ÑÇÖÞÉ«°É

Fy ngwlad:
Tri o bobl yn eistedd wrth ddesg yn edrych dros ddata ar sgrin

Ysgol Busnes ÑÇÖÞÉ«°É i ymgynghori â busnesau Cymraeg am ddefnyddio pŵer eu data er budd i'w busnes

Mae Ysgol Busnes ÑÇÖÞÉ«°É yn defnyddio ei harbenigedd mewn dadansoddeg data i helpu cwmnïau Cymreig i gael mewnwelediadau gwerthfawr a thyfu busnesau cynaliadwy.

Mae’r tîm yma yn Ysgol Busnes ÑÇÖÞÉ«°É wedi gweithio ar draws y byd yn y maes hwn, felly roeddem yn awyddus i ddod o hyd i ffordd o drosglwyddo’r profiad sydd gennym boed hynny yn academaidd neu yn y byd go iawn i mewn i broses ymchwil gydweithredol a fydd yn y pen draw yn gwella gweithrediadau busnesau Cymreig trwy eu helpu i ddefnyddio llawn potensial eu data ar gyfer datblygu cynaliadwy a mantais gystadleuol.
Yr Athro Adrian Gepp ,  Ysgol Busnes ÑÇÖÞÉ«°É

Gan weithio ochr yn ochr â Dr Laurence Jones a Dr Heather He, nod yr Athro Gepp yw ymgynghori â busnesau Cymru ar ddau fater allweddol:

  1. Eu defnydd o a'r heriau wrth ddadansoddi data
  2. Eu hystyriaethau a'u pryderon Amgylcheddol, Cymdeithasol a Llywodraethu (ESG).
Mae ystyriaethau Amgylcheddol, Cymdeithasol a Llywodraethu, neu ESG fel y’i gelwir yn eang, yn ganolog i fusnesau am sawl rheswm, yn enwedig twf a chynaliadwyedd yn y dyfodol. Gall deall yn well sut mae data ESG yn cael ei gasglu a’i dystiolaethu fod yn hollbwysig o ran cyllid cyhoeddus a buddsoddiad preifat.
Dr Heather He,  Ysgol Busnes ÑÇÖÞÉ«°É
Rydym am feithrin cysylltiadau â chymaint o arweinwyr busnes â phosibl ynglŷn â’r heriau a’r cyfleoedd y mae dadansoddi data’n cyflwyno iddynt, a rhoi cipolwg i fusnesau ar sut y gallant ddefnyddio dulliau newydd ac arloesol o harneisio eu data i yrru penderfyniadau strategol. Yn y pen draw, ein nod yw grymuso busnesau i ddefnyddio dadansoddeg data i ysgogi twf ac arloesedd yn economi Cymru.
Dr Laurence Jones,  ÑÇÖÞÉ«°É Business School

Cymerwch ran!

Yn dilyn y broses ymchwil, bydd papur gwyn ar ddefnyddio a datblygu dadansoddeg data yng Ngogledd Cymru yn cael ei rannu gyda'r busnesau sydd wedi cymryd rhan.

Os ydych chi'n fusnes yng Ngogledd Cymru ac eisiau cymryd rhan er budd eich busnes, mae'r tîm eisiau clywed gennych chi! Cysylltwch ag Adrian Gepp a.gepp@bangor.ac.uk am sgwrs anffurfiol.