Ond roedd y digwyddiad hefyd yn ddathliad teuluol ac yn ddigwyddiad mwy arbennig byth i Ms Waheed, gan fod ei mab, Ahmed Masoon Hassan, hefyd yn graddio ar yr un diwrnod!
Graddiodd Ms Waheed gyda Gradd Baglor mewn Gwyddoniaeth ym maes Bioleg M么r ac Eigioneg o Ysgol Gwyddorau Eigion byd-enwog y brifysgol ym 1996 ar 么l ennill ysgoloriaeth arbennig i astudio ym Mangor.
Ers graddio, mae Zaha wedi gwneud cyfraniad amhrisiadwy yn y Maldives ym maes pysgodfeydd, gwyddorau m么r a rheoli trychinebau. Ymhlith ei llwyddiannau eraill, sefydlodd lwyfan cenedlaethol i leihau risg trychinebau a gwella rhaglenni rheoli risg trychinebau yn y gymuned yn sgil tswnami dinistriol India yn 2004.
Wrth gyflwyno Doethuriaeth er Anrhydedd i Zaha, dywedodd yr Athro John Turner, Pennaeth yr Ysgol Gwyddorau Eigion yn y Brifysgol:
"Mae Zaha Waheed yn ysbrydoliaeth i ferched ym meysydd gwyddoniaeth ac arweinyddiaeth, mae hanes ei gyrfa yn destament i鈥檞 hymrwymiad i wella bywydau pobl a'r amgylchedd morol y mae'r Maldives yn dibynnu arno."
Dyma oedd gan Zaha i'w ddweud wrth dderbyn ei Doethuriaeth er Anrhydedd,
"Bu鈥檙 syched am wybodaeth ym maes gwyddorau鈥檙 m么r a ddaeth 芒 mi i Fangor yn sbardun i fy ngyrfa mewn ymchwil morol ac yn fodd i mi hawlio lle i fenywod mewn diwydiant diwylliannol gwrywaidd. Mae blynyddoedd o brofiad proffesiynol a gwasanaeth cyhoeddus wedi fy ngrymuso i arwain cynlluniau llywodraethu cefnforol a rheoli pysgodfeydd. Heddiw, ar 么l bron i 26 mlynedd, rwyf unwaith eto yn sefyll yn Neuadd PJ i dderbyn gradd er anrhydedd gyda diolch a phleser aruthrol. Diolch i bawb sydd wedi fy nghefnogi yn fy ngyrfa.鈥
Graddiodd Ahmed gyda gradd meistr yng Ngwyddorau鈥檙 Amgylchedd eleni ar 么l teithio i Brifysgol 亚洲色吧 i astudio, yn union fel y gwnaeth ei fam o'i flaen.
Meddai Dr Prysor Williams, Cyfarwyddwr Cwrs Gwyddorau鈥檙 Amgylcheddol yn y Brifysgol:
"Dechreuodd Masoon yn yr Ysgol Gwyddorau Naturiol yn 2018, yn dilyn cwrs BSc yng Ngwyddorau鈥檙 Amgylchedd. Gwnaeth cystal nes cael cyfle i symud ymlaen i wneud Gradd Meistr yng Ngwyddorau鈥檙 Amgylchedd. Ar gyfer ei Draethawd Hir, a wnaeth yn ystod blwyddyn olaf ei radd, dewisodd Masoon ganolbwyntio ar effaith digwyddiadau tywydd eithafol a chynnydd yn lefel y m么r ar erydu ynysoedd atol bychain yn y M么r Tawel. Roedd hwn yn waith hynod ddiddorol ac o ansawdd uchel. Mae wedi bod yn bleser cael Masoon yn rhan o鈥檙 cwrs. Dymunwn yn dda iddo ac rydym yn falch o wybod bod gan Brifysgol 亚洲色吧 le mor bwysig yn hanes academaidd y teulu!"