Sut mae cefnogi mawrion byd y campau?
Gwireddu breuddwyd fydd camu i’r cae yng ngêm gyntaf Cymru yn rowndiau terfynol Cwpan Pêl-Droed Dynion y Byd i’r capten Gareth Bale a gweddill carfan Cymru, a hynny am y tro cyntaf i dîm Cymru ers 64 mlynedd.
Rhwng 20 Tachwedd a 18 Rhagfyr, bydd llygaid y byd ar dynged pob un o'r 32 tîm sy'n cystadlu yng nghystadleuaeth fwyaf mawreddog y gamp yn Qatar yn 2022.
Bydd rheolwr Cymru, Rob Page, a’i staff cefnogi yn chwarae rhan allweddol yn llunio emosiynau, cymhelliant, a pherfformiadau’r garfan yn Qatar.
Ond sut mae gwneud hynny? Mae Prifysgol ɫ wedi bod yn gweithio ar ddod i ddeall sut mae perfformio dan bwysau, a sut i wella perfformiad.
Mae Dr Andy Cooke, Cyfarwyddwr y Sefydliad Seicoleg Perfformiad Elît ac Uwch Ddarlithydd mewn Gwyddorau Chwaraeon ac Ymarfer ym Mhrifysgol ɫ yn esbonio rhai o’u canfyddiadau, ac yn egluro sut y gallai tîm Cymru elwa.
“Mae gwella perfformiadau unigol a pherfformiadau tîm mewn achlysuron fel Cwpan y Byd yn her gymhleth, yn enwedig gan fod biliynau o bobl ledled y byd yn gwylio ac yn gwerthuso. Mae’n bosibl iawn bod chwaraewyr yn profi emosiynau cymysg iawn gan gynnwys balchder, pryder a phwysau.”
Sut gall ein hymchwil seicoleg perfformiad bod o fudd i tîm Cymru yng Nghwpan y Byd?
“Un o ganfyddiadau allweddol ein hymchwil gydag unigolion a thimau perfformiad uchel yw bod pwysau’n effeithio ar wahanol bobl mewn gwahanol ffyrdd. Mae hyn yn golygu bod y dulliau y mae Rob Page yn eu defnyddio i geisio dod â'r gorau allan o'i chwaraewyr, ar adegau o brysur bwyso, yn hollbwysig. Mae ein hymchwil yn awgrymu ymdriniaeth sydd wedi'u teilwra'n unigol i ddiwallu anghenion penodol pob chwaraewr. Yma yn y Sefydliad Seicoleg Perfformiad Elît, rydym wedi datblygu’r dull unigolyddol hwn o ymwneud â seicoleg tîm trwy ddatgelu nodweddion ac anghenion unigryw gwahanol aelodau o amrywiol dimau perfformiad uchel.”
Ychwanegodd Andy, “Unwaith y bydd y nodweddion unigol hyn yn hysbys, gellir cynnig cyngor arbenigol i reolwyr ar sut mae cyfathrebu orau â phob chwaraewr, a strwythuro cefnogaeth ar gyfer pob chwaraewr, i’w helpu i fod ar eu gorau.
Er enghraifft, efallai fod chwaraewr y byddai'n ddoeth i’r hyfforddwyr roi dim ond cyfarwyddiadau syml a chyfannol iddo i’w atal rhag gorfeddwl am ei symudiadau. I chwaraewr arall, efallai y byddai cyfundrefn ymlacio dwfn rhwng gemau i’r dim wrth dawelu unrhyw nerfau cyn gêm a lleihau’r risg o gael cramp neu anaf sy’n gallu cael ei achosi gan densiwn seicolegol. Efallai hyd yn oed y bydd rhai chwaraewyr a fyddai’n gallu ysgwyddo cyfrifoldebau a phwysau ychwanegol. Mae hyn oherwydd bod rhai unigolion yn naturiol yn ffynnu o dan bwysau, a phan fo targedau a chyfrifoldebau strategol (e.e., capten, cymerwr ciciau cosb) ar eu hysgwyddau, gallent fod yn gatalyddion cadarnhaol a phwerus i weddill y tîm.”
Mae’r Sefydliad Seicoleg Perfformiad Elît wedi datblygu’r dull hwn dros nifer o flynyddoedd mewn cydweithrediad â phartneriaid perfformiad uchel gan gynnwys y Llu Awyr Brenhinol, a Bwrdd Criced Cymru a Lloegr, lle cyfrannodd y broses hon, ynghyd ag agweddau eraill ar baratoi a hyfforddi, at lwyddiannau diweddar yng nghwpan criced y byd i garfan y dynion a charfan y merched.
#GorauChwaraeCydChwarae
Daw Andy i ben trwy ddweud,
“Mae’r byd yn disgwyl yn eiddgar i’r bêl gyntaf gael ei chicio yn Qatar, ac mae gan dîm Cymru gefnogaeth cenedl falch iawn. Mae'r garfan i’w gweld yn uned glos. Gall hynny a bod yn ymwybodol o sut mae pob aelod o'r garfan yn gweithredu fod yn arf pwerus i Rob Page a'i dîm.
Gobeithio y byddant yn gallu cofleidio’r balchder a’r pwysau a ddaw yn sgil perfformio ar lwyfan mwya’r byd, ac y caiff y ddraig goch ruo mewn ymgyrch gyffrous a llwyddiannus yng Nghwpan y Byd.”