Ailgylchu yn y Brifysgol
Ailgylchu ar wahân (caeadau oren/glas/coch)Ìý
Mae'r Brifysgol yn gweithredu system ailgylchu ar wahân. Trwy wahanu ein hailgylchu fel hyn, ein nod yw gwella ein cyfraddau ailgylchu a chynhyrchu ailgylchu glanach o ansawdd uwch gyda mwy o debygolrwydd y bydd yr ailgylchu'n cael eu defnyddio yma yng Nghymru neu yn y DU.
- Biniau hefo caeadau oren: caniau/tuniau, ffoil, aerosolau, poteli plastig, tybiau/hambyrddau/potiau plastig, caeadau cwpanau coffi, a chartonau
- Biniau hefo caeadau glas: papur a cardfwrdd
- Biniau hefo caeadau coch: poteli a jariau gwydr
Cofiwch rinsio'r ailgylchu os oes modd. Os ydych chi'n ailgylchu ‘wrth fynd’, gwnewch yn siŵr nad oes unrhyw fwyd na diod ar ôl yn y cynwysyddion cyn eu rhoi yn y bin ailgylchu.
Peidiwch a rhoi deunydd lapio plastig, ffilm blastig, pecynnau creision, deunydd lapio siocled, deunydd lapio melysion, hen hancesi papur, masgiau na menig defnydd un-tro yn y biniau ailgylchu. Does dim modd eu hailgylchu ar hyn o bryd, ac mae angen eu rhoi yn y bin du, sydd ar gyfer gwastraff amhosib ei ailgylchu.
Ailgylchu Bwyd (Bocs Brown)
Caiff gwastraff bwyd y Brifysgol ei anfon i safle Treulio Anaerobig lleol yng Ngwynedd o’r enw Biogen Gwyriad. Mae’r gwastraff bwyd yn cael ei anfon i Gwyriad yn hytrach nag i safle sy’n compostio mewn cynhwysydd oherwydd bod y llywodraeth yn cydnabod fod Treulio Anaerobig yn un o’r dulliau gorau o ailgylchu gwastraff bwyd, gan ei fod yn cynhyrchu trydan a gwres yn ogystal â bio-wrtaith, mewn cylch caeedig. Caiff y bio-wrtaith yma ei ddefnyddio ar dir ffermio lleol. Caiff gwastraff bwyd campws Wrecsam ei gasglu gan gwmni o’r Alban o’r enw Keenan Recycling Ltd. a’i gludo i gyfleuster Treuliad Anaerobig hefyd.
Beth yw ystyr cylch caeedig?
Mae ailgylchu cylch caeedig yn golygu bod y deunydd gwastraff sy’n cael ei ailgylchu’n cael ei ddefnyddio i greu eitem newydd sydd o safon debyg neu well na’r eitem wreiddiol.
Rydym yn derbyn y deunyddiau bwyd canlynol i’w hailgylchu: unrhyw fath o wastraff bwyd gan gynnwys bwyd amrwd, bwyd wedi’i goginio, bwyd sydd wedi pasio ei ddyddiad defnyddio, bwyd dros ben, esgyrn, cig, llysiau, ffrwythau, plisgyn ŵy, bagiau te a gweddillion coffi. Mae angen leinio’r cadis gwastraff bwyd â bagiau startsh priodol (sy’n gallu cael eu compostio). Mae’r rhain ar gael gan y Brifysgol.
Plîs tynnwch yr holl wastraff bwyd allan o’r pecynnau cyn ei roi yn y cadi gwastraff bwyd, a pheidiwch â rhoi’r deunydd lapio plastig na bagiau plastig yn y gwastraff bwyd oherwydd mi wnaiff hynny niweidio’r peiriannau. Peidiwch â rhoi hylif o unrhyw fath yn y cadi gwastraff bwyd chwaith rhag iddo ollwng a chreu llanast.
Peidiwch â rhoi cwpanau coffi, gwydrau, gwellt, cyllyll a ffyrc sydd wedi eu labelu ‘compostiadwy/pydradwy’ yn y cadi gwastraff bwyd, oherwydd dydyn nhw DDIM YN gompostiadwy/yn bydradwy yn y peiriant Treulio Anaerobig. Os fyddwch chi’n rhoi rhain i fewn gyda’r bwyd yn y cadi mae’n bosib y byddant yn difetha’r peiriannau, ac arafu’r broses gyfan. Hefyd peidiwch â rhoi cyllyll a ffyrc pren na gwellt papur yn y cadi gwastraff bwyd chwaith.
Am fwy o wybodaeth am y broses treulio anaerobig, dilynwch y dolenni:
Ailgylchu Plastig o’r Labordy (caeadau piws)
Cyflwynodd Prifysgol ÑÇÖÞÉ«°É ailgylchu plastig labordy yn hydref 2019. Cesglir ein plastigau labordy di-berygl gan Humphrey’s Waste & Recycling Ltd a’u cludo i’w gorsaf drosglwyddo ym Mryngwran ar Ynys Môn i’w didoli. Gofynnwn ichi wagio'r holl hylifau cyn rhoi’r ailgylchu yn y biniau caead porffor.
Derbynnir y deunyddiau canlynol yn yr ailgylchu cymysg (biniau porffor): canister, tipiau pibed, tiwbiau sampl, cwfedau, pibedau, blychau blaen pibed, tiwbiau selio gwres, tiwbiau allgyrchu, chwistrelli, fflasgiau meithrin, dysglau pwyso, dolen inocwllwm, dysglau petri , tiwbiau eppendorf, caeadau, gynhalydd blaen pibedau a phlatiau dal samplau. Nid oes unrhyw eitemau eraill yn dderbyniol yn yr ailgylchu plastig o labordai, ac os ychwanegir hwy, byddant yn halogi'r llwyth ailgylchu. Yn benodol dim menig na bagiau plastig.
Gwastraff arall sy’n bosib ei ailgylchu
Ar gyfer Cyfrifiaduron ac offer Technoleg Gwybodaeth, .
Ar gyfer eitemau swmpus fel dodrefn, plîs cysylltwch â’r Ddesg Gymorth Cynnal a Chadw yn Wasanaethau Campws.