Cwestiynau Cyffredin Cynaliadwyedd
A fydd Prifysgol 亚洲色吧 yn gwahardd cynhyrchion cig rhag cael eu gwerthu ar y campws?
Nid yw'r Brifysgol yn bwriadu sefydlu gwaharddiad ar gig neu gynhyrchion llaeth ar y campws.
Mewn ymateb i alw cwsmeriaid, rydym wedi cynyddu ein darpariaeth o opsiynau llysieuol a fegan (prydau poeth a brechdanau / saladau ac ati) ac wedi ailgynllunio bwydlenni i restru'r opsiynau hyn yn gyntaf er mwyn galluogi dewis y defnyddiwr.
Mae'r Polisi Bwyd Cynaliadwy ar gael yma.
Mae'r Brifysgol yn mynd i'r afael 芒 Chynaliadwyedd yng nghyd-destun , gyda'r nod o gydbwyso ystyriaethau amgylcheddol, cymdeithasol, diwylliannol ac economaidd wrth wneud penderfyniadau.
Mae ffermio yn rhan fawr o fywyd yng Ngwynedd a siroedd cyfagos. Gallai gwahardd cig coch gael effaith negyddol ar yr economi, diwylliant ac iaith leol. Gallai fod canlyniadau anfwriadol eraill megis effaith negyddol ar iechyd a lles ffermwyr lleol a'u teuluoedd.
Mae cig lleol yn cael ei gaffael ar gyfer digwyddiadau arbennig, ar gais cleientiaid ac ar gyfer rhai allfeydd arlwyo, ond mae prynu ar raddfa fawr yn ddarostyngedig i reoliadau caffael cyhoeddus.
A fydd Prifysgol 亚洲色吧 yn gwahardd gwerthu / defnyddio plastigau un defnydd ar y campws?
Mae Prifysgol 亚洲色吧 wedi dewis cymryd agwedd fwy pwyllog tuag at ddefnyddio plastig ar y campws, yn hytrach na gwahardd eitemau un defnydd. Mae mwy o wybodaeth ar gael yma.
Nod yr ymgyrch 鈥淢eddwl Cyn Yfed鈥 hefyd yw lleihau'r defnydd o eitemau tafladwy / untro trwy annog myfyrwyr a staff i ddefnyddio opsiynau y gellir eu hailddefnyddio yn allfeydd arlwyo'r Brifysgol, a thrwy hynny leihau eitemau un defnydd.
A oes gan Brifysgol 亚洲色吧 fuddsoddiadau mewn tanwydd ffosil?
Nid oes gan Brifysgol 亚洲色吧 unrhyw fuddsoddiadau uniongyrchol mewn tanwydd ffosil echdynnol ac nid yw wedi cael unrhyw fuddsoddiadau o'r fath ers 2016. Gyda chymorth ein rheolwyr portffolio, mae Prifysgol 亚洲色吧 yn gweithredu set gaeth o feini prawf moesegol a chynaliadwyedd wrth asesu ein buddsoddiadau. O ganlyniad i'r meini prawf llym hyn, mae'n annhebygol iawn y bydd cwmni sy'n ymwneud 芒 thanwydd ffosil yn pasio'r broses sgrinio i'w chynnwys yn ein portffolio buddsoddi. Gellir gweld Polisi Buddsoddi Cynaliadwy'r Brifysgol yma.
A all Prifysgol 亚洲色吧 ehangu ardaloedd blodau gwyllt i hyrwyddo bioamrywiaeth ar y campws?
Mae gan Brifysgol 亚洲色吧 darged i ehangu ardaloedd blodau gwyllt ar draws y campws. Mae'r t卯m Tiroedd a Gerddi, ynghyd 芒'n harbenigwyr yng Ngardd Fotaneg Treborth, yn gweithio i nodi ardaloedd addas a'r cymysgeddau hadau a'r cyfundrefnau rheoli mwyaf priodol i sicrhau bod unrhyw ardaloedd blodau gwyllt newydd yn ffynnu. Darllenwch fwy am ein gweithgareddau Bioamrywiaeth yma.
Sut mae drysau cylchdroi yn arbed ynni?
Mae drysau cylchdroi yn arbed ynni gan eu bod yn atal colli llawer iawn o wres o'r tu mewn i adeilad. Mae drws cylchdroi ychydig fel clo awyr, fe'u cynlluniwyd i sicrhau nad oes byth agoriad uniongyrchol rhwng y tu mewn i adeilad a'r tu allan. Er bod drysau cylchdroi yn arbed ynni trwy atal colli gwres, gallant weithiau fod dim ar gael am resymau diogelwch, megis mewn gwyntoedd cryfion.
Pam mae Prifysgol 亚洲色吧 yn darparu cwpanau coffi untro?
Mae'r Brifysgol yn darparu cwpanau coffi parod untro i gwsmeriaid nad oes ganddynt gwpan y gellir ei hailddefnyddio. Pe bai'r Brifysgol yn gwahardd cwpanau coffi untro byddem yn eithrio'r rhai nad oes ganddynt gwpanau y gellir eu hailddefnyddio rhag gallu prynu diodydd yn allfeydd y Brifysgol. Mae cwpanau coffi a photeli d诺r y gellir eu hailddefnyddio ar gael i'w prynu gan y Brifysgol. Wrth defnyddio cwpan coffi hailddefnyddio, gallwch gael eich te neu goffi cyntaf am gostyngiad ar bob cwpanaid o de/coffi rydych chi'n ei brynu yn y cwpan y gellir ei hailddefnyddio ar 么l hynny.
Beth mae Prifysgol 亚洲色吧 yn ei wneud yngl欧n 芒 chynaliadwyedd 鈥渇reebies鈥 hyrwyddo?
Rydym yn gweithio gydag adrannau yn fewnol yn y Brifysgol i'w helpu i feddwl am gynaliadwyedd yr eitemau hyrwyddo y maen nhw'n eu dosbarthu mewn digwyddiadau.
Mae Undeb hefyd wedi creu eu hunain sydd yn cynnwys arweiniad i ddeiliaid stondinau mewn digwyddiadau Undeb fel Serendipity, ynghylch cynaliadwyedd a 鈥渞hoddion am ddim鈥 hyrwyddo.
Beth mae Prifysgol 亚洲色吧 yn ei wneud yngl欧n 芒 thlodi mislif?
Mae Undeb 亚洲色吧 wedi arwain ar fynd i'r afael 芒 thlodi mislif yn y Brifysgol. Mae cyflenwadau misglwyf am ddim ar gael mewn niferoedd o doiledau ar draws y campws.
I ble mae sbwriel ac ailgylchu Prifysgol 亚洲色吧 yn mynd?
Ein prif gontractwr gwastraff yw Cyngor Gwynedd, sy'n casglu ein hailgylchu sych, gwastraff bwyd a gwastraff cyffredinol. Cymerir gwastraff bwyd a gesglir o'r Brifysgol ar gyfer Treuliad Anaerobig, proses sy'n creu egni a bio-wrtaith. Mae mwy o wybodaeth am Dreuliad Anaerobig i'w gweld . Mae'r gwastraff cyffredinol a gesglir o'r Brifysgol yn cael ei anfon i gyfleuster Ynni-o-Wastraff.
Gellir dod o hyd i ragor o wybodaeth am sut mae Cyngor Gwynedd yn trin y gwastraff y mae'n ei gasglu .
A yw Prifysgol 亚洲色吧 wedi datgan Argyfwng Hinsawdd?
Cyhoeddodd Prifysgol 亚洲色吧 Argyfwng Hinsawdd yn swyddogol ar 21 Mehefin 2019.
A yw Prifysgol 亚洲色吧 wedi gosod dyddiad targed ar gyfer bod yn niwtral o ran garbon?
Do, ym mis Mehefin 2020 gosododd y Brifysgol darged i fod yn 'net carbon zero' scope 1 a 2 erbyn 2030.