Myfyrywr
Datganiad Cynaliadwyedd Undeb y Myfyrwyr
Mae Undeb 亚洲色吧 wedi ymrwymo i ddatblygu sefydliad cwbl gynaliadwy.
"Rydym wedi ymrwymo i wella lles myfyrwyr Prifysgol 亚洲色吧, trwy ystyried eu lles economaidd, cymdeithasol, amgylcheddol a diwylliannol a byddwn yn gweithio gyda'n cymuned myfyrwyr ac ystod eang o randdeiliaid i wireddu ein nodau yn y maes hwn. Byddwn yn gweithio i addasu ac integreiddio saith nod Deddf Lles Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 i ddiwallu anghenion ein haelodau a'n sefydliad ac yn hynny o beth byddwn yn ceisio creu cymdeithas ddwyieithog ddeinamig, ddychmygus, deg a llewyrchus, a all fod yn gatalydd ar gyfer dyfodol mwy disglair i Brifysgol 亚洲色吧, ei myfyrwyr a'r gymuned yr ydym wedi'i lleoli ynddi."
I gael rhagor o wybodaeth am addewid Undeb y Myfyrwyr (UM) ar gynaliadwyedd .
Gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth am Undeb y Myfyrwyr a Chynaliadwyedd ar y dolenni canlynol a thrwy'r botymau llywio:
- Wobr Effaith Werdd
- Gwaith Cynaliadwyedd
- Polisi Cynaliadwyedd Undeb Myfyrwyr 亚洲色吧
- UM - Prosiectau Cymunedol Cynaliadwy Lleol
Pwyllgorau Undeb a Phwyllgorau'r Brifysgol
Mae cynrychiolwyr o'r Undeb y Myfyrwyr yn eistedd ar ystod eang o Bwyllgorau'r Brifysgol, megis Cyngor y Brifysgol, Pwyllgor Iechyd, Diogelwch a Rheoli Argyfyngau, Gr诺p Gweithredu Cynaliadwyedd, Pwyllgor Cydraddoldeb, Amrywiaeth, Cynhwysiant a Lles, a Pwyllgor Ystadau a Strategaeth Ddigidol.