Atal Astudiaeth
Rydym yn cydnabod y gallai fod angen i chi gymryd seibiant o astudio oherwydd afiechyd, amgylchiadau personol eithriadol, neu resymau ariannol. Gelwir hyn yn ‘ataliad dros dro’ a bydd yn golygu atal eich astudiaethau a chau eich cofnod myfyriwr am gyfnod o 6 neu 12 mis.
Cam Un – Siaradwch â’ch Tiwtoriaid
- Mae’n ofynnol eich bod yn trafod eich pryderon â’ch tiwtor personol ac arweinydd cwrs cyn gwneud eich penderfyniad i atal eich astudiaethau dros dro. Gall eich tiwtoriaid drafod posibiliadau fel gwneud cais am amgylchiadau lliniarol ac/neu estyniadau ar gyfer eich aseiniadau. Mae hefyd ystod eang o gefnogaeth ar gael ar gyfer eich astudiaethau academaidd trwy .
- Mae’n bwysig nodi, tra eich bod wedi gohirio’ch astudiaethau, ni fydd gennych fynediad i gyfleusterau fel Blackboard a Teams.
Ni fyddwch yn cael eich ystyried fel myfyriwr cofrestredig yn ystod eich cyfnod atal.
Bydd eich cyfrif e-bost Brifysgol yn weithredol.
Cam Dau – Gwiriad Cyllid
Bydd atal eich astudiaethau yn effeithio ar y cymorth ariannol y gallech fod yn ei dderbyn ar hyn o bryd gan Wasanaethau Dyfarnu Myfyrwyr (Bwrsariaeth y GIG) a / neu’r Cwmni Benthyciadau Myfyrwyr.
Os oes gennych anawsterau ariannol, yna mae cyngor ar gael trwy’r
Bwrsariaeth y GIG
- Bydd Bwrsariaeth fisol y GIG yn dod i ben mor agos â phosibl at y dyddiad y byddwch yn atal eich astudiaethau. Bydd eich trefniant cyllid yn dod i ben am gyfnod eich ataliad. Bydd unrhyw elfen gofal plant o’ch taliadau hefyd yn dod i ben yn ystod eich ataliad dros dro.
- Efallai y byddai’n ddefnyddiol i chi edrych ar y .
Absenoldeb Mamolaeth
- Os ydych yn atal eich astudiaethau am absenoldeb mamolaeth, yna yn yr eithriad hwn bydd eich taliadau Bwrsariaeth y GIG yn parhau, er y gellir eu hail-gyfrifo a newid swm eich taliadau. Dylech gysylltu â Gwasanaethau Dyfarnu Myfyrwyr yn uniongyrchol trwy abm.sas@wales.nhs.uk am fwy o wybodaeth.
- Cewch atal dros dro am uchafswm o 12 mis ar gyfer absenoldeb mamolaeth.
Cyllid Myfyrwyr
Os byddwch yn atal dros dro, mae’n ofynnol i Brifysgol ÑÇÖÞÉ«°É nodi’r dyddiad olaf yr oeddech yn bresennol (darlithoedd, seminarau, lleoliad neu arholiadau) i’r Cwmni Benthyciadau Myfyrwyr.
Caiff y gyfran briodol o’r benthyciad dysgu ei gyfrifo gan ddefnyddio’ch dyddiad presenoldeb olaf, a bydd eich benthyciad dysgu yn cael ei addasu yn unol â hynny. Felly, sicrhewch eich bod yn cwblhau’r dogfennau perthnasol cyn gynted â phosibl. Gallai anghysondeb mewn dyddiadau wneud gwahaniaeth i’r ffioedd dysgu a’ch benthyciad cynnal a chadw, a gallai arwain at ordaliad y byddwch chi’n atebol amdano.
Cyfrifoldeb Myfyrwyr
Os ydych chi’n derbyn Ffi Dysgu a/neu Grant/Benthyciad Cynnal a Chadw gan y Cwmni Benthyciadau Myfyrwyr; gallai atal, tynnu’n ôl neu newid carfannau arwain at oblygiadau ar eich cyllid. Siaradwch â Chyllid Myfyrwyr neu’r Uned Cymorth Arian (moneysupport@bangor.ac.uk) cyn cwblhau’ch penderfyniad.
Ystyriaethau ariannol wrth atal neu dynnu’n ôl o astudiaeth.
Cam Tri – Ffurfiolwch eich Ataliad Dros Dro
- Cyflwyno ffurflen Atal Dros Dro trwy’r yn FyMangor.
- Ar gyfer absenoldeb Mamolaeth – atodi copi o’ch MATB1 i’ch cais
- Rhowch wybod i Fwrsariaeth y GIG am eich ataliad trwy lenwi ffurflen Newid Amgylchiadau trwy eich .
- Hysbysu’r Cwmni Benthyciadau Myfyrwyr (os yw’n berthnasol) o’ch ataliad trwy lenwi ffurflen Newid Amgylchiadau trwy ’ch cyfrif ar-lein
Cam Pedwar – Cymeradwyo’r cais; cyfrifoldebau’r Brifysgol
- Yn dilyn cymeradwyo’ch cais, bydd y Brifysgol yn:
- Hysbysu cyrff cyllido perthnasol (Bwrsariaeth y GIG a Chyllid Myfyrwyr) o’ch ataliad.
- Cau eich cofnod myfyriwr o’r dyddiad atal y nodir ar eich cais – bydd eich mynediad i gyfleusterau (Blackboard, Llyfrgell ac ati) yn dod i ben am y cyfnod o atal dros dro i astudiaethau.
- Ar gyfer cyrsiau proffesiynol, byddwn yn hysbysu’r Tîm Lleoliadau i ganslo’ch lleoliadau. Hefyd, ar gyfer rhaglenni fel Gwaith Cymdeithasol a Ffisiotherapi byddwn yn hysbysu cyrff proffesiynol / partner perthnasol os oes angen.
Dychwelyd i’r Astudiaeth
Cam Un – Hysbysu’r Brifysgol
- Cwblhewch y ffurflen dychwelyd i astudio trwy’r yn FyMangor 8 wythnos cyn eich dyddiad dychwelyd.
- Cwblhewch y ffurflen dychwelyd i astudio trwy’r Ganolfan Gais yn FyMangor 8 wythnos cyn eich dyddiad dychwelyd
- Bydd eich dychweliad yn cael ei thrafod yn fewnol gyda’r arweinydd cwrs / tiwtor personol perthnasol a’r Tîm Lleoliadau. Os nad yw’r dyddiad y gofynnir am ddychwelyd yn ymarferol o ran trefniadau lleoli, yna fe wneith y tîm awgrym dyddiad arall.
Cam Dau – Gwiriadau cyn-gofrestru
Unwaith y cytunir ar ddyddiad dychwelyd, gofynnir ichi gymryd y camau cyn-gofrestru canlynol:
- Cysylltu â student.DBS.myfyrwyr@bangor.ac.uk ac esboniwch eich bod yn dychwelyd o ymyrraeth astudio. Yn dibynnu ar y cyfnod o ymyrraeth, efallai y bydd gofyn i chi gael gwiriad DBS newydd, bydd y tîm yn ymateb i gynghori ar yr hyn sy’n ofynnol.
- Os oedd eich ataliad oherwydd iechyd, yna efallai bydd angen gwiriad Iechyd Galwedigaethol i sicrhau eich bod yn ffit i ddychwelyd i astudio. Os oes angen, bydd y Brifysgol yn llenwi ffurflen cyfeirio ar eich rhan, a chewch eich gwahodd i gyfarfod adolygu Iechyd Galwedigaethol.
Cam Tri – Cymeradwyo’r cais; cyfrifoldebau’r Brifysgol
Yn dilyn cymeradwyo’ch cais, bydd y Brifysgol yn:
- Rhoi gwybod i’r Gwasanaethau Gwobrwyo Myfyrwyr (Bwrsariaeth y GIG) a Chyllid Myfyrwyr am eich dyddiad dychwelyd.
- Ail-agor eich cofnod myfyriwr fel eich bod yn dod yn Gymwys i Gofrestru.
- Anfon dolen gofrestru i’ch cyfrif e-bost Prifysgol 2 wythnos cyn y dyddiad cychwyn.
- Rhoi gwybod i’r Hwb Gweinyddu Myfyrwyr fel y gellir ychwanegu’r modiwlau perthnasol at eich cofnod myfyriwr.