Trwy gymryd rhan yn y Cynllun Talebau Talent i Raddedigion, a ariennir gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig drwy Gronfa Ffyniant Gyffredin y Deyrnas Unedig cafodd gipolwg ar y cyfleoedd sydd ar gael yn lleol wrth iddi wneud lleoliad estynedig gyda GISDA, yr elusen i bobl ifanc.
Fel rhan o'i lleoliad, mae Gwen wedi bod yn gweithio ochr yn ochr â thîm cefnogi tai GISDA er mwyn cefnogi rhieni ifanc.
Dim ond canmoliaeth oedd gan Sharon Thomas, sy’n rhedeg y project, i’w ddweud amdani:
“Mae Gwen wedi gallu ymgysylltu â phobl ifanc nad oedden ni wedi gallu eu cyrraedd ers tro byd. Dwi’n meddwl bod hynny achos ei bod hi tua’r un oed â nhw, a jyst achos ei bod hi’n berson hyfryd, ac mi wnaethon nhw jest clicio efo hi. Mae hi wedi gallu helpu tua phump o bobl ifanc i oresgyn y rhwystrau roedden nhw’n eu hwynebu trwy fod yn weithiwr allweddol iddyn nhw, a hynny mewn cyfnod mor fyr, drwy roi amser a sylw haeddiannol iddyn nhw. Mae hi wedi creu argraff ar bawb.”
Astudiodd Gwen BA Astudiaethau Plentyndod ac Ieuenctid trwy gyfrwng y Gymraeg ym Mhrifysgol ɫ, ac eglurodd mai rhan o’r gyfrinach oedd ennill ymddiriedaeth a meithrin perthynas dros amser:
“Mewn ffordd, dwi’n mynd o’i chwmpas hi yn union fel taswn i’n ffrind da. Dwi wedi gwneud pethau fel helpu merch ifanc i roi trefn ar ei CV, a thrwy wneud hynny mi gafodd hi swydd. Fe wnes i helpu rhywun i wneud cais am basbort, ymchwilio i grwpiau mam a’i phlentyn, yna mynd efo nhw i'r grwpiau hynny fel eu bod nhw’n llai swil am fynd ar eu pen eu hunain. Dwi hefyd wedi eu helpu i gael mynediad at fanciau bwyd a cael trefn ar y tŷ, fel eu bod nhw’n teimlo bod ganddyn nhw fwy o reolaeth dros bethau.”
Yn ôl Prif Weithredwr GISDA, Siân Tomos, fel elusen, mae adnoddau’n brin, ac mae’r Cynllun Talebau Talent i Raddedigion wedi helpu i lenwi bwlch o ran y gefnogaeth y gallant ei chynnig.
“Dwi'n meddwl ei fod o’n gynllun gwych oherwydd mae'n rhoi cyfle i raddedigion newydd ac elusennau gydweithio er lles pawb. Fe gawson ni grant gan y Loteri i redeg cynllun fel hwn yn y gorffennol, ond daeth y pot arian hwnnw i ben ac mae hyn wedi ein galluogi i fedru cynnig yr adnodd hwnnw i roi’r gefnogaeth sydd wir ei hangen ar bobl ifanc. Pan welson ni CV Gwen, fe wnaethon ni roi dau a dau at ei gilydd a dwi mor falch ein bod ni wedi gwneud, achos mi weithiodd pethau’n berffaith.”
Mae'r elusen hefyd wedi derbyn hyfforddiant DPP gwerthfawr gan academyddion o’r Ysgol Addysg a’r Ysgol Gwyddorau Iechyd, gyda chyllid o'r Cynllun Talebau Sgiliau ac Arloesedd. Mae 55 o aelodau staff Gisda wedi elwa o gyrsiau hyfforddi megis y “Cwrs Diogelu i Weithwyr Cymdeithasol” a’r “Cwrs Datblygu Plant a Phobl Ifanc.”
Nid yw GISDA yn llym o ran eu meini prawf wrth gefnogi pobl ifanc, ond yn gyffredinol maent yn gweithio gyda phobl 16-25 oed. Bydd rhai yn dod atynt drwy'r adran dai neu ymwelwyr iechyd neu’r gwasanaethau cymdeithasol, neu weithiau'n uniongyrchol trwy ffrindiau, teulu neu’r ysgol.
Meddai Siân, “Dros y blynyddoedd, dan ni wedi addasu ein projectau’n seiliedig ar yr hyn y mae pobl ifanc yn ei ddweud maen nhw ei angen gynnon ni. Mae ‘na elfen gref o fod yn greadigol a rhoi cyfle i bobl ifanc benderfynu drostyn nhw eu hunain heb ormod o bwysau. Mae gynnon ni lawer i’w gynnig i bobl ifanc, ond dan ni bob amser yn chwilio am ffyrdd newydd o ariannu projectau sy’n cael effaith.”
Felly beth mae Gwen wedi ei ddysgu o'r profiad?
“Dwi wedi dysgu gymaint, ond yn bennaf dwi wedi dysgu mai creu perthnasoedd sy’n bwysig ac nid rhoi 'stwff' i bobl. Mae arnyn nhw eisiau rhywun i siarad â nhw ac mae'n dda cael rhywun yno i wrando a bod yn ffrind, a gweithredu fel y cyswllt rhwng y person ifanc a’r gwasanaethau cefnogi, fel gwasanaethau iechyd neu gefnogaeth iechyd meddwl yn arbennig. Y peth gorau oedd y bobl - y bobl dach chi’n eu cyfarfod - mi wnewch chi ddysgu rhywbeth newydd bob dydd a does dim un diwrnod yr un peth. Dwi’n gwybod bod be fedrwn ni ei wneud efo’n gilydd yn helpu lot ar deuluoedd bach, hyd yn oed os mai dim ond joban pum munud ydy hi.”