Mae Ysgol Feddygol Gogledd Cymru’n awyddus i rannu ei chynlluniau a chlywed barn y cyhoedd a gwahanol grwpiau diddordeb. Gwahoddir pawb sydd â diddordeb i Gyfarfod Agored ar ddydd Sadwrn 27 Ionawr 2024, yn Pontio, Ffordd Deiniol, ÑÇÖÞÉ«°É rhwng 12 a 3pm.
 Bydd y digwyddiad yn cynnwys pedwar cyflwyniad byr ar wahanol themâu gydag amser wedi'i neilltuo ar gyfer trafodaeth ac adborth ar ôl pob un.
 Mike Larvin, Dirprwy Is-ganghellor Meddygaeth ac Iechyd, a Deon Meddygaeth, sy’n arwain ar y gwaith o ddatblygu Ysgol Feddygol Gogledd Cymru.
 Meddai Mike Larvin,
“Mae agor Ysgol Feddygol Gogledd Cymru, sy’n ysgol feddygol annibynnol newydd, yn ddatblygiad cyffrous sy’n adeiladu ar y gwaith mae Prifysgol ÑÇÖÞÉ«°É wedi bod yn ei wneud gyda phartneriaid gofal iechyd ledled rhanbarth Gogledd Cymru er mwyn cefnogi ein cymunedau lleol yn well. Nod yr ysgol fydd mynd i’r afael â phroblemau staffio gofal iechyd yn y rhanbarth trwy roi cyfle i fyfyrwyr ymgymryd â’u hyfforddiant israddedig yn gyfan gwbl yng Ngogledd Cymru.
 “Rydym wedi treulio sawl blwyddyn yn gweithio’n agos gyda Meddygon Teulu lleol, Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, Prifysgol Caerdydd a Llywodraeth Cymru i gynllunio rhaglen yr Ysgol Feddygol. Ond er mwyn iddi fod yn llwyddiannus, mae angen mwy o fewnbwn lleol arnom, ac felly, hoffem eich gwahodd i gymryd rhan mewn digwyddiad i randdeiliaid allweddol.
 “Byddwn yn rhannu cyflwyniad byr yn egluro sut y bwriadwn sicrhau bod meddygon yn graddio gyda gwell dealltwriaeth o anghenion ein cymunedau yng Ngogledd Cymru, a bydd cyfle i chi ofyn cwestiynau, ac yn dilyn hynny, bydd pedwar cyflwyniad ar wahanol themâu a fydd yn fodd i ni gael adborth gan y cyhoedd a syniadau newydd ynghylch sut y gallwn wella ein cynlluniau. Edrychwn ymlaen at gael cyfarfod pobl ac rydym yn gwerthfawrogi’n fawr y cyfraniad y gall unigolion a grwpiau defnyddwyr iechyd a sefydliadau eraill ei wneud i’r project cyffrous hwn.
 Gan y bydd rhywfaint o luniaeth yn cael ei ddarparu, gofynnir i unrhyw un a hoffai ddod gofrestru drwy dilyn y ddolen i dudalen y digwyddiad.