Mae offer recordio wedi cael ei ddefnyddio oddi ar arfordir Ynys Môn i fonitro dolffiniaid, llamhidyddion a sŵn tanddwr.
Gan weithio mewn partneriaeth, mae Prifysgol ɫ, Cyfoeth Naturiol Cymru a Chanolfan Gwyddor yr Amgylchedd, Pysgodfeydd a Dyframaethu wedi gosod offer recordio arbenigol mewn tri lleoliad yn Ardal Cadwraeth Arbennig Gogledd Ynys Môn i ganfod a yw sŵn dynol a sŵn naturiol yn effeithio ar famaliaid morol.
Fel rhan o Arolwg Mamaliaid Morol Acwstig Cymru, bydd recordio yn digwydd rhwng 30 a 60 metr o dan y dŵr dros gyfnod o 18 mis i ddeall sut mae mamaliaid fel llamhidyddion, dolffiniaid trwyn potel, dolffiniaid Risso a dolffiniaid cyffredin, yn defnyddio’r ardal.
Mae sŵn naturiol yn cynnwys sŵn llif llanw cryf sy'n cludo gwaddod, tywydd fel gwynt a glaw ar wyneb y môr, tonnau, a bywyd morol arall, tra bod sŵn o ffynonellau dynol yn cynnwys sŵn llongau a chychod, sonar, a sŵn gwaith adeiladu a diwydiannau morol.
Mae’r prosiect hwn wedi derbyn grant gan y Gronfa Rhwydweithiau Natur sy’n cael ei ariannu gan Lywodraeth Cymru a’i ddarparu gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol mewn partneriaeth â CNC i helpu i fynd i’r afael ag argyfyngau natur a hinsawdd.
Dywedodd Alex Zalewski, Cynghorydd Ecoleg Forol CNC ar gyfer y prosiect: “Gall sŵn tanddwr darfu ar famaliaid morol a llesteirio eu gallu i ddefnyddio a chlywed sain i ddod o hyd i fwyd a chyfathrebu â’i gilydd.
“Rydym eisiau gwella ein dealltwriaeth o sut mae lefelau sŵn cefndir yn effeithio ar y mamaliaid hyn drwy ddefnyddio offer recordio acwstig arbenigol.
“Bydd deall lefelau sŵn tanddwr amgylchynol yn rhoi mwy o wybodaeth i ni am ddosbarthiad sŵn, ei ffynonellau ac yn nodi opsiynau rheoli effeithiol i helpu i fagu gwytnwch mewn poblogaethau o famaliaid morol.
“Mae'r dyfeisiau recordio yn cofnodi sain o fewn amleddau penodol sy'n caniatáu inni glywed y synau clicio a chwibanu a wneir gan ddolffiniaid a llamhidyddion. Rydym yn amau y bydd y seinwedd tanddwr yn naturiol yn eithaf swnllyd o ganlyniad i lifau llanw cryf ac mae'n debygol y bydd sŵn canfyddadwy o ffynonellau dynol hefyd.
“Ar ddiwedd y prosiect bydd gennym well dealltwriaeth o sut i fonitro sŵn tanddwr mewn lleoliadau sy’n naturiol swnllyd, gan ganiatáu inni astudio’r ffordd orau o fonitro llamhidyddion a dolffiniaid yn acwstig yng Nghymru.”
Yn ystod y prosiect bydd yr offer yn cael ei gasglu bob tri mis a bydd y recordiadau'n cael eu dadansoddi.
Dywedodd Gemma Veneruso o Ysgol Gwyddorau Eigion Prifysgol ɫ,
“Mae’n bleser bod yn bartner gyda Chyfoeth Naturiol Cymru a Chanolfan Gwyddor yr Amgylchedd, Pysgodfeydd a Dyframaethu ar y prosiect hwn.
“Mae gan yr Ysgol Gwyddorau Eigion gryn arbenigedd mewn acwsteg mamaliaid morol sy’n rhoi gwybodaeth bwysig i ni o ran cofnodi synau a wneir gan ddolffiniaid, llamhidyddion a hyd yn oed morfilod am fisoedd ar y tro. Mae hyn yn gadael i ni ddeall pa mor aml a phryd y mae’r anifeiliaid yma'n defnyddio’r dyfroedd oddi ar Ynys Môn ac a yw dylanwadau dynol megis sŵn y môr yn effeithio ar eu gweithgareddau. Mae llawer o’r arfordir o amgylch Ynys Môn wedi’i ddynodi’n Ardal Cadwraeth Arbennig (ACA) ar gyfer llamhidyddion yr harbwr ac rydym yn ymwybodol bod dolffiniaid trwyn potel o ACAau cyfagos ym Mae Ceredigion yn defnyddio’r dyfroedd hyn hefyd, felly mae’n hollbwysig monitro a gwarchod y poblogaethau hyn.” .