Ynglŷn â’r Cwrs Yma
Byddwch yn astudio llenyddiaeth mewn ystod o genres, ochr yn ochr â theledu, radio, print a newyddiaduraeth ddigidol, ac ymarfer yn y cyfryngau. Byddwch yn astudio sut mae llenyddiaeth a newyddiaduraeth yn adlewyrchu ac yn newid cymdeithas mewn gwahanol gyfnodau a chyd-destunau. Bydd y cwrs hwn yn rhoi sylfaen gadarn i chi mewn egwyddorion newyddiaduraeth, yn ogystal â'r sgiliau cyfryngau a newyddiaduraeth technegol ac ymarferol sy'n ofynnol i'ch gwneud yn weithiwr proffesiynol medrus yn y maes.
Gan ei fod yn rhoi cyfle i arbenigo mewn dau bwnc anrhydedd prifysgol, mae ein gradd Llenyddiaeth a Newyddiaduraeth Saesneg yn gyfle ysgogol i ddod o hyd i debygrwydd a gwahaniaethau rhwng y ddau bwnc. Bydd rhan Llenyddiaeth Saesneg y radd yn eich cyflwyno i ystod o genres llenyddol o'r Oesoedd Canol, cyfnod y Dadeni, hyd at ffurfiau Fictoraidd a Modernaidd, a gofynnir ichi feddwl yn feirniadol am y rhan y mae llenyddiaeth yn ei chwarae wrth lunio'r byd a'n bywydau ein hunain. Bydd rhan Newyddiaduraeth eich gradd yn archwilio datblygiad cyfryngau mewn cyd-destunau byd-eang, a'r ffyrdd y mae wedi effeithio ar gymdeithasau a diwylliannau yn y Deyrnas Unedig a thu hwnt. O'u cyfuno, mae'r ddau bwnc yn cynnig hyfforddiant amhrisiadwy i fyfyrwyr sy'n dymuno cychwyn ar yrfa mewn newyddiaduraeth, neu sy'n dymuno cychwyn ar astudiaethau ôl-raddedig mewn Newyddiaduraeth, Llenyddiaeth Saesneg, neu ddisgyblaethau cysylltiedig.  Â
Pam dewis Prifysgol ÑÇÖÞÉ«°É ar gyfer y cwrs?
- Addysgu a darlithoedd mewn grwpiau bach, goruchwyliaeth un i un.
- Cysylltiadau agos â Pontio, Canolfan Gelfyddydau'r Brifysgol, theatrau lleol, grwpiau barddoniaeth a chymdeithasau myfyrwyr bywiog - yn cynnwys papurau newydd y myfyrwyr, Cymdeithas Ddrama Saesneg ÑÇÖÞÉ«°É (BEDS).
- Adeilad pwrpasol gydag ystafelloedd golygu ac offer cynhyrchu ar gael i fyfyrwyr.
- Mae gennym gysylltiadau gwych â phapurau newydd a'r diwydiant teledu. Cynhelir projectau'r flwyddyn olaf yn aml mewn cydweithrediad â chwmni.
Opsiynau Cwrs Ychwanegol
Mae'r cwrs hwn ar gael fel opsiwn 'gyda Blwyddyn ar Leoliad' lle byddwch yn astudio am flwyddyn ychwanegol. Mae'r myfyrwyr yn gwneud y Flwyddyn ar Leoliad ar ddiwedd yr ail flwyddyn ac maent i ffwrdd o'r Brifysgol am y flwyddyn academaidd gyfan.
Mae Blwyddyn ar Leoliad yn gyfle gwych i chi ehangu eich gorwelion a datblygu sgiliau a chysylltiadau hynod ddefnyddiol trwy weithio gyda sefydliad sy'n berthnasol i bwnc eich gradd. Y cyfnod lleiaf ar leoliad (mewn un lleoliad neu fwy nag un lleoliad) yw saith mis calendr; fel rheol mae myfyrwyr yn treulio 10-12 mis gyda darparwr lleoliad. Byddwch fel rheol yn dechrau rywbryd yn y cyfnod rhwng mis Mehefin a mis Medi yn eich ail flwyddyn ac yn gorffen rhwng mis Mehefin a mis Medi y flwyddyn ganlynol. Gall y lleoliad fod yn y Deyrnas Unedig neu dramor a byddwch yn gweithio gyda'r staff i gynllunio a chwblhau trefniadau eich lleoliad.
Bydd disgwyl i chi ddod o hyd i leoliad sy'n addas i'ch gradd, a'i drefnu, ac mi gewch chi gefnogaeth lawn gan aelod pwrpasol o staff eich Ysgol academaidd a Gwasanaeth Sgiliau a Chyflogadwyedd y Brifysgol.
Bydd gennych y cyfle i ystyried yr opsiwn hwn yn llawn ar ôl cychwyn eich cwrs ym Mangor a gallwch wneud cais i drosglwyddo i'r opsiwn hwn ar yr adeg priodol. Darllenwch fwy am y cyfleoedd profiad gwaith sydd ar gael neu, os oes gennych unrhyw ymholiad, mae croeso i chi gysylltu â ni.
Mae'r cwrs hwn ar gael fel opsiwn 'gyda Blwyddyn Profiad Rhyngwladol' lle byddwch yn astudio neu'n gweithio am flwyddyn yn ychwanegol. Bydd ‘gyda Phrofiad Rhyngwladol’ yn cael ei ychwanegu at deitl eich gradd pan fyddwch yn graddio.Â
Mae astudio dramor yn gyfle gwych i weld ffordd wahanol o fyw, i ddysgu am ddiwylliannau newydd ac ehangu eich gorwelion. Gyda phrofiad rhyngwladol o’r fath, rydych yn gwneud byd o les i’ch gyrfa. Mae yna ddewis eang o leoliadau a phrifysgolion sy'n bartneriaid. Os ydych yn bwriadu astudio mewn gwlad lle nad yw’r Saesneg yn cael ei siarad fel iaith frodorol, efallai y bydd cefnogaeth iaith ychwanegol ar gael i chi ym Mangor neu yn y brifysgol yn y wlad arall i wella'ch sgililau iaith.
Bydd gennych y cyfle i ystyried yr opsiwn hwn yn llawn ar unrhyw adeg yn ystod eich gradd ym Mangor a gallwch wneud cais. Os oes gennych unrhyw ymholiad yn y cyfamser, mae croeso i chi gysylltu â ni.
Darllenwch fwy am y rhaglen Blwyddyn Profiad Rhyngwladol a chymrwch olwg ar yr opsiynau astudio neu weithio dramor sydd ar gael yn adran Cyfnewidiadau Myfyrwyr o’r wefan.
Cynnwys y Cwrs
Bydd eich dosbarthiadau Llenyddiaeth Saesneg ac Astudiaethau'r Cyfryngau yn cynnwys cymysgedd o ddarlithoedd, seminarau, tiwtorialau, gweithdai a sesiynau gwylio. Bydd ffocws ymarferol a damcaniaethol i'r rhain. Mae’r dull asesu yn amrywio o un modiwl i'r llall, ac yn aml yn cyfuno cymysgedd o arholiadau, gwaith cwrs, aseiniadau portffolio, a chyflwyniadau llafar. Â
Cyfleusterau
- Gwasanaeth benthyciadau helaeth ar gyfer offer fel cyfarpar recordio digidol, camerâu fideo, camerâu lluniau llonydd a mwy.
- Stiwdio radio â chyfarpar proffesiynol.
- Ystafelloedd golygu sain gydag Adobe Audition.
- Ystafelloedd golygu fideo digidol gyda Final Cut Pro a Final Cut Express ar gyfrifiaduron Apple Mac.
- Awditoria.
- Pontio, canolfan y celfyddydau ac arloesi, Â sy'n cynnwys sinema 200 sedd gyda system sain amgylchynol Dolby.
Cyfleusterau Cyffredinol y Brifysgol
Gwasanaeth Llyfrgell ac Archifau
Mae ein pedair llyfrgell yn cynnig amrywiaeth o amgylcheddau astudio braf gan gynnwys mannau gweithio cydweithredol, ystafelloedd cyfarfod a mannau tawel i astudio.
Mae yma gasgliad mawr o lyfrau a chylchgronau, ac mae llawer o'r cylchgronau ar gael ar gyfrifiadur mewn fformat testun llawn.
Mae gennym hefyd un o’r archifau prifysgol mwyaf nid yn unig yng Nghymru ond hefyd drwy holl wledydd Prydain. Yn gysylltiedig â'r archifau mae casgliadau arbennig o lyfrau printiedig prin.
Adnoddau Dysgu
Mae yma ddewis eang o adnoddau dysgu, sy’n cael eu cefnogi gan staff profiadol, i’ch helpu i astudio.Â
Mae gwasanaethau TG y Brifysgol yn darparu cyfleusterau a gwasanaethau cyfrifiaduro, cyfryngau a reprograffeg sy’n cynnwys:Â
- Dros 1,150 o gyfrifiaduron i fyfyrwyr, gyda rhai ystafelloedd cyfrifiaduron ar agor 24 awr bob dydd
- Blackboard, rhith-amgylchedd dysgu masnachol, sy’n galluogi i ddeunydd dysgu fod ar gael ar-lein.
Costau'r Cwrs
Costau Cyffredinol yn y Brifysgol
Myfyrwyr Cartref (DU)
- Cost cwrs israddedig llawn-amser yw £9,250 y flwyddyn (2025/26).
- Y ffi ar gyfer pob blwyddyn dramor integredig yw £1,385 (2025/26).
- Y ffi ar gyfer blwyddyn mewn diwydiant integredig fel rhan o'r cwrs yw £1,850 (2025/26).
Mwy o wybodaeth am ffioedd a chyllid i fyfyrwyr Cartref (DU).
Myfyrwyr Rhyngwladol (yn cynnwys yr UE)
Costau Ychwanegol
Mae yna hefyd rai costau ychwanegol cyffredin sy'n debygol o godi i fyfyrwyr ar bob cwrs, er enghraifft:
- Os dewiswch chi astudio dramor neu gymryd y Flwyddyn Profiad Rhyngwladol fel rhan o'ch cwrs.
- Os ydych chi'n mynd i'ch Seremoni Raddio, bydd cost llogi gŵn (£25- £75) a chost am docynnau i westeion ychwanegol (tua £12 yr un).
Costau ychwanegol cwrs-benodol
Yn dibynnu ar y cwrs rydych chi'n ei astudio, efallai y bydd costau ychwanegol cwrs-benodol y bydd gofyn i chi eu talu. Gellir rhoi'r costau hyn mewn tri chategori:
- Costau Gorfodol: mae'r rhain yn gysylltiedig â modiwl craidd neu orfodol penodol y mae'n ofynnol i chi ei gwblhau i gwblhau eich cymhwyster e.e. teithiau maes gorfodol, gwisgoedd i fyfyrwyr ar leoliad, gwiriad gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS).
- Costau Angenrheidiol: efallai na fydd pob myfyriwr yn cael y costau hyn, a bydd yn amrywio yn dibynnu ar y cwrs e.e. aelodaeth o gorff proffesiynol, teithio i leoliadau, meddalwedd arbenigol, cyfarpar diogelu personol.
- Costau Dewisol: mae'r rhain yn dibynnu ar eich dewis o fodiwlau neu weithgaredd, ac fe'u dangosir er mwyn rhoi syniad ichi o'r costau dewisol a allai godi i sicrhau bod cymaint o wybodaeth â phosibl ar gael i chi cyn i chi wneud eich dewis. Gall y rhain gynnwys digwyddiadau graddio ar gyfer eich cwrs, teithiau maes dewisol, tripiau Wythnos Groeso.
Gofynion Mynediad
Mae cynnig nodweddiadol yn seiliedig ar 96 - 120 o bwyntiau tariff o gymhwyster Lefel 3 e.e.:
- Lefel A: Llenyddiaeth Saesneg / Iaith Saesneg  / Saesneg yn ffafriol ond nid yn hanfodol. Ni dderbynnir Astudiaethau Cyffredinol a Sgiliau Allweddol fel rheol.
- BTEC Cenedlaethol/Diploma Estynedig a Diploma Technegol Estynedig Caergrawnt: MMM - DDM
- Diploma Technegol/Estynedig Uwch City & Guilds: ystyrir fesul achos
- Diploma’r Fagloriaeth Ryngwladol (gan gynnwys H5 mewn iaith Llenyddiaeth Saesneg neu Iaith Saesneg)
- Derbynnir Bagloriaeth Cymru
- Mynediad
- Lefelau-T: ystyrir fesul achos.
Rydym hefyd yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr hÅ·n.
I weld rhestr lawn o’r cymwysterau lefel 3 a dderbynnir, ewch iÂ
Mae’r cynigion yn seiliedig ar dariffau, 96 - 112 pwynt tariff o gymwysterau Lefel 3* e.e.
- Lefel A (Llenyddiaeth Saesneg/Iaith Saesneg/Saesneg yn ddelfrydol ond ddim yn hanfodol)
- Diploma Bagloriaeth Ryngwladol (yn cynnwys H5 mewn Llenyddiaeth Saesneg neu Iaith Saesneg)
- BTEC Cenedlaethol/Diploma Estynedig a Diploma Technegol Estynedig Caergrawnt: MMM - DMM
- Diploma Technegol/Estynedig Uwch City & Guilds: ystyrir fesul achos
- Cwrs mynediad gydag elfen Llenyddiaeth Saesneg
- Derbynnir Bagloriaeth Cymru
- Lefelau-T: ystyrir fesul achos.
Ymgeiswyr rhyngwladol: derbynnir cymwysterau gadael ysgol a diplomâu colegau o wledydd ledled y byd (yn amodol ar ofynion iaith Saesneg sylfaenol). Cewch ragor o wybodaeth yma.
Rydym hefyd yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr hÅ·n.
*I gael rhestr lawn o gymwysterau Lefel 3 a dderbynnir, ewch i .
Gofynion Cyffredinol y Brifysgol
I astudio cwrs gradd mae’n rhaid i chi gael isafswm o bwyntiau tariff UCAS. Am eglurhad manwl o bwyntiau tariff UCAS, ewch i .
Rydym yn derbyn myfyrwyr â phob math o gymwysterau a chefndiroedd ac yn ystyried pob cais yn unigol.
Mae’n rhaid i bob ymgeisydd gael sgiliau sylfaenol da ond mae’r Brifysgol hefyd yn gweld pwysigrwydd sgiliau cyfathrebu a thechnoleg gwybodaeth.Â
Mae’n bolisi gan y Brifysgol i ystyried ceisiadau gan ddarpar fyfyrwyr anabl yn yr un modd â; phob cais arall.
Rydym yn ystyried ceisiadau gan fyfyrwyr hÅ·n sy’n medru dangos fod ganddynt y gallu a’r ymrwymiad i astudio rhaglen prifysgol. Bob blwyddyn rydym yn cofrestru nifer sylweddol o fyfyrwyr hÅ·n. Am fwy o wybodaeth am astudio fel myfyriwr aeddfed, ewch i adran Astudio ym Mangor.ÌýÌý
Gyrfaoedd
Caiff y radd drawsddisgyblaethol hon ei haddysgu gan academyddion profiadol a chyhoeddedig. Mae’n cynnig cyfle i fyfyrwyr ddatblygu'r sgiliau beirniadol a dadansoddol sy'n angenrheidiol ar gyfer gyrfaoedd mewn ystod eang o ddiwydiannau, gan gynnwys cyhoeddi, newyddiaduraeth, cysylltiadau cyhoeddus, y gyfraith, marchnata a chyfathrebu, ac addysgu.
Cyfleoedd ym Mangor
Mae Gwasanaeth Sgiliau a Chyflogadwyedd y Brifysgol yn cynnig amryw o adnoddau i’ch helpu i gyflawni eich amcanion ar ôl graddio.
Rhaglen Interniaeth Prifysgol ÑÇÖÞÉ«°É
Mae Prifysgol ÑÇÖÞÉ«°É yn cynnal cynllun interniaeth â thâl yn adrannau academaidd a gwasanaethau’r Brifysgol.
Gwirfoddoli
Mae gwirfoddoli yn ehangu eich profiadau ac yn gwella eich cyflogadwyedd. Cewch fwy o wybodaeth am wirfoddoli ar wefan .
Gweithio tra'n astudio
Mae TARGETconnect yn hysbysebu swyddi lleol, cenedlaethol a rhyngwladol i raddedigion, cyfleodd profiad gwaith ac interniaethau a chyfleon gwirfoddol.
Adroddiad Cyflawniad Addysg Uwch (HEAR)
Ceir pob myfyriwr sy’n graddio adroddiad terfynol HEAR. Mae’r adroddiad yn rhestru holl gyflawniadau academaidd ac allgyrsiol fel bod darpar gyflogwyr yn ymwybodol o’r sgiliau ychwanegol rydych wedi eu hennill tra yn y Brifysgol.
Blwyddyn Sylfaen
Mae opsiwn 'gyda Blwyddyn Sylfaen' ar gael ar gyfer y cwrs hwn. Gwnewch gais am Iaith Saesneg a Llenyddiaeth Saesneg (gyda Blwyddyn Sylfaen).
Beth yw cwrs Blwyddyn Sylfaen?
Os nad oes gennych mo'r cymwysterau gofynnol ar gyfer cwrs lefel gradd, neu os ydych am fynd yn ôl i addysg yn dilyn cyfnod i ffwrdd, yna gall Rhaglen Blwyddyn Sylfaen fod y dewis iawn i chi.
Mae’r Flwyddyn Sylfaen yn gyflwyniad rhagorol i astudio pwnc yn y brifysgol a bydd yn rhoi'r wybodaeth, y sgiliau a'r hyder sydd eu hangen arnoch i astudio’r cwrs hwn ar lefel gradd.
Pan fyddwch wedi cwblhau'r Flwyddyn Sylfaen yn llwyddiannus, gallwch symud ymlaen i flwyddyn gyntaf y cwrs lefel gradd yma.Â