Syniad Dr Christian Dunn oedd Canolfan Gwlyptir Caer ac mae wedi ennill canmoliaeth fawr yng Ngwobrau CIEEM, am ddangos yr arferion gorau o ran ymgysylltu â’r rhanddeiliaid.
Bydd y project yn arwain at greu ecosystemau gwlyptir gwerthfawr mewn parc gwledig poblogaidd ar gyrion Caer.
Yn ogystal â manteision y gwlyptir i fioamrywiaeth, bydd y project yn helpu gwaredu llygredd o nant, a bydd yn cyfrannu at greu nifer o fuddion cymunedol ac addysgol.
Ìý
Dr Dunn, sy’n Ddarllennydd yn Ysgol Gwyddorau Naturiol Prifysgol ÑÇÖÞÉ«°É, a ddyfeisiodd y syniad. Bu yn ei ddatblygu gydag aelodau o grŵp Friends of the Countess of Chester Country Park, lle caiff y gwlyptir ei ddatblygu.
Yna cafodd y cwmni amgylcheddol ymgynghorol, Binnies, ei gomisiynu gan y Land Trust sy’n berchen ar y parc, i wneud astudiaeth ddichonoldeb a dyluniad amlinellol y Ganolfan. Asiantaeth yr Amgylchedd yn Lloegr sy’n ariannu’r gwaith trwy gronfa arbennig i wella cyflwr amgylchedd dŵr.
Mae nifer o fyfyrwyr Prifysgol ÑÇÖÞÉ«°É wedi helpu casglu data hanfodol ar gyfer yr astudiaeth fel rhan o'u projectau ymchwil israddedig ac ôl-radd.
Ìý
Dywedodd Dr Dunn: “Mae’n wych gweld Canolfan Gwlyptir Caer yn cael ei chydnabod fel hyn gan y Sefydliad Siartredig Ecoleg a Rheolaeth Amgylcheddol.
“Rwy'n falch iawn bod y syniad a gefais ychydig flynyddoedd yn ôl bellach wedi magu cymaint o fomentwm a bod cymaint o sefydliadau a phobl wych yn ei gefnogi.
“Ar ôl cwblhau’r gwaith byddwn wedi creu cynefin o wlyptir gwych ger yr ysbyty yng Nghaer y gall pobl ei fwynhau a lle gall bywyd gwyll ffynnu."
Bu myfyrwyr Prifysgol ÑÇÖÞÉ«°É yn allweddol yn natblygiad y project ac mae hynny’n dangos pa mor wych yw ein myfyrwyr a pha mor dda yw eu hymchwil.
Yn ogystal â’r Land Trust, Friends of the Countess of Chester Country Park, Binnies a Phrifysgol ÑÇÖÞÉ«°É, rhai o brif bartneriaid eraill y project yw Asiantaeth yr Amgylchedd, Cyngor Gorllewin Sir Gaer a Chaer a’r Gwirfoddolwyr Cadwraeth.
Cynhaliwyd seremoni wobrwyo’r Sefydliad Siartredig Ecoleg a Rheolaeth Amgylcheddol (CIEEM) yn Birmingham ar Mehefin 28.
I ddysgu mwy am ddatblygiad Canolfan Gwlyptir Caer dilynwch Dr Christian Dunn ar Twitter: @christiandunn