Ymchwilydd PhD yn chwalu'r rhwystrau
Fel rhan o Wythnos Codi Ymwybyddiaeth Byddardod, bu Cymdeithas Gwyddorau Chwaraeon ac Ymarfer Prydain yn tynnu sylw ar y cyfryngau cymdeithasol at waith Libby Steele, sy’n ymchwilydd PhD yn Ysgol Gwyddorau Dynol ac Ymddygiadol Prifysgol ÑÇÖÞÉ«°É.

Cydweithrediad yw PhD Libby gyda UK Deaf Sport ac England Athletics ac mae'n cael ei oruchwylio gan Dr Vicky Gottwald, sy’n ddarlithwraig mewn gwyddorau chwaraeon ac ymarfer, a Dr Gavin Lawrence, uwch ddarlithydd mewn gwyddorau chwaraeon ac ymarfer.
Eglura Libby, "Cefais fy ngeni'n fyddar, felly dwi wedi gorfod goresgyn nifer o heriau o ran cyfathrebu, cynhwysiant cymdeithasol a rhwystrau eraill drwy gydol fy mywyd. Wrth dyfu i fyny sylweddolais cymaint o anghydraddoldeb y mae’r gymuned fyddar yn ei wynebu a theimlais fod yn rhaid i mi wneud rhywbeth i newid hynny.
"Nod fy noethuriaeth yw cyfrannu at y gwaith o ddatblygu system safonol i ddechrau rasys a fydd yn gwella cydraddoldeb i athletwyr byddar mewn chwaraeon. Ar hyn o bryd nid oes llwybr perfformiad penodol na system dechrau rasys safonol ar waith ar gyfer athletwyr byddar, sy’n atal hygyrchedd a darpariaeth i athletwyr byddar, gan fynd yn groes i’r ymdrechion i greu cymdeithas mwy egalitaraidd."
Meddai Dr Vicky Gottwald, "Mae'n wych bod Libby yn codi ymwybyddiaeth am chwaraeon pobl fyddar drwy ei gwaith a bod i’r prosiect gymaint o botensial o ran cynorthwyo grŵp heb gynrychiolaeth ddigonol mewn chwaraeon elitaidd. Bydd deall mwy am sut mae amseroedd ymateb yn amrywio rhwng athletwyr sy’n clywed ac athletwyr byddar wrth ddefnyddio gwahanol fathau o symbyliadau yn ein helpu i nodi unrhyw anghydraddoldebau perfformiad gan wneud y gamp yn decach a denu rhagor o athletwyr byddar."
Ychwanegodd Dr Gavin Lawrence, "Mae gan y gwaith yma botensial mawr i newid tirlun cydraddoldeb o fewnchwaraeon. Gall cael system dechrau rasus safonol sydd ddim yn rhoi maintais nac anfantais i athletwyr byddar neu rhai sy'n clywed ehangu'r gronfa dalent a lleihau'r rhwystrau o ran mynediad i fyd chwaraeon."