynnal cynllun interniaeth â thâl yn adrannau academaidd a gwasanaethau’r Brifysgol.
Gwirfoddoli
Mae gwirfoddoli yn ehangu eich profiadau ac yn gwella eich cyflogadwyedd. Cewch fwy o wybodaeth am wirfoddoli ar wefan .
Gweithio tra'n astudio
Mae TARGETconnect yn hysbysebu swyddi lleol, cenedlaethol a rhyngwladol i raddedigion, cyfleodd profiad gwaith ac interniaethau a chyfleon gwirfoddol.
Adroddiad Cyflawniad Addysg Uwch (HEAR)
Ceir pob myfyriwr sy’n graddio adroddiad terfynol HEAR. Mae’r adroddiad yn rhestru holl gyflawniadau academaidd ac allgyrsiol fel bod darpar gyflogwyr yn ymwybodol o’r sgiliau ychwanegol rydych wedi eu hennill tra yn y Brifysgol.