ÑÇÖÞÉ«°É

Fy ngwlad:

Ennill Profiad Gwaith Wrth Astudio

Paratoi ar gyfer y dyfodol 

Mae profiad gwaith yn holl bwysig i sicrhau swydd raddedig yn y dyfodol. I roi hwb i'ch cyflogadwyedd, gallwch ddewis gwneud lleoliad gwaith fel rhan o bron pob un o’n graddau israddedig. Gall lleoliadau fod yn flwyddyn o hyd (rhwng blynyddoedd 2 a 3), tri mis neu bythefnos o hyd.

Myfyrwyr yn y labordy yn cynnal profion dosbarth

Blwyddyn Lleoliad fel rhan o'ch gradd

Gallwch gymryd Blwyddyn Lleoliad, lle byddwch yn gweithio am un flwyddyn yn ychwanegol, tra’n astudio ar y rhan fwyaf o’n cyrsiau israddedig. Pan fyddwch yn graddio, bydd ‘gyda Blwyddyn Lleoliad’ yn cael ei ychwanegu at deitl eich gradd. 

Bydd gennych y cyfle i ystyried yr opsiwn hwn yn llawn ar ôl cychwyn eich cwrs ym Mangor a gallwch wneud cais i drosglwyddo i'r opsiwn hwn ar yr adeg priodol. Os oes gennych unrhyw ymholiad yn y cyfamser, mae croeso i chi gysylltu â ni.

Pam gwneud Blwyddyn Lleoliad?

Mae Blwyddyn ar Leoliad yn gyfle gwych i chi ehangu eich gorwelion a datblygu sgiliau newydd. Yn ystod y lleoliad, byddwch yn gweithio gyda sefydliad sy'n berthnasol i bwnc eich gradd a chewch gefnogaeth lawn gan aelod pwrpasol o staff eich Ysgol academaidd a Gwasanaethau Sgiliau a Chyflogadwyedd y Brifysgol.

Cewch bersbectif gwahanol ar eich pwnc a gwneud cysylltiadau hynod ddefnyddiol mewn byd gwaith. Pan fyddwch wedi cwblhau’r lleoliad, rydych yn siwr o ddychwelyd i Fangor yn fwy brwdfrydig, annibynnol a hyderus.

Cynllunio gwaith ar gyfrifiadur

Sut, Pryd a Lle?

  • Bydd disgwyl i chi ddod o hyd i leoliad sy'n addas i'ch gradd, a'i drefnu.
  • Byddwch fel rheol yn dechrau rywbryd yn y cyfnod rhwng mis Mehefin a mis Medi yn eich ail flwyddyn ac yn gorffen rhwng mis Mehefin a mis Medi y flwyddyn ganlynol.
  • Fel rheol mae myfyrwyr yn treulio 10-12 mis gyda darparwr lleoliad (y cyfnod byrraf yw saith mis calendr).
  • Gall y lleoliad fod yn y Deyrnas Unedig neu dramor a byddwch yn gweithio gyda staff i gynllunio a chwblhau trefniadau eich lleoliad.
  • Ar gyfer 2022/23 bydd y ffi yn £1,350 ar gyfer blwyddyn ar leoliad (a blwyddyn profiad rhyngwladol). Bydd i ffi i fyfyrwyr rhyngwladol yn wahanol – cysylltwch â’r Ganolfan Addysg Rhyngwladol.