Ym Mhrifysgol ɫ defnyddiwyd arbenigedd yn y prosesau seicolegol sy’n sail i’r lefelau uchaf o berfformiad dynol i ddatblygu teclyn seicolegol newydd i asesu ‘parodrwydd i berfformio’n dda’ ym mysg perfformwyr elît ym myd chwaraeon a busnes.
Bydd y hon yn para dwy flynedd ac yn adeiladu ar hanes hir o gydweithio rhwng y cwmni gwasanaethau seicolegol Changing Minds a . Bydd gwaith y bartneriaeth yn adeiladu ar fframwaith asesu’r cwmni, sef fframwaith ar sail tystiolaeth o’r enw ‘Performing Well’. Mae hwn yn fframwaith unigryw, sydd wedi lywio gan seicoleg, ac sy’n ystyried sut mae nodweddion seicolegol unigolion yn rhyngweithio â’r amgylchedd y disgwylir iddynt berfformio ynddo, a natur y tasgau y byddant yn eu gwneud.
Mae yn gweithio gyda thimau, sefydliadau ac unigolion ar lefel elît, i'w helpu i gyrraedd eu potensial mewn chwaraeon neu berfformio hyd eithaf eu gallu mewn amgylcheddau corfforaethol pwysedd uchel. Mae eu gwasanaethau wedi cefnogi llwyddiant ar y lefel elît ym meysydd pêl-droed, criced, rygbi, tennis a chwaraeon Olympaidd.
“Mae mynd ar drywydd rhagoriaeth a’r dyhead i lwyddo weithiau’n gwthio pobl i derfyn eithaf eu gallu, gan arwain at bwysau a gofynion sy’n golygu nad ydym bob amser yn perfformio ar ein gorau,” eglura Dr Andrew Rogers, cyd-sylfaenydd a chyd-gyfarwyddwr Changing Minds, cwmni sydd wedi'i leoli yn Warrington, ond sy’n gweithio ledled y Deyrnas Unedig ac yn rhyngwladol.
“Trwy’r profiad sylweddol sydd gennym o gymhwyso gwybodaeth seicolegol arbenigol i amgylcheddau chwaraeon ac amgylcheddau corfforaethol, rydym yn credu y gallwn gynyddu ymwybyddiaeth a dylanwadu ar ymddygiad er mwyn hyrwyddo llesiant a chynyddu a chynnal perfformiad seicolegol uchel, gan gyfyngu ar y risg o fethu â pherfformio. Dyna mae ‘Perfformio’n Dda’ yn ei olygu i ni."
Cefnogi asesiadau effeithiol o barodrwydd unigolion i berfformio'n dda
Trwy’r Bartneriaeth Trosglwyddo Gwybodaeth bydd Changing Minds yn defnyddio’r fframwaith ‘Performing Well’ i ddatblygu teclyn asesu newydd a fydd wedi ei seilio ar dair agwedd, sef person, tasg ac amgylchedd, a bydd hynny’n golygu y bydd modd cynnal asesiadau mwy gwrthrychol, credadwy ac effeithiol o barodrwydd seicolegol unigolyn i berfformio’n dda. Bydd hyn yn galluogi Changing Minds i fodloni’r galw cynyddol yn y maes hwn o’r byd chwaraeon a busnes yn y Deyrnas Unedig a thramor.
Mae gwybod pa chwaraewyr dawnus i fuddsoddi ynddynt neu wybod pwy sy’n barod i gael eu dewis i gystadlu yn benderfyniadau anodd. Mae unrhyw beth a all leihau ansicrwydd wrth wneud y penderfyniadau hynny’n ddatblygiad cadarnhaol. Mae teclyn clyfar fel hwn yn gysyniad hynod ddiddorol a bydd yn ychwanegu lefel o drylwyredd i’r penderfyniadau hynny, a bydd hefyd yn annog systemau perfformiad uchel i ystyried pa fath o gymorth seicolegol sydd ei angen i helpu unigolyn i ffynnu.
Mae Dr Ross Roberts yn Uwch Ddarlithydd mewn Seicoleg Chwaraeon ac Ymarfer ac yn seicolegydd siartredig. Ef sy'n arwain ar y Bartneriaeth Trosglwyddo Gwybodaeth ar ran Prifysgol ɫ, ac ychwanegodd ef,
“Yr hyn sy’n gyffrous am y prosiect hwn yw’r cyfle i drosglwyddo ein gwybodaeth academaidd fanwl am seicoleg chwaraeon a pherfformiad i brosiect sy’n fasnachol hyfyw gyda chwmni’r ydym ni’n ei adnabod yn dda. Mae’r effaith y gallwn ei chael gyda’n gilydd yn enfawr o ran y gefnogaeth y gellir ei chynnig i unigolion a sefydliadau ar lefel perfformiad uchel.
“Holl ddiben y prosiect hwn yw cyfuno holl wybodaeth y tîm i greu rhywbeth, sy’n seiliedig ar dystiolaeth empirig a chywirdeb gwyddonol cadarn, a fydd yn rhoi profiad llyfn i’r defnyddiwr terfynol.”