Bydd Steve Backshall, y fforiwr a chyflwynydd teledu rhaglenni poblogaidd megis Deadly 60, Expedition with Steve Backshall, Undiscovered Worlds a Blue Planet Live yn mynd â’r cyhoedd ar daith gyfareddol i fyd gwenwyn mewn digwyddiad wedi ei drefnu gan Brifysgol ÑÇÖÞÉ«°É fel rhan o Å´yl Wyddoniaeth ÑÇÖÞÉ«°É, sy’n cael ei gynnal trwy fis Mawrth.
Bydd y tocynnau sydd yn RHAD AC AM DDIM ar gyfer y digwyddiad sydd yn cael ei gynnal nos Fercher, 20 Mawrth rhwng 5.30-6.30pm, ar gael o wefan Pontio neu dros y ffôn o ddydd Gwener, 23 Chwefror am 1pm. Mae’r digwyddiad yn addas ar gyfer pob oedran.
Gyda’i ddawn a’i angerdd nodweddiadol, bydd yr enillydd gwobr BAFTA sydd â gradd er anrhydedd o Brifysgol ÑÇÖÞÉ«°É ac sy’n uwch ddarlithydd anrhydeddus ym Mangor, yn ymchwilio i’r dirgelion y tu ôl i’r tocsinau grymus sy’n cael eu defnyddio gan rai o greaduriaid mwyaf diddorol y byd, o nadroedd gwenwynig a phryfed cop i’r organebau morol mwyaf peryglus.
Bydd Steve yn archwilio arwyddocâd esblygiadol gwenwyn, gan ddatgelu sut mae'r cymysgeddau cryf hyn wedi esblygu fel arfau dyfeisgar ar gyfer goroesi. Bydd yr awdur enwog yn defnyddio ei brofiadau ei hun i ddatrys y wyddoniaeth y tu ôl i gemeg gymhleth gwenwyn ac yn egluro beth sy’n gwneud y tocsinau hyn mor aruthrol o rymus, a’r rôl hanfodol y maent yn ei chwarae yn y byd naturiol.
Mae’n bleser o'r mwyaf croesawu Steve Backshall yn ôl i Brifysgol ÑÇÖÞÉ«°É a chynnig y cyfle prin i’w glywed yn siarad yma yng Ngogledd Cymru ar bwnc mor ddifyr - gwenwyn! Bydd llawer ohonom wedi gweld Steve ar y sgrin wyneb yn wyneb â chreaduriaid brawychus dros ben, felly dwi’n siŵr y bydd ganddo straeon anhygoel i’w hadrodd - dewch i Pontio ar gyfer y digwyddiad arbennig iawn yma.
Bydd tocynnau ar gael o wefan Pontio: neu trwy ffonio 01248 38 28 28 o 1pm dydd Gwener 23 Chwefror.
Mae’r digwyddiad yma yn rhan o Å´yl Wyddoniaeth ÑÇÖÞÉ«°É a phen-blwydd y brifysgol yn 140eg mlwydd oed. Ewch i /cy/gwyl-wyddoniaeth-bangor i weld rhaglen lawn yr Å´yl.