亚洲色吧

Fy ngwlad:
 llun llydan o aber cul yn rhedeg drwy morfa heli

Byddai credydau carbon yn galluogi adfer morfeydd heli'r Deyrnas Unedig meddai arbenigwyr

Astudiaeth yn cefnogi cyflwyno Cod Morfeydd Heli鈥檙 Deyrnas Unedig a chynllun masnachu carbon

Mae hyn yn newyddion gwych iawn i forfeydd heli arfordirol a鈥檙 manteision niferus yr ydym ni, fel pobl, yn eu cael o鈥檙 ecosystem hon. Rydym wedi gwybod ers nifer o flynyddoedd y gall 'gwlyptiroedd carbon glas鈥, megis morfeydd heli, ddal mwy o garbon fesul uned arwynebedd na choedwigoedd glaw trofannol. Fodd bynnag, rydym wedi bod yn araf yn defnyddio'r ffaith hon i hybu cyfradd adfer a diogelu morfeydd heli. Gyda Chod Morfeydd Heli newydd y Deyrnas Unedig, gall projectau dalu am rai o'u costau adfer trwy fasnachu credydau carbon ar y farchnad wirfoddol, i'r un graddau 芒'r swm o CO2 sy'n cael ei ddal gan eu cors. Yn 2012, helpodd yr Ysgol Gwyddorau Eigion ym Mangor i sefydlu project masnachu 'carbon glas' cyntaf y byd gyda choedwigoedd mangrof yn Kenya. Mae鈥檔 hen bryd inni gael rhywbeth cyfatebol yn y Deyrnas Unedig ac mae wedi bod yn bleser bod yn rhan o broject arloesol y Cod Morfeydd Heli.
Dr Martin Skov,  o'r Ysgol Gwyddorau Eigion, ac a gyfrannodd at yr ymchwil

Dywedodd Annette Burden, gwyddonydd gwlyptir UKCEH a arweiniodd yr astudiaeth, a oedd hefyd yn cynnwys yr Ymddiriedolaeth Adar Gwyllt a Gwlyptiroedd, RSPB, Prifysgol St Andrews, SRUC, Pwyllgor Cenedlaethol IUCN y Deyrnas Unedig, Finance Earth a Jacobs,

鈥淕all morfeydd heli chwarae rhan bwysig wrth fynd i鈥檙 afael 芒鈥檙 argyfyngau hinsawdd a bioamrywiaeth. Byddai adfer safleoedd ledled y wlad yn cefnogi cynnydd tuag at ein targedau sero net ac yn darparu cynefin hanfodol ar gyfer bywyd gwyllt, gan gynnwys adar mudol sy'n gaeafu a rhywogaethau pysgod sy'n fasnachol bwysig fel draenogod y m么r.

鈥淏yddai cyflwyno Cod Morfeydd Heli yn paratoi鈥檙 ffordd ar gyfer buddsoddiad preifat i gefnogi projectau sydd 芒 rhywfaint o gyllid cyhoeddus ond na fyddai鈥檔 digwydd fel arall.鈥

Mae ffactorau amrywiol megis cyflwr y tir, cymhlethdod y cynllun ac iawndal i dirfeddianwyr yn golygu na ellir rhagweld cost adfer, hyd yn oed ar 么l i鈥檙 gwaith adfer ddechrau, a dyna pam yr ystyrir bod cyllid cyhoeddus yn hanfodol i dalu rhai o鈥檙 costau.

Edrychodd y t卯m ymchwil ar faint o gost y cynllun i adfer corsydd Old Hall Marshes yn Essex y gellid ei thalu gan fuddsoddiad preifat ac adolygodd a allai cyllid carbon fod wedi codi digon o arian ar gyfer aildrefnu rheoledig Steart Marshes yng Ngwlad yr Haf, a gynhaliwyd yn 2014.

Canfu鈥檙 dadansoddiad, gyda grantiau, y byddai cynllun Steart Marshes wedi gallu cynhyrchu enillion cyfradd y farchnad ar gyfer buddsoddwyr ecwiti, ac felly denu buddsoddiad digonol i fod yn ariannol hyfyw. Mae t卯m y project, gyda chefnogaeth cyllid pellach gan Asiantaeth yr Amgylchedd/Defra, bellach yn datblygu Cod Morfeydd Heli peilot i鈥檞 brofi ymhellach, gyda鈥檙 gobaith y gellir cyflwyno system credydau carbon morfeydd heli yn 2025.

Mae'r astudiaeth ddichonoldeb a mwy o wybodaeth am y gwaith parhaus ar y Cod Morfeydd Heli ar gael ar .听