Bwyd a Diod
Lleoedd i fwyta ac yfed
Rydym wedi ymrwymo i ddarparu bwyd blasus a gwerth am arian gan ddefnyddio cynhwysion ffres a lle bo modd, o ffynonellau lleol.
Rydym yn cynnig ac yn cefnogi cynnyrch achrededig Masnach Deg yn ein holl fannau gwerthu, ac efo achrediad Masnach Deg, rydym yn defnyddio pysgod o ffynonellau cynaliadwy ac mae ein holl wyau yn wyau maes.
Ceir pryniant sylweddol ar gyfer arlwyo gan gyflenwyr y fframwaith TUCO (The University Caterers Organisation) sy鈥檔 hyrwyddo cynaliadwyedd y gadwyn gyflenwi ac yn darparu helaeth i ni ddysgu am y datblygiadau diweddaraf o ran arlwyo cynaliadwy.
Masnach Deg
Mae Prifysgol 亚洲色吧 wedi ennill statws Masnach Deg ers Medi 2009 trwy wneud ymrwymiad parhaus i gefnogi Masnach Deg.
Rydym yn cynnig ac yn cefnogi cynnyrch achrededig Masnach Deg yn ein holl fannau gwerthu, ac yn gweithio tuag at yr achrediad Masnach Deg newydd. Rydym hefyd yn cefnogi myfyrwyr i ymchwilio i Fasnach Deg, cyfiawnder masnach a defnydd moesegol yn eu traethodau hir.
Bwyd Cymunedol
Mae'r Brifysgol yn falch o gynnig lle a chefnogaeth ar y campws i grwpiau myfyrwyr sy'n gweithio ar brosiectau bwyd cynaliadwy. Darllenwch fwy am y gwahanol brosiectau isod.
Gardd Iachau - Gwirfoddoli Myfyrwyr 亚洲色吧
Mae rhandir a gardd dan arweiniad myfyrwyr yng nghanol 亚洲色吧 Uchaf, wrth ymyl Eglwys Sant Iago ar Ffordd Ffriddoedd. Yn 2010 dechreuodd y myfyrwyr drawsnewid chwarter hectar o dir segur y Brifysgol yn ardd organig gynhyrchiol, hardd a bioamrywiol. Mewn partneriaeth 芒 Headway Gwynedd, Sefydliad Anafiadau鈥檙 Ymennydd, mae鈥檙 ardd yn cynnwys gwelyau uchel, strwythurau helyg byw, coed ffrwythau treftadaeth Cymru a gardd droellog a chors synhwyraidd.
Y tu allan i'r ardd maent yn trefnu teithiau bwyd, nosweithiau ffilm a seminarau addysgol i rannu gwybodaeth; mae sgyrsiau blaenorol wedi cynnwys adnabod rhywogaethau, rheoli pl芒u organig a hanes o arddio organig. Mae croeso i holl fyfyrwyr 亚洲色吧! Cydiwch yn eich esgidiau glaw a dewch draw i un o'n gweithgorau.
I wirfoddoli ewch i'w tudalen we:
Gallwch ddarllen rhywfaint mwy amdano , papur newydd y myfyrwyr, ac mewn astudiaeth achos a gyhoeddwyd gan .
Y Prosiect Prydau Poeth
Mae hwn yn a sefydlwyd mewn partneriaeth 芒 Chyngor Dinas 亚洲色吧, sy'n darparu cyllid a defnydd o neuaddau a chyfleusterau'r cyngor (neuadd fwyta, cegin ac ati) am ddim.
Mae'r prosiect yn coginio prydau poeth am ddim i bobl yn y gymuned bob dydd Sadwrn, gan ddarparu dros 50 o brydau. Mae arweinwyr myfyrwyr yn cynnal y prosiect a sesiynau cymorth gydag arweiniad, hyfforddiant a chefnogaeth gan Undeb y Myfyrwyr. Maent yn cydlynu gwahanol grwpiau o wirfoddolwyr i gefnogi a choginio pryd gwahanol bob wythnos, gydag amrywiaeth o grwpiau myfyrwyr (prosiectau gwirfoddoli eraill, clybiau a chymdeithasau) yn cymryd rhan. Mae'r prosiect hefyd yn darparu prydau poeth parod i drigolion mewn cartrefi gofal lleol.
Trefnodd y prosiect ginio Nadolig rhad ac am ddim a dathliad ar ddydd Sadwrn y 23ain o Ragfyr 2023 yn Neuadd Cyngor Dinas 亚洲色吧, gyda chefnogaeth gwirfoddolwyr o Glwb Rygbi 亚洲色吧. Mae鈥檙 prosiect yn cydnabod bod y Nadolig yn gyfnod heriol ac ynysig i lawer ac wedi darparu bwyd blasus, cerddoriaeth a chyfle i bawb ddod at ei gilydd a mwynhau. Noddodd Harlech Foods y digwyddiad, gan gyfrannu rhai eitemau arlwyo a bwyd.
Hungry Dragon 亚洲色吧
Mae yn brosiect bwyd dan arweiniad myfyrwyr, sy'n gweithio allan o adeilad Prifysgol, gan arbed bwyd dros ben ym Mangor. Mewn partneriaeth 芒 Chaffi Pris Teg 亚洲色吧, maent yn trosi ffrwythau a llysiau dros ben o archfarchnadoedd lleol yn gyffeithiau a phrydau blasus.
Cefnogodd y prosiect Hungry Dragon ein digwyddiad Costau Byw yn Chwefror 2024 trwy goginio jamiau a chyffeithiau o ffrwythau a llysiau gwastraff.
Rhoddion Banc Bwyd
Mae Undeb y Myfyrwyr yn falch o gael basgedi rhoi bwyd ledled y Brifysgol. Mae'r bwyd a roddir yn aros ym Mangor ac yn cael ei gludo i'w ddosbarthu i .
Yn ogystal, yn ystod misoedd Mai a Mehefin bob blwyddyn, mae'r , yw dargyfeirio bwyd i ffwrdd o'r llif gwastraff yn 么l i'w ddefnyddio.