Rheoli Gwastraff (Effeithlonrwydd Adnoddau)
- Ailddefnyddio yn y Brifysgol
- Ailgylchu yn y Brifysgol
- Gwastraff na ellir ei Ailgylchu (Caeadau Du) yn y Brifysgol
- Ymgyrchoedd, Cynlluniau , Gwobrau a Newyddion
Nod Prifysgol 亚洲色吧 yw bod yn 'Brifysgol Gynaliadwy' ym mhob ffordd bosib, yn ymgorffori cynaliadwyedd yn ei holl swyddogaethau a'i gwaith bob dydd. Mae lleihau, ailddefnyddio, ailgylchu ac adfer gwastraff yn rhan allweddol o sicrhau bod y Brifysgol yn gweithredu'n gynaliadwy a bod y myfyrwyr, y staff a'r ymwelwyr yn cyfrannu at economi cylchol.
Mae angen ystyried gwastraff fel adnodd, yn rhywbeth gwerthfawr i'w ailddefnyddio sawl gwaith, ei newid neu ei drwsio, neu ei wneud yn rhywbeth newydd; peidied 芒'i ystyried yn rhywbeth i'w daflu ar 么l y defnydd cyntaf.
Hierarchaeth Gwastraff
Mae'r Brifysgol yn defnyddio'r hierarchaeth wastraff wrth wneud penderfyniadau, ac mae'n atal gwastraff yn y lle cyntaf yn flaenoriaeth - diffyg cynllunio sy鈥檔 arwain at wastraff yn ei hanfod. Os nad yw hynny'n bosibl, y dewis cyntaf yw ailddefnyddio, ac yna ailgylchu, ac yn olaf, adfer ynni. Y nod yw gwneud yn si诺r nad oes gwastraff ar 么l i'w waredu.
Perfformiad Presennol
Yn 2023/24 llwyddodd Prifysgol 亚洲色吧 i ddargyfeirio 100% o'i gwastraff. O’r gwastraff na chafodd ei yrru i safle tirlenwi cafodd 55.28% ei ailgylchu听补 44.72% ei adfer. Cynhyrchwyd 737.79 tunnell o wastraff i gyd, cynnydd o 1.89% ers y flwyddyn flaenorol.
Fodd bynnag, ein nod yw gwella ar hynny. Yn Rhagfyr 2020, wnaeth y Brifysgol symud o system ailgylchu lle mae popeth yn gymysg i system ailgylchu lle mae defnyddiau yn cael eu gwahanu’n rhannol. Y rheswm dros hyn yw i wella cyfraddau ailgylchu ac i sicrhau bod yr ailgylchu a gasglwyd yn lanach ac o ansawdd uwch. Wnaeth ein hardaloedd swyddfa, labordy ac addysgu newid ar ddiwedd 2020, gyda Neuaddau Preswyl yn dilyn fuan wedyn a Wrecsam yn 2021.
Amcanion a Thargedau
Y nod yw dargyfeirio 100% o'n gwastraff o safle tirlenwi ac ailddefnyddio/ailgylchu 70% o'n gwastraff erbyn mis Gorffennaf 2025, fel y nodir yn strategaeth wastraff gyffredinol Cymru - .
Er mwyn cyflawni'r targedau hyn, yn 2020/21 wnaeth y Brifysgol symud o system ailgylchu lle mae popeth yn gymysg i system ailgylchu lle mae defnyddiau yn cael eu gwahanu鈥檔 rhannol. Y rheswm am hyn yw ein bod yn credu y gwnaiff casglu sbwriel sydd wedi cael ei wahanu wrth gael ei roi yn y bin yn gwella'n cyfraddau ailgylchu. Bydd y gwastraff sy鈥檔 cael ei ailgylchu'n lanach ac o ansawdd uwch, ac felly鈥檔 fwy tebygol o gael ei ddefnyddio yma yng Nghymru neu yn y Deyrnas Unedig. Mae hynny'n unol 芒 nodau a .
Mae'r Brifysgol hefyd yn asesu sut y gallwn ailgylchu mwy o ffrydiau gwastraff arbenigol, sy'n cael ei anfon ar hyn o bryd i safle adfer ynni. Rydym eisoes wedi cyflwyno biniau ailgylchu plastig o’r labordai a biniau ailgylchu ‘wrth fynd’.
Rydym hefyd yn ceisio gwella ein prosesau caffael erbyn 2025, trwy wneud yn si诺r fod mwy o鈥檙 pethau sy鈥檔 cael eu prynu cynnwys deunyddiau wedi eu hailddefnyddio, ailwampio neu eu hailgylchu. Bydd hyn yn cyfrannu at economi cylchol yng ngwir ystyr y gair. Rydym hefyd yn ceisio sicrhau y bydd yn bosib ailgylchu'r rhan fwyaf o'r deunyddiau yn y pethau a brynwn (mae hyn o'r pwys mwyaf lle mae'r defnydd o blastig yn y cwestiwn).
Oherwydd bod osgoi cynhyrchu gwastraff yn y lle cyntaf (atal) yn uwch yn yr hierarchaeth wastraff nag ailddefnyddio, ailgylchu ac adfer, rydym hefyd am leihau鈥檙 tunelli o wastraff sy鈥檔 cael ei greu erbyn 2025, waeth sut y caiff y gwastraff ei brosesu.
Y Brif Ddeddfwriaeth a Gofynion Cyfreithiol
Cofiwch fod y ddeddfwriaeth Wastraff wedi'i datganoli yng Nghymru.