Prifysgol ÑÇÖÞÉ«°É yn dal ei gafael yn y wobr dosbarth cyntaf am y chweched flwyddyn yn olynol
Mae Prifysgol ÑÇÖÞÉ«°É wedi derbyn cydnabyddiaeth unwaith yn rhagor am ei hymrwymiad eithriadol i gynaliadwyedd, gan ddal ei gafael ar wobr dosbarth cyntaf cynghrair prifysgolion People and Planet 2024/25. Dyma'r chweched flwyddyn yn olynol i'r brifysgol lwyddo i wneud hynny.
Gosodwyd Prifysgol ÑÇÖÞÉ«°É yn safle 19 o blith 149 o brifysgolion, fymryn yn is na’n safle’r llynedd yn gydradd 18fed. Mae Prifysgol ÑÇÖÞÉ«°É hefyd wedi dringo i'r 2il safle yng Nghymru, i fyny o'r 3ydd safle y llynedd.
Rhai llwyddiannau nodedig oedd bod yn gydradd 9fed yn genedlaethol am Reoli Carbon ac er nad oedd Ymgysylltiad Staff a Myfyrwyr wedi ei gynnwys fel is-gategori eleni, mae Prifysgol ÑÇÖÞÉ«°É yn parhau i arwain yn y maes hwnnw hefyd.
Dywedodd yr Athro Oliver Turnbull, Dirprwy i’r Is-ganghellor dros Ymgysylltu Byd-eang, "Cynghrair Prifysgolion People and Planet yw'r unig gynghrair annibynnol sy’n asesu perfformiad amgylcheddol a moesegol prifysgolion yn y Deyrnas Unedig. Mae llwyddiant parhaus Prifysgol ÑÇÖÞÉ«°É yn y gynghrair hon yn tystio i ymdrechion cydweithredol staff a myfyrwyr sy’n ymrwymedig i sicrhau fod cynaliadwyedd yn rhan greiddiol o hunaniaeth y brifysgol."
Ychwanegodd yr Athro Christian Dunn, Dirprwy Is-ganghellor Cynorthwyol dros Gynaliadwyedd, "Mae'r canlyniadau hyn yn dangos ein bod yn ymroi’n llawn i gynaliadwyedd a'n bod wedi ymrwymo i gymryd camau pwysig yn wyneb heriau amgylcheddol. Mae dal ein gafael ar y Wobr Dosbarth Cyntaf am y chweched flwyddyn yn olynol yn gryn lwyddiant ac yn glod i bawb a fu’n rhan o’r gwaith."
I gael rhagor o wybodaeth am fentrau cynaliadwyedd y brifysgol, ewch i Dudalen Cynaliadwyedd Prifysgol Bangor.