Rhaglenni 脭l-Radd Ymchwil (PGR)
Bwriedir ein cyrsiau 脭l-Radd Ymchwil ar gyfer ymgeiswyr sy鈥檔 meddu ar raddau neu gefndiroedd cysylltiedig, sy鈥檔 dymuno datblygu eu harbenigedd a hyrwyddo eu gyrfaoedd proffesiynol.听 Mae ein graddau ymchwil MRes, MPhil a PhD yn cynnig cyfleoedd i wneud cyfraniad sylweddol a gwreiddiol at wybodaeth yn y maes pwnc dewisol.
Fel rheol, bydd gradd PhD yn cymryd 3 blynedd yn llawn amser; neu 5-6 blynedd yn rhan amser. Mae disgwyl i ymgeiswyr gyflwyno canlyniadau eu hymchwil mewn traethawd ymchwil 100,000 o eiriau sy'n gyfraniad gwreiddiol ac arwyddocaol at wybodaeth yn y maes pwnc a astudiwyd, a sefyll arholiad llafar viva voce.
Fel rheol, bydd gradd MPhil (Meistr mewn Athroniaeth) yn para 2 flynedd yn llawn amser neu 3 blynedd yn rhan amser. Mae'n rhaid i ymgeiswyr gwblhau rhaglen gydnabyddedig o ymchwil o dan oruchwyliaeth yn llwyddiannus, a chyflwyno eu canlyniadau mewn traethawd ymchwil o hyd at 60,000 o eiriau.
Rydym yn croesawu astudiaethau rhyngddisgyblaethol sy鈥檔 canolbwyntio ar un o鈥檙 them芒u sy鈥檔 deillio o waith y ddwy Ganolfan Ymchwil sydd gennym yn Ysgol Busnes 亚洲色吧, Sefydliad Cyllid Ewropeaidd (IEF) a Rhanbarth,听 Canolfan Ymchwil er Rhanbarthau ac Econom茂au Cynaliadwy. Mae鈥檙 Sefydliad Cyllid Ewropeaidd (IEF) yn canolbwyntio ei astudiaethau ymchwil ar bedair thema allweddol: 'Cyfrifo a llywodraethu'; 'Bancio'; 'Risg credyd'; ac 'Arloesi Ariannol a Dadansoddi Data'. Mae Rhanbarth yn canolbwyntio ar wahanol them芒u ymchwil: 'Deall ymddygiad'; 'Twristiaeth, cyrchfannau, ac ymgysylltu 芒 lleoedd'; 'Ymddygiad sefydliadol'; a 'Treth a lles'. 听
Disgrifiodd arbenigwyr allanol raglenni 么l-radd Ysgol Busnes 亚洲色吧 fel rhai 'heb eu hail yn y Deyrnas Unedig'. Mae ein r么l o ran trwybwn graddau PhD ymhlith yr uchaf yn y Deyrnas Unedig. Mae gennym gydnabyddiaeth ESRC am ein hyfforddiant ymchwil (MSc i PhD neu PGCert mewn Methodoleg Ymchwil ym Mlwyddyn 1 PhD) mewn Rheolaeth a Busnes yn ogystal ag Economeg.
听
Graddau PhD听
Mae gan ein canolfannau ymchwil听ddiddordeb mewn gouchwylio graddau PhD yn y mesydd isod:听
Lles ariannol defnyddwyr a gwasanaethau ariannol cynaliadwy trwy atebion FinTech
Mae'r project hwn yn ymchwilio i'r cysylltiad rhwng ymddygiad defnyddwyr cynaliadwy a gwasanaethau ariannol a alluogir gan dechnoleg. Mae thema cynaliadwyedd yn parhau i dreiddio i bob maes busnes, marchnata a defnydd, tra bod technoleg yn dod yn fwy o ran o ddarparu gwasanaethau ariannol. Er enghraifft, mae ymddygiad cynaliadwy defnyddwyr yn cynnwys meysydd fel lles ariannol. Serch hynny, mae'r them芒u hyn yn datblygu ar gyflymder gwahanol ledled y byd, ac mae amrywiaeth sylweddol yn bodoli ar draws segmentau gwasanaethau ariannol.
Bydd y project hwn yn ymchwilio i ganlyniadau cadarnhaol posibl sy'n deillio o ddylunio cynaliadwyedd o fewn cynhyrchion a gwasanaethau ariannol newydd, a bydd yn ystyried sut mae'r canlyniadau hyn yn amrywio ar draws econom茂au datblygedig a newydd. Bydd ffocws penodol ar y segmentau credyd a buddsoddiad. Yn ogystal, bydd y project hwn yn edrych ar les ariannol defnyddwyr cynaliadwy trwy ddefnyddio FinTech.
Hunan-reoleiddio, emosiwn a doethineb defnyddwyr Prynu Nawr Talu Wedyn (Buy Now Pay Later - BNPL).
Mae nifer y defnyddwyr Prynu Nawr Talu Wedyn (BNPL) wedi cynyddu o ganlyniad i鈥檙 argyfwng costau byw ac mae lefel dyled bersonol y Deyrnas Unedig ar ei huchaf erioed. Mae'r project hwn yn ceisio archwilio'r berthynas rhwng hunanreoleiddio, emosiwn a doethineb defnyddwyr wrth ddefnyddio benthyciadau BNPL i siopa ar-lein. Bydd yr astudiaeth hefyd yn archwilio cysylltiad posibl rhwng methu 芒 hunanreoleiddio sy'n gysylltiedig 芒 BNPL a'r ofn o golli allan. Bydd gwahaniaethau yng ngwariant defnyddwyr gan ddefnyddio BNPL (h.y. pryniannau hanfodol yn erbyn nwyddau nad ydynt yn hanfodol) a manteision posibl BNPL hefyd yn cael eu harchwilio gyda'r nod o hyrwyddo lles ariannol cadarnhaol i ddefnyddwyr.
Archwilio twf fepio a marchnata brandiau e-sigar茅ts
Mae fepio fel ymddygiad yn gyffredin ac yn cael ei normaleiddio fwyfwy ond mae cynnydd wedi bod mewn fepio ymhlith pobl ifanc dros y pum mlynedd diwethaf. Mae ymchwil yn awgrymu bod pobl ifanc yn arbrofi gydag e-sigar茅ts, ac mae yna gynnydd yn y defnydd o fepio untro gydag Elf Bar a Geek Bar yn dod i鈥檙 amlwg fel brandiau poblogaidd. Bydd y project hwn yn archwilio agweddau pobl ifanc a'u hunaniaethau canfyddedig mewn perthynas 芒'u hymddygiad fepio. Bydd yr ymchwil hefyd yn archwilio technegau cyfathrebu brandiau e-sigar茅ts (e.e. brandio, pecynnu, cyfathrebu yn y siop, marchnata cyfryngau cymdeithasol) a sut maent yn cael eu prosesu gan rai sy鈥檔 fepio, a rhai nad ydynt yn gwneud hynny.
Perchnogaeth seicolegol a rheolaeth ganfyddedig o ddinas gan ei defnyddwyr: achos 亚洲色吧
Bydd y project hwn yn ymchwilio i reolaeth ganfyddedig, perchnogaeth seicolegol ac ymlyniad lle a deimlir gan fyfyrwyr, trigolion ac ymwelwyr 亚洲色吧. Bydd brand presennol y ddinas o gymharu 芒 brand y lle y dymunir iddi fod yn cael ei archwilio, a bydd anghenion rhanddeiliaid yn cael eu harchwilio gyda'r nod o adfywio delwedd y ddinas. Mae Stryd Fawr 亚洲色吧 wedi bod yn dirywio ers blynyddoedd ac yn ddiweddar gwrthodwyd y ddinas yn ei chais am arian o鈥檙 gronfa Ffyniant Bro. Mae angen ymgysylltu 芒'r gymuned ac ymagwedd o'r gwaelod i fyny at wella brand y Ddinas, a bydd yn hanfodol wrth wneud 亚洲色吧 yn lle deniadol i astudio yn y dyfodol.
Perfformiad Amgylcheddol, Cymdeithasol a Llywodraethu (ESG) a鈥檙 farchnad benthyciadau syndicetiedig听
Mae'r farchnad benthyca syndicetiedig wedi esblygu i fod yn rhan ganolog o'r dirwedd ariannol fyd-eang. Mae'r project hwn yn bwriadu edrych yn fanwl ar ddeinameg gynyddol y farchnad hon, gan edrych yn benodol ar ei rhyngweithio 芒 ffactorau Amgylcheddol, Cymdeithasol a Llywodraethu (ESG). Bydd yr ymgeisydd a benodir yn mentro i archwilio effaith ffactorau ESG a newid hinsawdd ar ymddygiad benthyca gan fanciau, deinameg y farchnad, priodoleddau risg, a goblygiadau economaidd, gan bwysleisio'n unigryw ymatebion y farchnad i newid yn yr hinsawdd a goblygiadau ESG. Nod yr astudiaeth hon yw ychwanegu at ddealltwriaeth academaidd a diwydiant, gan integreiddio'r cyllid traddodiadol benthyca syndicetiedig 芒 nodau buddsoddi cynaliadwy a chyfrifol yn gymdeithasol, a thrwy hynny feithrin marchnad arian wydn sy'n cyd-fynd ag egwyddorion ESG.
Effaith Cytundeb Paris ar gydsoddi a chaffael trawsffiniol: Dadansoddiad o fenthyca gwyrdd yn erbyn brown
Yn y blynyddoedd diwethaf, mae newid hinsawdd wedi denu sylw mawr gan lunwyr polisi ac ymchwilwyr academaidd. Gallai'r polis茂au hinsawdd newydd achosi ansicrwydd ar ffurf risg trosiannol hinsawdd i gwmn茂au, a fyddai'n ei gwneud yn ofynnol iddynt fabwysiadu a newid eu polis茂au. Yn y cam cyntaf, nod y project PhD hwn yw archwilio effaith Cytundeb Paris (COP21) ar ymddygiad cydsoddiadau a chaffaeliadau trawsffiniol y cwmni. Yn ogystal, ei nod yw archwilio sut mae'r newidiadau hyn yn ymddygiad cwmn茂au yn ymledu i fyd ymddygiad benthyca gan fanciau a'r goblygiadau ehangach ar gyfer sefydlogrwydd ariannol byd-eang.
Arloesi amgylcheddol ac ansefydlogrwydd ariannol听
Mewn amgylchedd byd-eang, mae brwydro yn erbyn newid yn yr hinsawdd yn gofyn am gydweithrediad rhwng pob sector economaidd. Boed yn uniongyrchol neu'n anuniongyrchol, mae'n ddiamheuol bod bron pob diwydiant yn cyfrannu'n sylweddol at dwf economaidd ac effeithiau amgylcheddol.
Gyda r么l ganolog y sector ariannol fel cyfryngwr yng ngweithrediad yr economi, gallai ansefydlogrwydd ariannol arwain at gwymp banciau a chorfforaethau. Yna, gallai sefydlogrwydd neu ansefydlogrwydd ariannol fod yn fetrig allweddol ar gyfer buddsoddi i ymchwil a datblygu (arloesi) gan gwmn茂au.听
Mae鈥檙 project hwn yn archwilio鈥檙 cysylltiad pwysig rhwng sefydlogrwydd ariannol ac arloesi mewn ymchwil a datblygu. Lle gall systemau ariannol sefydlog wella arloesi mewn ymchwil a datblygu a r么l buddsoddiad ymchwil a datblygu ym maes benthyciadau banciau.
Trawsnewid digidol, cynaliadwyedd amgylcheddol a chadwyn gyflenwi yn y Banciau a Chwmn茂au Diwydiannol.
Mae cyllid hinsawdd yn gysyniad amlochrog. Mae'n cyfeirio'n gyffredinol at gyllid ar gyfer gweithgareddau sy'n ceisio lliniaru neu addasu i effeithiau newid yn yr hinsawdd. Mae penderfyniadau a thrawsnewid technoleg sy'n ymwneud 芒 pholis茂au gwyrdd yn effeithio ar ddyfodol y cwmn茂au a'u proffidioldeb.
Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn ymchwilio i wahanol agweddau ar drawsnewid digidol, gan ennill dealltwriaeth gynhwysfawr o ddatblygiad a gweithrediad technoleg, effaith ar econom茂au, a phynciau cysylltiedig eraill, gan wneud cyfraniadau sylweddol i'r diwydiant ariannol a'r byd academaidd.
Masnachu ar y Llwyfan Gwleidyddol: Dadansoddi Dylanwad Digwyddiadau Gwleidyddol a Newid Barn ar Ymddygiad Buddsoddwyr Adwerthu听
Yn ystod y blynyddoedd diwethaf mae llawer o fuddsoddwyr adwerthu newydd wedi mynd i mewn i farchnadoedd ariannol yn llu diolch i'r cynnydd mewn llwyfannau masnachu 鈥渟eiliedig ar apiau鈥 a chyflymwyd hyn gan bandemig covid-19. Mae ymchwilwyr a llunwyr polisi bellach yn archwilio sut mae'r buddsoddwyr adwerthu newydd hyn, y gwyddys eu bod yn fwy tueddol o fod 芒 rhagfarn, yn ymddwyn. Mae gennym ddiddordeb mewn goruchwylio cynnig ymchwil sydd 芒鈥檙 nod o ymchwilio i ddylanwad digwyddiadau gwleidyddol a newidiadau barn ar ymddygiad masnachu buddsoddwyr adwerthu.
Cyfalafu polisi cyllidol yn werthoedd tir听
Mae鈥檙 ffaith bod gwerth isadeiledd a gwasanaethau cyhoeddus yn cael eu cyfalafu yn werthoedd tir wedi鈥檌 hen sefydlu*. Nod y project PhD hwn yw canfod a yw polis茂au lles a threth yn ehangach yn cael eu cyfalafu yn werthoedd tir, a mesur i ba raddau y mae hynny鈥檔 digwydd.
Bydd y project yn ystyried effaith (1) deddfwriaeth isafswm cyflog, (2) taliadau lles (gan gynnwys credydau treth) a (3) trothwy treth incwm ar werthoedd rhent eiddo y mae鈥檙 grwpiau targed yn preswylio ynddynt. Ystyrir beth yw鈥檙 goblygiadau ar gyfer gweithredu polis茂au treth a lles er mwyn llywio dadleuon ynghylch polisi yn y dyfodol.
Deall Sylfaen Dreth Cymru 鈥 Demograffeg ac Ymfudo听
Mae鈥檙 project hwn yn ceisio dadansoddi鈥檙 cysylltiadau rhwng sylfaen dreth Cymru a hanfodion allweddol economi, polisi a chymdeithas Cymru sy鈥檔 ysgogi ymfudo a demograffeg.
Un agwedd hollbwysig fydd ystyried y dystiolaeth ryngwladol ar effaith gwahaniaethiadau treth ar ymfudo, a defnyddio hyn i fodelu鈥檙 effaith bosibl o wahaniaethiadau treth rhwng Cymru a Lloegr ar ymfudo a refeniw trethi yng nghyd-destun y setliad datganoli presennol a phwerau treth posibl yn y dyfodol. Agwedd allweddol arall fydd casglu tystiolaeth ar ddemograffeg cylch bywyd poblogaeth Cymru a goblygiadau hynny ar gyfer refeniw trethi (a gwariant y llywodraeth) yng Nghymru.
Sut mae Strategaethau Treth cyhoeddedig wedi esblygu ers i ofyniad strategaeth dreth y Deyrnas Unedig gael ei gyflwyno gyntaf?
Yn 2015, cyflwynodd CThEM ofyniad i rai busnesau mawr (tua 2,000 o sefydliadau) gyhoeddi dogfen strategaeth dreth, gyda chosbau ariannol am beidio 芒 chydymffurfio. Byddai ymchwil arfaethedig yn ystyried maint a natur y datgeliadau mewn adroddiadau strategaeth dreth a gyhoeddwyd, gan astudio sut y maent wedi datblygu dros amser, a datblygiad ymarfer derbyniol ar gyfer yr adroddiadau hyn. Mae'r cwmn茂au cyfrifo mawr yn cynnig arweiniad penodol ar yr adroddiadau strategaeth hyn, a byddai eu swyddogaeth hefyd yn cael ei hystyried wrth adolygu sut mae'r adroddiadau hyn yn cyfrannu at enw da treth y cwmni, gan adeiladu ar ymchwil blaenorol ar y defnydd o adroddiadau CSR ar gyfer rheoli argraffiadau.
Safbwyntiau rhanddeiliaid ar strwythurau stoc dosbarth deuol
Mae nifer cynyddol o gwmn茂au yn mabwysiadu strwythurau cyfranddaliadau dosbarth deuol, lle mae dosbarth stoc 芒 hawliau rheoli uwch yn cael ei ddal gan bobl o鈥檙 tu fewn/sylfaenwyr cwmn茂au (Aggarwal, Eldar, Hochberg & Litov, 2022). Rydym yn gwybod bod strwythurau dosbarth deuol yn gysylltiedig 芒 risg o fwy o broblemau asiantaeth mewn perthynas 芒 rheolwyr yn cael buddion preifat, ar draul cyfranddalwyr allanol (Masulis, Wang & Xie, 2009). Ond, ychydig a ddeellir o hyd am eu heffaith ar randdeiliaid eraill (e.e. gweithwyr, cyflenwyr, cwsmeriaid, neu gymdeithas yn gyffredinol) neu ganlyniadau Cyfrifoldeb Cymdeithasol Corfforaethol (CSR). Rydym yn croesawu鈥檔 arbennig gynigion sy鈥檔 cysylltu eu defnyddio 芒 heriau byd-eang pwysig (e.e. newid yn yr hinsawdd).
Y Rhyfel yn Wcr谩in a pherfformiad cwmn茂au (amlinelliad gwreiddiol yw hwn ac nid yw wedi'i ddiwygio ers hynny)
Bydd y project PhD hwn yn ymchwilio i benderfyniadau strategol cwmn茂au yng nghyd-destun Rhyfel Wcr谩in. Prif nod y project yw archwilio llwyddiant amrywiol cwmn茂au sy'n ymwneud 芒'r ardal ddaearyddol hon yn ystod y gwrthdaro. Bydd y project yn archwilio'r penderfyniadau a wnaeth y cwmn茂au hyn, ac effaith y rhain arnynt. Bydd yr ymchwil hwn yn cyfrannu at y llenyddiaeth bresennol ar oblygiadau gwrthdaro daearyddol-wleidyddol i gorfforaethau rhyngwladol ac yn darparu dirnadaeth werthfawr i gwmn茂au sy'n wynebu cyfyng-gyngor tebyg yn y dyfodol.
Effaith digwyddiadau amgylcheddol, cymdeithasol a llywodraethu ar Statws Credyd: Effaith Ansicrwydd Gwybodaeth a鈥檙 raddfa fesur amgylcheddol, cymdeithasol a llywodraethu (amlinelliad gwreiddiol yw hwn ac nid yw wedi鈥檌 ddiwygio ers hynny)
Yn ystod y blynyddoedd diwethaf, mae llunwyr polisi a鈥檙 cyhoedd yn dechrau dod yn fwy ymwybodol o faterion amgylcheddol, cymdeithasol a llywodraethu fel newid yn yr hinsawdd a chyfrifoldeb corfforaethol.
Mae ymchwilwyr academaidd yn ymchwilio i weld a all natur busnes a sut y mae'n ymateb i faterion amgylcheddol, cymdeithasol a llywodraethu bennu ei lwyddiant yn y dyfodol a'i allu i dalu ei ddyledion (risg credyd).
Nod y project PhD hwn yw ymchwilio i gryfder a natur y raddfa hon i fesur statws credyd, sef yr agweddau amgylcheddol, cymdeithasol a llywodraethu, a sut y gellir trosglwyddo sioc drwyddi o'r maes amgylcheddol, cymdeithasol a llywodraethu i gredyd corfforaethol.
Ymchwilio i Ffyniant yn y Dyfodol - Sut Gall Sgiliau Rheoli Hybu Twf yn y Rhanbarthau a Thu Hwnt
Mae鈥檙 project hwn yn estyniad o gyfraniad y t卯m goruchwylio i bapur polisi diweddaraf y Sefydliad Rheolaeth Siartredig a oedd yn canolbwyntio ar ffyniant Gorllewin Canolbarth Lloegr (gweler https://www.managers.org.uk/knowledge-and-insights/policy/west-midlands-future-prosperity/). Bydd y project newydd yn mynd i鈥檙 afael 芒鈥檙 pwnc pwysig o hybu twf trwy sgiliau rheoli gan gymharu a chyferbynnu tri rhanbarth yn gynnwys Cymru, Gogledd Ddwyrain Lloegr a Gorllewin Canolbarth Lloegr. Ceir goblygiadau ehangach drwy fynd i'r afael 芒 Nodau Datblygu Cynaliadwy'r Cenhedloedd Unedig. Defnyddir dulliau ansoddol i ddatgelu them芒u allweddol ac adeiladu tuag at ddamcaniaeth newydd, yn enwedig o ran arweinyddiaeth lle. Mae yna ddimensiwn arfer sy'n sicrhau effaith trwy helpu sefydliadau rhanbarthol fel busnesau bach a chanolig i dyfu.
Treftadaeth Gynaliadwy ac Arloesedd Cymdeithasol fel modd o wireddu Nodau Datblygu Cynaliadwy y Cenhedloedd Unedig
Yn 2015, cyhoeddodd UNESCO ddogfen bolisi i ystyried datblygu cynaliadwy yn rhan o brosesau Confensiwn Treftadaeth y Byd. Mewn geiriau eraill, am y tro cyntaf, gwelir bod modd i dreftadaeth a chreadigrwydd alluogi datblygu cynaliadwy ar draws y Nodau Datblygu Cynaliadwy. Er mwyn datblygu a phrofi dulliau newydd, bydd y project hwn yn cymharu a chyferbynnu dau broject cyfredol sy鈥檔 ailddefnyddio safleoedd treftadaeth gyda phwyslais ar gynnwys y gymuned. Bydd ymchwil gweithredol yn canolbwyntio ar gysyniadau am dreftadaeth gynaliadwy ac arferion yn y maes. Bydd cyfraniad ehangach at arloesi cymdeithasol a damcaniaeth ddatblygol yn y maes hwn.
Technolegau clyfar a dadansoddeg data ar gyfer datblygiad cynaliadwy lleoedd i fyw ac ymweld 芒 nhw (amlinelliad gwreiddiol yw hwn ac nid yw wedi'i ddiwygio ers hynny)
Mae'r defnydd cynyddol o dechnolegau clyfar a Rhyngrwyd Pethau yn cynnig digonedd o ddata sylweddol i'r sector twristiaeth ei ddefnyddio i gael cipolwg newydd fel y gellir meithrin datblygiad cynaliadwy lleoedd i fyw ac ymweld 芒 nhw. Bydd y project hwn yn archwilio sut y gellir defnyddio data o dechnolegau clyfar i gefnogi datblygiad datrysiadau arloesol i ddyrannu adnoddau yn fwy effeithlon, gwella profiadau ymwelwyr a hyrwyddo twf economaidd cynaliadwy. Defnyddir data o鈥檙 byd go iawn a thechnegau dadansoddi data modern i ddadansoddi a rhagfynegi arferion defnyddwyr i bennu sut mae gwahanol negeseuon a chyfryngau yn dylanwadu ar brofiadau ymwelwyr ac arferion cynaliadwy.
Twristiaeth mewn cyrchfannau bregus: canfyddiadau twristiaid a鈥檙 cymunedau sy鈥檔 eu cynnal
Mae'r project yn archwilio datblygiad twristiaeth mewn cyrchfannau bregus a lles cyffredinol y cymunedau sy鈥檔 eu cynnal. Mae "cyrchfannau bregus" yn cyfeirio at leoedd sy'n agored i effeithiau negyddol twristiaeth, gan fynd y tu hwnt i ddiraddio amgylcheddol i ganolbwyntio ar hunaniaeth ddiwylliannol, dirywiad ffordd o fyw (tagfeydd, straen ar wasanaethau, prinder tai lleol, chwyddiant prisiau), a dibyniaeth economaidd. Caiff rhai cyrchfannau bregus eu hamddiffyn trwy ymrestriadau gyda Pharciau Cenedlaethol/Naturiol neu UNESCO. Nid oes gan rai eraill, bregus, statws cydnabyddedig. Rhoddir yr astudiaeth ar waith yng ngogledd Cymru, gan archwilio cyrchfannau bregus sydd wedi'u diogelu a heb eu diogelu, gan amlygu manteision a heriau wrth gymharu statws sicr. Mae'r gymhariaeth hon yn nodi canlyniadau a heriau cadarnhaol sy'n gysylltiedig 芒 chydnabod ardaloedd gwarchodedig yn ffurfiol.
Newid hinsawdd a brandio cyrchfannau: strategaeth barhaus sy鈥檔 esblygu ac yn canolbwyntio ar le (amlinelliad gwreiddiol yw hwn ac nid yw wedi鈥檌 ddiwygio ers hynny)
Nod y project yw edrych ar sut mae cyrchfannau twristiaeth yn addasu i newid hinsawdd. Er bod addasu unigol yn dibynnu ar wybodaeth a gwerthoedd personol oherwydd y rhanddeiliaid dan sylw, er mwyn i 'gyrchfan' addasu, mae'n wynebu proses amlochrog.听 O'r herwydd, mae'n bwysig archwilio a adlewyrchir y gydberthynas hon yn null awdurdodau cyhoeddus a/neu sefydliadau rheoli cyrchfannau o frandio cyrchfannau.
Felly, bydd y project hwn yn cymharu agweddau a chanfyddiadau tuag at newid hinsawdd ac addasiad (posibl) y cyrchfan(nau) er mwyn gweld beth yw canfyddiadau rhanddeiliaid o fregusrwydd a/neu wydnwch agweddau ffisegol a chymdeithasol-ddiwylliannol y lle i newid hinsawdd a鈥檙 goblygiadau o ran brandio a delwedd y gyrchfan.
Mae Ysgol Busnes 亚洲色吧 yn ysgol flaenllaw ac yn canolbwyntio ar addysgu ac ymchwil. Byddwch yn cael eich addysgu gan academwyr sy'n arbenigwyr yn eu maes ac y mae eu hymchwil yn cyfrannu at ddatblygiad polisi, datblygiad eu disgyblaethau, a hyd yn oed gwell dealltwriaeth o fusnes yn gyffredinol.
Goruchwyliaeth a chefnogaeth arall
Mae angen goruchwyliaeth gan o leiaf un aelod o staff academaidd y Brifysgol ar bob myfyriwr PhD/MPhil, ac os ydych yn ystyried astudio am PhD/MPhil, bydd gennych syniad da eisoes o'r maes neu'r thema benodol yr hoffech ei ymchwilio. Er mwyn sicrhau bod gennym ddigon o arbenigedd yn eich dewis bwnc i gynnig goruchwyliaeth, dylech yn gyntaf edrych ar ein tudalennau staff. Bydd hynny鈥檔 rhoi dadansoddiad i chi o faes ffocws academaidd pob aelod o鈥檙 staff.
Caiff Prif Oruchwyliwr a enwir ei neilltuo i bob ymchwilydd 么l-radd (a elwir hefyd yn Oruchwyliwr Cyntaf), ac un neu fwy o Gyd-Oruchwylwyr (y cyfeirir atynt fel Ail Oruchwyliwr a Thrydydd Goruchwyliwr) a all rannu鈥檙 cyfrifoldebau goruchwylio fel y cytunir 芒'r prif oruchwyliwr.
Rhaid i Oruchwylwyr fod yn:
- Aelod llawn amser o'r staff academaidd.
- Aelod rhan amser o鈥檙 staff academaidd sy鈥檔 meddu ar brofiad academaidd, clinigol neu broffesiynol.
- Aelod o staff prifysgol neu sefydliad ymchwil arall, sy鈥檔 meddu ar y cymwysterau priodol.
Mae ymchwilwyr 么l-radd llwyddiannus yn hunanddibynnol, yn drefnus ac yn gallu galw ar amrywiaeth o adnoddau mewnol. Mae'n hanfodol bod pob ymchwilydd 么l-radd yn datblygu perthynas dda 芒'u Goruchwylwyr. Mae'r berthynas honno鈥檔 cynnwys arweiniad cychwynnol a chyngor yn ddiweddarach, ond gall hefyd alluogi ymchwilydd 么l-radd i gael mynediad at adnoddau ymchwil prin trwy gyllid a ddarperir i staff gan raglenni grant ymchwil cenedlaethol a rhyngwladol. Lle bo'n briodol, bydd y Goruchwylwyr yn cyflwyno eu hymchwilwyr 么l-radd i staff technegol, gweinyddol ac archifol sy'n gallu rhoi help iddynt gyda'u project; a dylid gwerthfawrogi, yn amgylchedd ymchwil y brifysgol, y bydd perthynas waith dda gyda'r Goruchwylwyr yn si诺r o gyfoethogi ansawdd y cymorth hwnnw.
Mae cymorth arall, yn ychwanegol at yr hyn a gewch gan eich Goruchwylwyr, ar gael trwy gydol eich astudiaethau yn Ysgol Busnes 亚洲色吧. Mae hynny鈥檔 cynnwys hyfforddiant a gweithdai a drefnir gan听 Ysgol Ddoethurol y Brifysgol, Canolfan Sgiliau Astudio, Gwasanaethau Llyfrgell, digwyddiadau hyfforddi penodol a gynhelir gan Ysgol Busnes 亚洲色吧 a sesiynau cyflwyno ymchwil rheolaidd a gynhelir mewn cyfres o seminarau ymchwil ac ymchwil 么l-radd Ysgol Busnes 亚洲色吧. 听
听
Ymgeisio
Cewch wneud i holl raglenni ymchwil 么l-radd Ysgol Busnes 亚洲色吧.
Ymgeisiwch ar-lein trwy鈥檙 drosoch chi eich hun gyda chymorth y Canllawiau听 sydd gennym yngl欧n ag ymgeisio ar-lein i fyfyrwyr Cartref/UE.
Gallant wneud cais trwy鈥檙. Gweler y Canllawiau am help i lenwi'r ffurflen.
Cewch ragor o wybodaeth yngl欧n 芒 gwneud cais fel myfyriwr rhyngwladol yma.
Gall myfyrwyr rhyngwladol geisio cymorth pellach drwy gysylltu 芒鈥檙 Swyddfa Addysg Ryngwladol:
- E-bost: international@bangor.ac.uk
- Cyfeiriad: Canolfan Addysg Ryngwladol, Prifysgol 亚洲色吧, Gwynedd, Cymru Y Deyrnas Unedig, LL57 2DG
- Rhif ff么n: +44 (0) 1248 382028
Fel rhan o'r broses ymgeisio am radd ymchwil, gofynnir ichi gyflwyno cynnig ymchwil. Dylai gyd-daro 芒 diddordebau ymchwil ac arbenigedd yr aelodau o鈥檙 staff, gan mai dyna鈥檙 meysydd y gallwn gynnig goruchwyliaeth ymchwil ynddynt. Felly, rydym yn argymell i鈥檙 ymgeiswyr droi at dudalennau staff yr Ysgol Busnes a thudalennau鈥檙 Ganolfan Ymchwil cyn paratoi cynnig ymchwil.
Dylai'r cynnig ymchwil fod rhwng 1,500 a 2,500 o eiriau, a dylai gynnwys y canlynol:
- Y Teitl Dros Dro
- Cwestiwn neu ragdybiaeth ganolog i'w ymchwilio
- Prif amcanion yr ymchwil
- Adolygiad llenyddiaeth
- Disgrifiad o'r pwnc
- Methodoleg - sut y byddwch yn ateb y cwestiwn ymchwil
- Llyfryddiaeth
- Amserlen
Cliciwch yma am arweiniad ar ysgrifennu cynnig ymchwil da.
听
Yn ychwanegol at y cynnig ymchwil, dylech hefyd gyflwyno'r canlynol fel rhan o'r pecyn cais:
- Tystysgrif gradd Baglor a thrawsgrifiad(au)
- Geirda academaidd/llythyr o gefnogaeth
- Pasbort
- CV manwl (yn tynnu sylw at eich Profiad gwaith perthnasol, Profiad o broject ymchwil, Cyhoeddiadau, a Chyflawniadau academaidd)
- Unwaith y byddwch wedi dod o hyd i aelod o鈥檙 staff y mae eu diddordebau ymchwil yn cyd-daro鈥檔 fras 芒'ch diddordebau ymchwil chi, dylech nodi eu henwau fel rhan o'ch cais fel y gallant ystyried eich cais.
- Tystysgrif brawf iaith Saesneg (os gwnaed)
- Cadarnhad o gyllid/nawdd (os yn berthnasol)
- Tystysgrif gradd meistr a thrawsgrifiad(au) (sy'n ofynnol ar gyfer ceisiadau PhD)
- Llythyr cadarnhau cyllid allanol (os yn berthnasol)
听
Gallwch wneud cais ar unrhyw adeg o'r flwyddyn. Mae'n bosibl dechrau gradd PhD ar unrhyw adeg o'r flwyddyn yn y rhan fwyaf o鈥檙 Ysgolion academaidd, yn amodol ar gytundeb 芒'r goruchwyliwr. Rydym yn cynghori eich bod yn cyflwyno'ch cais mewn da bryd i: drefnu cyllid; dilyn cwrs Saesneg (os oes angen); cael y dogfennau fel trawsgrifiadau a geirdaon sydd eu hangen i fodloni amodau鈥檙 cynnig; gwneud cais am fisa (os oes angen); a gwneud trefniadau llety (os oes angen).
Cyfleoedd Ysgoloriaeth
Fel pob un o鈥檔 cyrsiau, cewch wneud cais i鈥檆h ariannu eich hun trwy PhD/MPhil yn Ysgol Busnes 亚洲色吧, neu mae鈥檔 bosib bod cyllid allanol gennych eisoes (e.e., gan eich cyflogwr neu lywodraeth), ac rydym yn croesawu鈥檔 wresog unrhyw fynegiant o ddiddordeb i wneud hynny. 听
Mae cyfleoedd ysgoloriaeth efrydiaethau PhD a ariennir yn codi'n aml trwy gydol y flwyddyn. C芒nt eu hysbysebu fel cyfleoedd penodol y mae'n rhaid gwneud cais ffurfiol amdanynt. Caiff cyfleoedd efrydiaeth PhD presennol Ysgol Busnes 亚洲色吧 eu rhestru isod a'u diweddaru'n rheolaidd. Os oes gennych gwestiynau, cysylltwch 芒 Chyfarwyddwr Ymchwil 脭l-Radd Ysgol Busnes 亚洲色吧, Charlotte Rimmer.
听
Mae鈥檔 bleser gan Brifysgol 亚洲色吧 gynnig ysgoloriaethau ymchwil Ysgol Graddedigion Gwyddorau Cymdeithasol Cymru (WGSSS) (Partneriaeth Hyfforddiant Doethurol yr ESRC) sydd wedi鈥檜 hariannu鈥檔 ym mis Hydref 2025 ym meysydd pwnc y llwybrau canlynol.
- Dwyieithrwydd/Ieithyddiaeth
- Seicoleg
- Gwyddorau Chwaraeon ac Ymarfer
- Troseddeg a鈥檙 Gyfraith
- Astudiaethau Cymdeithaseg/Gwyddoniaeth a Thechnoleg
- Gwyddor Data, Iechyd a Lles
- Addysg
- Gwaith Cymdeithasol, Gofal Cymdeithasol a Pholisi Cymdeithasol
- Economeg
- Rheolaeth a Busnes
- Cynllunio amgylcheddol
Meini Prawf Mynediad:鈥
I dderbyn cyllid un o ysgoloriaethau ymchwil yr WGSSS, mae鈥檔 rhaid bod gennych chi gymwysterau neu brofiad sy'n cyfateb i radd anrhydedd yn y DU ar lefel dosbarth cyntaf neu ail ddosbarth uwch, neu radd meistr. Mae croeso i fyfyrwyr sydd 芒 chefndir academaidd anhraddodiadol hefyd wneud cais.鈥
Hyd yr astudiaeth:鈥
Mae hyd yr astudiaeth yn amrywio o 3.5 i 4.5 blynedd amser llawn (neu鈥檙 hyn sy鈥檔 gyfwerth iddi yn rhan-amser).鈥
Mae hyd yr astudiaeth yn dibynnu ar brofiad ymchwilio blaenorol ac anghenion hyfforddi'r myfyriwr a asesir drwy gwblhau Dadansoddiad o鈥檙 Anghenion Datblygu.鈥疪ydyn ni鈥檔 croesawu ceisiadau am astudio鈥檔 amser llawn ac yn rhan-amser.鈥
Lleoliad ymarfer wrth ymchwilio:鈥
Bydd gofyn i bob myfyriwr a ariennir gan yr WGSSS gwblhau lleoliad Ymarfer wrth Ymchwilio a ariennir am gyfanswm o 3 mis (neu鈥檙 hyn sy鈥檔 gyfwerth iddo yn rhan-amser). Bydd pob myfyriwr yn cael y cyfle i gwblhau lleoliad mewn sefydliad academaidd, polisi, busnes neu gymdeithas sifil.鈥
Gofynion rhyngwladol ynghylch bod yn gymwys:鈥
Mae ysgoloriaethau ymchwil yr WGSSS ar gael i fyfyrwyr y DU a myfyrwyr rhyngwladol. Caiff hyd at 30% o'n carfan gynnwys myfyrwyr rhyngwladol. Ni chodir y gwahaniaeth rhwng ffi y DU a'r ffi ryngwladol ar fyfyrwyr rhyngwladol. Dylai ymgeiswyr fodloni gofynion o ran bod yn gymwys.鈥
Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant: 鈥
Mae鈥檙 WGSSS wedi ymrwymo i gefnogi a hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth a chreu diwylliant sy鈥檔 cynnwys pawb. Rydyn ni鈥檔 croesawu ceisiadau gan bob aelod o'r gymuned fyd-eang waeth beth fo'u hoedran, anabledd, rhyw, hunaniaeth rhywedd, ailbennu rhywedd, statws priodasol neu bartneriaeth sifil, beichiogrwydd neu famolaeth, hil, crefydd neu gred a chyfeiriadedd rhywiol.鈥
Asesu:鈥
Bydd yr ymgeiswyr sy鈥檔 cyrraedd y rhestr fer yn cael eu gwahodd am gyfweliad. Yn rhan o'r broses gyfweld, bydd gofyn i ymgeiswy roi cyflwyniad byr ac ateb cyfres o gwestiynau gan y panel鈥
Sut i wneud cais:鈥
Dylai ceisiadau ddod i law erbyn 11/12/24 fan bellaf gan gynnwys yr holl ddogfennau sydd eu hangen. Oherwydd nifer y ceisiadau a ddaw i law, ni fydd ceisiadau anghyflawn yn cael eu hystyried.鈥
Dylid cyflwyno pob cais gan ddefnyddio鈥檙 dolenni canlynol (defnyddiwch y cyfeiriad e-bost cywir ar gyfer y llwybr a gyflwynir i:
- Dwyieithrwydd/Ieithyddiaeth 鈥 bilingwgsss@bangor.ac.uk
- Seicoleg 鈥 psychwgsss@bangor.ac.uk
- Gwyddorau Chwaraeon ac Ymarfer 鈥 spexwgsss@bangor.ac.uk
- Troseddeg a'r Gyfraith 鈥 crimwgsss@bangor.ac.uk
- Astudiaethau Cymdeithaseg/Gwyddoniaeth a Thechnoleg - socwgsss@bangor.ac.uk
- Gwyddor Data, Iechyd a Lles 鈥 dshwbwgsss@bangor.ac.uk
- Addysg eduwgsss@bangor.ac.uk
- Gwaith Cymdeithasol, Gofal Cymdeithasol a Pholisi Cymdeithasol 鈥 socialworkwgsss@bangor.ac.uk
- Economeg - econwgsss@bangor.ac.uk
- Rheolaeth a Busnes businesswgsss@bangor.ac.uk
- Cynllunio Amgylcheddol envirowgsss@bangor.ac.uk
Cofiwch gynnwys y dogfennau canlynol yn eich cais:鈥
- CV academaidd (dim mwy na dwy dudalen).听
- Dau eirda academaidd neu broffesiynol (mae鈥檔 rhaid i ymgeiswyr gysylltu 芒 chanolwyr a chynnwys y geirdaon yn eu cais. Mae鈥檔 rhaid i'r geirdaon fanylu ar gryfderau ymchwil yr ymgeisydd.听
- Tystysgrifau a thrawsgrifiadau gradd (gan gynnwys cyfieithiadau os yw'n berthnasol)鈥
- Os yw'n berthnasol, prawf o Gymhwysedd yn y Saesneg (gweler gofynion mynediad y sefydliad)鈥
Cyllid:鈥
Mae ysgoloriaethau ymchwil a ariennir gan yr ESRC yn talu ffioedd dysgu, cyflog byw di-dreth blynyddol yn unol ag (拢19,237 ar hyn o bryd) ac mae'n cynnwys mynediad at Grant Cymorth Hyfforddiant Ymchwil.鈥
Os oes gennych chi anabledd, efallai y bydd gennych chi hawl i ar ben eich ysgoloriaeth ymchwil.鈥
Mae'r Brifysgol hefyd yn cynnig ysgoloriaethau, efrydiaethau a bwrsariaethau鈥檔 rheolaidd.听
Newyddion Ymchwil a Digwyddiadau
Efallai y bydd gennych ddiddordeb yn y meysydd pwnc yma hefyd.
Efallai y bydd gennych ddiddordeb yn y meysydd pwnc yma hefyd.