Dechreuodd y lloeren ryngwladol Dŵr Arwyneb a Thopograffeg Cefnforol (SWOT) o Cape Canaveral yn Florida ar 16 Rhagfyr.
Bydd y lloeren yn defnyddio offeryn radar chwyldroadol, o’r enw KaRIn, i arolygu o leiaf 90% o arwyneb y Ddaear, gan fesur a monitro newidiadau yn y cefnfor, llynnoedd, cronfeydd dŵr, afonydd a gwlypdiroedd. Bydd yn cynhyrchu data a fydd yn helpu i wella ein dealltwriaeth o newid yn yr hinsawdd, yn ogystal â rhagweld a rhoi gwybod am beryglon llifogydd ledled y byd.
Mae'r project yn fenter aml-asiantaeth a’r daith yn ffrwyth cydweithio rhwng Asiantaeth Ofod y DU, NASA, Asiantaeth Ofod Ffrainc (CNES) ac Asiantaeth Ofod Canada (CSA). Bydd y daith yn dwyn ynghyd y gorau o wyddoniaeth Brotosh. Comisiynwyd cwmni technoleg Honeywell o'r DU i ddarparu technoleg unigryw i osod signalau radar hanfodol o amgylch y lloeren.
Mae Asiantaeth Ofod y DU hefyd wedi partneru â Chyngor Ymchwil yr Amgylchedd Naturiol (NERC) ar broject ymchwil gwyddoniaeth SWOT-UK, i ddadansoddi data’r lloeren sy'n cwmpasu ardal Môr Hafren ac Aber Afon Hafren.
Mae Prifysgol ɫ yn cydweithio â Phrifysgol Bryste o dan SWOT-UK, (dan arweiniad y Ganolfan Eigioneg Genedlaethol (NOC)) i werthuso’r data’r lloeren dros ddyfroedd Prydain pan gaiff ei ddychwelyd dros y misoedd nesaf. Môr Hafren ac Aber Afon Hafren yw'r unig aber sydd ag amrediad llanw o fwy na phedwar metr i'w fonitro gan y lloeren yn ystod ei thaith, gan gofnodi arsylwadau unwaith y dydd am dri mis.
Arweiniodd Prifysgol ɫ ar ddefnyddio synwyryddion, a elwir yn broffilwyr cerrynt acwstig Doppler (ADCP), i fesur llif y llanw ym Môr Hafren, ac offeryn RiverRay, a fydd yn cymryd mesuriadau tebyg yn Afon Hafren trwy deithio ar draws y sianel ar gwch bach.
Dywedodd Simon Neill, Athro Eigioneg Ffisegol ym Mhrifysgol ɫ:
“Dyfais yw’r ADCP sy'n defnyddio tonnau sain i fesur cyflymder a chyfeiriad cerrynt drwy'r golofn ddŵr, gan ddarparu dealltwriaeth o sut mae dyfroedd mewn afonydd a chefnforoedd yn symud.
“Bydd y data a gesglir o’r dyfeisiau hyn yn ein galluogi i ddatblygu dealltwriaeth lawn o Fôr Hafren ac i gymharu’n uniongyrchol â’r data a gasglwyd gan y lloeren.”
Dywedodd y Gweinidog Gwyddoniaeth George Freeman:
“Mae'n wych gweld sefydliadau diwydiannol ac academaidd o bob rhan o'r DU yn cydweithio ar daith fyd-eang a fydd yn nodi newid sylweddol yn y modd y gallwn ni fonitro patrymau dŵr ac ymateb iddynt.
“Mae llywodraeth y DU newydd ymrwymo £314 miliwn i gymryd rhan mewn teithiau Ewropeaidd i arsylwi’r Ddaear, gan roi mynediad i ni at ddata hanfodol am ein byd naturiol a sut y gallwn ni fynd i’r afael â newid hinsawdd.
“Mae ein sector gofod yn ffynnu ar feithrin perthnasoedd gyda’n cymheiriaid rhyngwladol. Mae’r DU wrth galon y daith hon gyda’r lloeren gyda’n ffrindiau yn yr Unol Daleithiau, Ffrainc a NASA yn cydweithio ar yr ymgyrch.”
Dywedodd Prif Weithredwr Asiantaeth Ofod y DU, Dr Paul Bate:
“Bydd y lloeren yn chwyldroi ein dealltwriaeth o ddŵr wyneb ein planed a sut mae ei batrymau’n newid, gan roi gwybodaeth hanfodol i ni i wella sut rydym yn rheoli un o adnoddau mwyaf gwerthfawr y ddynoliaeth.
“Mae hon yn daith bwysig i’r DU fod yn rhan ohoni, o ran adeiladu’r offeryn radar ac o ran derbyn a dadansoddi data arsylwi’r Ddaear ar gyfer y DU yn uniongyrchol.
“Rwy’n edrych ymlaen at weld y data y mae’r lloeren yn ei ddychwelyd ynghylch Môr Hafren ac Aber Afon Hafren.”
Mae’r Athro Christine Gommenginger yn brif wyddonydd mewn eigioneg loeren yn NOC ac yn gyd-arweinydd SWOT-UK.
Dywedodd yr Athro Christine Gomminger:
“Am y tro cyntaf, bydd y lloeren yn cynhyrchu delweddau manwl o lefelau dŵr a fydd yn helpu i ddeall y prosesau cymhleth sy’n cysylltu lefelau dŵr y môr a dyfroedd mewndirol.
“Un o amcanion SWOT-UK yw dangos sut y gellir defnyddio data lloeren Arsylwi’r Ddaear gydag offerynnau mewn mannau penodol a modelau rhifiadol i ateb cwestiynau pwysig ar gyfer gwyddoniaeth a chymdeithas.”
Roedd Paul Bates CBE FRS, Athro Hydroleg ym Mhrifysgol Bryste, yn rhan o’r tîm a gyflwynodd cysyniad y lloeren yn wreiddiol i NASA 20 mlynedd yn ôl, a chyfrannodd ei dîm fodelau hydrolig llifogydd yn ystod cyfnod dylunio’r daith.
Dywedodd yr Athro Paul Bates:
“Bydd y lloeren yn trawsnewid ein gallu i olrhain dŵr croyw ar y Ddaear a cheryntau yn y cefnfor. Am y tro cyntaf byddwn yn gallu olrhain tonnau llifogydd yn symud i lawr systemau afonydd a gweld cynnydd a chwymp yn lefelau dŵr mewn miliynau o lynnoedd a gwlypdiroedd ledled y byd.
“Byddwn nid yn unig yn gallu defnyddio’r data hwn i wneud darganfyddiadau gwyddonol newydd, ond hefyd i helpu poblogaethau ledled y byd i reoli peryglon ac adnoddau dŵr yn well.”
Pan ddychwelir data yn 2023, bydd Labordy Morol Plymouth yn gweithio gyda Phrifysgol Cefnfor Tsieina i nodi ac olrhain trolifau, gan edrych yn benodol ar sut mae Cefnen Ganol yr Iwerydd yn effeithio ar eu taith ar draws De'r Iwerydd ac effaith hyn ar sut mae’r cefnfor yn cludo gwres rhwng y de a’r gogledd.
Mae deublygwr Ka Band Honeywell wedi'i adeiladu yn y DU ac yn rhan hanfodol o'r altimedr KaRIn ar y lloeren SWOT, gan anfon signalau radar o amgylch y lloeren ac yn trawsyrru ar bŵer o 1,500W - lefel na welwyd erioed yn y math hwn o ddyfais - sy'n caniatáu i KaRIn fesur uchder i well na 2 cm o gywirdeb ar gydraniad gofodol o 1 km a hynny ar uchder orbit o 891 km uwchben y Ddaear.
Ymrwymodd y DU yn ddiweddar £315 miliwn i deithiau a rhaglenni arsylwi’r Ddaear a hinsawdd yn y dyfodol, gan gynnwys TRUTHS ac Aeolus-2, drwy’r Asiantaeth Ofod Ewropeaidd, a £65 miliwn arall i raglenni cenedlaethol a fydd yn cryfhau sgiliau a galluoedd yn y maes pwysig hwn.