Gadewch i glywed eich barn!
Mae 'Gadewch i ni glywed eich barn' yn rhan o ddeialog gyson rhwng yr Ysgol a'r myfyrwyr wrth i ni geisio gwella'r hyn a wnawn yn barhaus.
Mae'r Ysgol Gwyddorau Iechyd yn gwerthfawrogi'r cyfraniad mae staff a myfyrwyr fel ei gilydd yn ei wneud i greu awyrgylch ddysgu gadarnhaol sy'n ein cyfoethogi ar lefel personol a phroffesiynol. Felly, rydym yn awyddus i glywed unrhyw sylwadau neu bryderon sydd gennych, a chael gwybod sut y gallwn wella eich profiad fel myfyriwr. Mae nifer o ffyrdd i chi fynegi eich barn.
Timau Modiwlau
Os byddwch yn anhapus ynglŷn ag unrhyw agwedd ar fodiwl, neu sut mae'n cael ei drefnu, a bod gennych syniad am sut i wella pethau, gadewch i dîm y modiwl wybod.
Cynrychiolwyr Myfyrwyr
Mae'r corff myfyrwyr yn ethol cynrychiolwyr myfyrwyr bob blwyddyn. Eu swyddogaeth yw cyfrannu at gynrychioli'r llais myfyrwyr yn y broses gwneud penderfyniadau yn yr Ysgol fel a ganlyn:
- cynghori gwahanol bwyllgorau o fewn yr Ysgol;
- cyfrannu at ddatblygiad ein strategaeth;
- cyd-lunio ein polisïau a'n gweithdrefnau; a
- gweithio gyda staff allweddol ar faterion sydd o ddiddordeb cyffredinol i'r Ysgol.
Mae'r Cynrychiolwyr Myfyrwyr ac aelodau staff yn cwrdd yn rheolaidd i adolygu materion allweddol, ond dim ond pedair gwaith y flwyddyn y byddant yn cwrdd yn ffurfiol mewn Pwyllgor Cyswllt Staff-Myfyrwyr.
Tîm arwain yr Ysgol
Os oes gennych unrhyw sylwadau neu bryderon cyffredinol, gall yr Ysgol yn aml eu datrys yn gymharol gyflym, heb yr angen iddynt gael eu hystyried gan y Pwyllgor Cyswllt. Gallwch eu codi'n uniongyrchol gyda'r Ysgol fel a ganlyn:
- Neu, os byddai'n well gennych, drwy eich Cynrychiolydd Myfyrwyr. Mae eu manylion cyswllt e-bost ar yr hysbysfyrddau ar gampysau Wrecsam a ÑÇÖÞÉ«°É. Byddant yn gallu anfon eich sylwadau neu bryderon ymlaen atom heb grybwyll eich enw pe bai hynny'n gwneud y mater yn haws.
Gallwch hefyd gysylltu â'r tîm arwain os ydych yn teimlo nad oes neb yn gwrando ar eich sylwadau neu bryderon. Mae'r ysgol yn creu log o'r holl sylwadau a phryderon a dderbynnir, ond nid ydym yn cadw cofnod o bwy sy'n eu gwneud. Caiff y log hwn ei adolygu gan y Pwyllgor Cyswllt ar sail reolaidd.
Sylwer
Rydym yn cydnabod bod astudio ar gyfer gradd sy'n arwain at gofrestriad proffesiynol yn feichus mewn nifer o wahanol ffyrdd. Bydd eich tiwtor personol yn gefn mawr i chi, a gall eich cyfeirio at amryw o adnoddau sy'n cael eu cynnig gan y Brifysgol i'ch helpu i lwyddo yn y pendraw yn eich rhaglenni gradd. Siaradwch gyda nhw cyn gynted ag y bo modd.
Mae gan y Brifysgol drefn gwynion ffurfiol, ac nid yw'r ddogfen hon yn ceisio ei disodli. Os ydych wedi mynegi pryder ac nad ydych yn teimlo y cafodd ei ymdrin ag ef, yna gallwch wneud cwyn ffurfiol.