Mae Amber Jepson o Fanceinion yn ei hail flwyddyn yn astudio am radd meistr mewn Sŵoleg. Mae hi’n blogio’n rheolaidd i , sefydliad dielw rhyngwladol sy'n cysylltu dinasyddion â gwyddonwyr i wella iechyd a chynaliadwyedd y blaned. Mae Earthwatch yn galluogi myfyrwyr fel Amber i ysgrifennu blogiau ar gyfer , project cymunedol a ariennir gan y loteri i weithredu’n gadarnhaol dros y bywyd gwyllt ar garreg ein drws.Ìý
Mae Blog Amber, , yn archwilio ffenomenon bywyd gwyllt y nos i helpu'r darllenydd i wybod beth i'w weld yr hydref hwn.Ìý
Eglura Amber, a fu wastad yn frwd dros fywyd gwyllt:Â
“Bu gen i ddiddordeb erioed ym mywyd gwyllt y Deyrnas Unedig, a dyna pam y dewisais Brifysgol ÑÇÖÞÉ«°É - mae’n lle perffaith i astudio bywyd gwyllt, archwilio cynefinoedd a dod i adnabod y dirwedd naturiol. Â
“Rydw i wedi gwybod erioed fy mod i eisiau bod yn sŵolegydd ac mae deall y bywyd gwyllt cynhenid sydd gan y Deyrnas Unig i’w gynnig yn bwysig i mi, oherwydd rydw i eisiau amddiffyn pa fywyd gwyllt sydd gyda ni ar ôl. Â
“Mae cymaint o rywogaethau wedi cael eu dileu o’r Deyrnas Unedig trwy law pobl, ac mae wedi dod yn bwysicach fyth amddiffyn a gwerthfawrogi’r bywyd gwyllt sydd gennym ar garreg ein drws, a ledled y Deyrnas Unedig.Ìý
“Dewisais astudio sŵoleg ym Mangor oherwydd ei fod yn rhoi cyfle i mi, nid yn unig i astudio mewn prifysgol anhygoel gyda staff a modiwlau gwych sydd o ddiddordeb i mi, ond mae hefyd yn cynnig i mi'r priodoleddau gofynnol o hyfforddiant i fod yn sŵolegydd - gallu defnyddio'r dirwedd; mae'r ffaith fy mod yn agos at gynifer o gynefinoedd gwahanol ac yn gallu archwilio amrywiaeth eang o ecosystemau yn rhywbeth na allech ei wneud ym mhrifysgolion canol dinas. Â
“Mae gen i’r môr a’r mynyddoedd ar garreg fy nrws, sy’n rhywbeth rwy’n ei werthfawrogi’n fawr o ran fy astudiaethau. Dewisais sŵoleg oherwydd bu gen i ddiddordeb erioed mewn astudio anifeiliaid a defnyddio'r wybodaeth honno i warchod eu poblogaethau a'u hamrywiaeth."Â
Gallwch wylio hen raglenni Autumnwatch ar .Ìý