ÑÇÖÞÉ«°É

Fy ngwlad:
Map o'r byd efo chwydd wydr yn edrych yn fanylach ar Ewrop

Rhanbarth - Canolfan ÑÇÖÞÉ«°É ar gyfer Rhanbarthau ac Economïau Cynaliadwy

Image of mother and baby shopping in a supermarket

Ein Themâu Ymchwil Deall Defnyddwyr

Mae’r grŵp cynllunio ymchwil Deall Defnyddwyr yn dwyn ynghyd academwyr sydd â diddordeb mewn ymddygiad peryglus (e.e., ysmygu), defnydd cynaliadwy, agweddau defnyddwyr at newid yn yr hinsawdd a chyfathrebu, ymgysylltu â’r gymuned, brandio, marchnata proffil/persona, penderfyniadau defnyddwyr ac effaith norm cymdeithasol ar benderfyniadau unigol, effaith emosiynau ar (wrth)weithredu, ymddygiadau gwahaniaethu, a moeseg arferion busnes a'u heffeithiau ar ddefnyddwyr. Mae’r grŵp yn cyfuno arbenigedd mewn nifer o fethodolegau gan gynnwys ymchwil ansoddol (cyfweliadau, grwpiau ffocws), arolygon, model, arbrofion maes ac ethnograffeg.ÌýRydym yn trefnu digwyddiadau amrywiol i adlewyrchu ein hymchwil yn y maes hwn gan gynnwys yr Uwchgynhadledd Ymchwil gofiadwy i Ddefnyddwyr a gynhaliwyd ym Mangor. Gweler einÌý»å¾±²µ·É²â»å»å¾±²¹»å²¹³ÜÌý³¦´Ç´Ú¾±²¹»å·É²â am ragor o fanylion.

Mae aelodau ein grŵp yn cynnwys:

Ìý

A woman standing in an airport looking at flight times with a backpack on her back

Ein Themâu Ymchwil Twristiaeth, Pen y Daith ac Ymgysylltu â Lleoedd

Nod y grŵp cynllunio ymchwil Twristiaeth, Pen y Daith ac Ymgysylltu â Lleoedd yw datblygu ymchwil mewn pynciau ehangach sy'n ymwneud â thwristiaeth, cyrchfannau a lleoedd. Gan fabwysiadu ymagwedd amlddisgyblaeth, mae'r grŵp yn dadansoddi'r sector twristiaeth, brandio lleoedd, a rheoli cyrchfannau a marchnata gan ddefnyddio dulliau ymchwil mesurol ac ansoddol. Nodweddir twristiaeth gan fodolaeth toreth o ddata, a all, o'i olygu a'i ddadansoddi'n briodol, ymestyn gwybodaeth ddamcaniaethol, a chynnig goblygiadau rheolaethol i fusnesau twristiaeth. O ganlyniad, mae'r grŵp yn canolbwyntio ar ddadansoddi twristiaeth. Mae'r grŵp hefyd yn rhoi sylw arbennig i gynaliadwyedd, gan gynnwys cynaliadwyedd economaidd a chymdeithasol-ddiwylliannol o ddatblygu twristiaeth a hunaniaeth lle a brandio.

Mae aelodau ein grŵp yn cynnwys:

Aelodau allanol

Dr. Nam Dang

Darllen am un o'n prosiectau ymchwil.

Image of business meeting with two females and one male in suit

Ein Themâu Ymchwil Ymddygiad Sefydliadol

Mae’r grŵp cynllunio ymchwil Ymddygiad Sefydliadol yn cyfrannu at greu gwybodaeth bresennol a newydd yn y meysydd ymchwil canlynol: HRM, rhyngwladoli busnesau bach a chanolig, arloesi, ymddygiad entrepreneuraidd, CSR, cynaliadwyedd, ymgysylltu â rhanddeiliaid, a rheoli cadwyn gyflenwi gynaliadwy. Mae'r grŵp yn mabwysiadu dulliau methodolegol amrywiol gan gynnwys ethnograffeg, ymchwil gweithredu, astudiaeth achos a modelu rhagolygon.

Mae aelodau ein grŵp yn cynnwys:

Small wooden house with piles of coins with plants growing out of them

Ein Themâu Ymchwil Treth a Lles

Mae gan y grŵp cynllunio ymchwil Treth a Lles, ddiddordeb mewn archwilio’r holl bynciau sy’n ymwneud â threthi a budd-daliadau yng Nghymru a gwledydd/tiriogaethau tebyg ledled y byd. Mae'r grŵp yn dod ag economegwyr, cyfrifwyr, a gwyddonwyr cymdeithasol eraill ynghyd i ystyried trethiant a lles o amrywiaeth o safbwyntiau. Mae gan aelodau’r tîm amlddisgyblaethol enw da eisoes am gydweithio â phartneriaid ar faterion yn ymwneud â threthi datganoledig a rhaglenni lles cymdeithasol yng Nghymru. Mae’r grŵp yn mabwysiadu sawl dull methodolegol mesurol ac ansoddol gwahanol, megis dadansoddi clwstwr, modelu rhagolygon, ethnograffeg, ymchwil gweithredu ac astudiaeth achos.

Mae aelodau ein grŵp yn cynnwys:

Aelodau allannol:

Myfyrwyr PhD:

Er mwyn gweld rhestr o prosiectau PhD hoffwn goruchwylio, ewch i’n Ìýtudalen cwrs PhD.

Ymchwil Ôl-raddedig

Dysgwch fwy am y cyfleoedd ymchwil sydd ar gael i fyfyrwyr ôl-raddedig o fewn ein meysydd pwnc:

Busnes, Rheolaeth a MarchnataÌý ÌýCyfrifeg, Bancio a Chyllid

Blogiau

Rydym yn falch bod gan ein tîm enw da o weithio gyda'r cyfryngau i hyrwyddo eu harbenigedd a'u hymchwil ar faterion sy'n effeithio ar ddiwydiant, tlodi, yr economi a chymdeithas. Mae manylion ein sylw yn y cyfryngau a'n hymddangosiadau i'w gweld isod.

  • Cyfrannodd Dr Rhys ap Gwilym at bodlediad , sy'n trafod Trethiant Twristiaeth. Cafodd gyfle i drafod y gwaith a wnaeth ef a Dr Linda Osti yn ddiweddar ar y ffordd y caiff refeniw trethi twristiaeth ei wario, yn ogystal â'r gwaith a gyhoeddwyd gan grŵp Treth a Lles Canolfan Rhanbarth yn 2022 ar y baich treth cyffredinol y mae darparwyr twristiaeth yn ei wynebu mewn gwahanol awdurdodaeth.
  • Sut i wneud eich busnes awyr agored yn hygyrch: Stori gan ymchwilydd busnes anabl - Dr Felix Shi
  • Cyfweliad Dr. Linda Otsi efo The Guardian -
  • Cyfweliad Dr. Linda Otsi gan y BBC -Ìý
  • Ar 19eg Mehefin, trafodwyd Dr Linda Osti and Dr Rhys ap Gwilym y ddefnydd o gwahaniaethu prisiau mewn twristiaeth gyda’r .
  • Ar 8fed o Fai, cyhoeddodd Dr Rhys ap Gwilym a Dr Linda Osti erthygl ynÌýÌýar drethau twristiaeth. Cyfryngau eraill: , ,

Papurau a Chyhoeddiadau

Mae ein hymchwil bob amser yn datblygu ac mae aelodau ein tîm yn weithgar yn eu gwaith ymchwil. Mae manylion ein papurau gwaith a chyhoeddiadau aelodau'r tîm isod.

  • The Conversation -