Mae Canolfan Ymchwil ac Ymarfer Ymwybyddiaeth Ofalgar (CMRP) ÑÇÖÞÉ«°É yn dathlu ei ben-blwydd yn ugain oed dros yr hâf - yn ogystal â chwarae rhan blaengar yn y frwydr yn erbyn effeithiau'r pandemic.
Roedd Prifysgol ÑÇÖÞÉ«°É o flaen y gad fel y prifysgol cyntaf i gynnig gradd Meistr mewn Ymwybyddiaeth Ofalgar ac hefyd y ganolfan hon oedd y cyntaf yn y DU i gynnig ymchwil a hyfforddiant yn y rhaglen yma, sy'n seiliedig ar fyfyrdod, yn 2001.
Erbyn hyn, mae Ymwybyddiaeth Ofalgar yn cael ei ddefnyddio i helpu staff y Gwasanaeth Iechyd (GIG) ddelio gyda straen gweithio ar y rheng flaen Covid-19, ac mae llawer o'r athrawon yn raddedigion o'r Brifysgol.
Mae canllaw i staff y GIG gan y Sefydliad Ymwybyddiaeth Ofalgar (Mindfulness Institute) hefyd yn cynnwys myfyrdodau o wahanol hyd wedi eu darparu gan y Brifysgol, gan gynnwys rhai yn y Gymraeg.
Meddai Dr Gemma Griffith o'r , "Mae Ymwybyddiaeth Ofalgar yn fath o fyfyrdod lle rydych chi'n canolbwyntio ar deimlo'n ymwybodol iawn o'r hyn yr ydych yn teimlo ac yn synhwyro un eiliad ar y tro, tra'n dod ag agwedd garedig a chwilfrydig i'r hyn yr ydych yn sylwi arno."
"Mae'n cynnwys bod yn ymwybodol o'r corff, emosiynau a meddyliau. Mae 'na dystiolaeth bod cwrs wyth wythnos o ostwng straen trwy ymwybyddiaeth ofalgar (MBSR) yn lleihau straen ac mae tystiolaeth bod rhaglen arall gysylltiedig, Therapi Gwybyddol trwy Ymwybyddiaeth Ofalgar (Mindfulness-based Cognitive Therapy) yn lleihau'r risg o iselder.
Nawr mae'r Ganolfan ym Mangor wedi nodi'r ugain mlynedd drwy gyhoeddi cyfrol newydd, Essential Resources for Mindfulness Teachers.
Meddai Gemma,"Erbyn hyn mae gan y ganolfan enw da'n rhyngwladol o ganlyniad i'r nifer o athrawon sydd wedi hyfforddi yma dros y blynyddoedd, ac mae miloedd wedi mynd drwy'n rhaglenni Meistr a datblygu proffesiynol ni."
Ers 2018 mae Prifysgol ÑÇÖÞÉ«°É wedi darparu ei raglen adnabyddus mewn partneriaeth â'r elusen, the Mindfulness Network.
Mae'r Ganolfan yn denu myfyrwyr o bob cwr o'r byd ac yn ei flwyddyn gyntaf ar y cwrs Meistr eleni mae Christoph Spiessens, sy'n wreiddiol o Wlad Belg ac yn 42 oed ac yn gyn stiward ar awyrennau, sydd bellach yn berchen ar gwmni hyfforddi ym Manceinion ers pum mlynedd, Christoph Spiessens Coaching Solutions Ltd.
Nid oedd gan Christoph radd, ond cafodd ei dderbyn ar y cwrs wedi iddo wneud cyfweliad manwl a hyd yn oed yn y sefyllfa bresennol, mae'n mwynhau gan ddweud,
"Dydy ddim yn hawdd trosglwyddo i ddysgu ar-lein os ydych chi wedi arfer gweithio mewn grwp, ond mae ÑÇÖÞÉ«°É wedi llwyddo i newid gêr yn dda iawn."
"Mae ÑÇÖÞÉ«°É hefyd yn cynnwys cyfle i chi ailsgwennu eich stori eich hunain, ac i wneud hynny heb radd, felly dwi'n ddiolchgar iawn am y cyfle."
Un arall sydd raglen gradd Meistr y Brifysgol yw Victoria 'Tor' Walmsley, cyn ddawnswraig broffesiynol o Wigan sydd erbyn hyn yn dysgu Ymwybyddiaeth Ofalgar yn Sussex o'i chartref yn Bognor, gan gynnwys i staff yng Nghyngor West Sussex.
Meddai, "Daethais i Ymwybyddiaeth Ofalgar wedi cyfnod anodd yn bersonol, a helpodd i mi wella.
"Daethais i Fangor a newidiodd hynny fy mywyd.
"Mae hynny'n dyst i ansawdd y dysgu, y ddinas a bobl ÑÇÖÞÉ«°É sydd wedi bod yn anhygoel.
"Mae rhywbeth arbennig iawn am yr hyn y maen nhw'n ei wneud ym Mangor, mae'r dysgu'n arbennig ac mae'r gefnogaeth yn anhygoel."
Lansiodd y Ganolfan y llyfr Essential Resources gyda digwyddiad yn cynnwys yn o'r athrawon cyntaf ym Mangor Trish Bartley ynghyd â golygyddion y gyfrol, Dr Rebecca Crane, cyfarwyddwr y Ganolfan ym Mangor, Karunavira a Gemma Griffith.
Mewn digwyddiad arall, sgwrsiodd Yr Athro Mark Williams gyda Dr Rebecca Crane gan adlewyrchu ar ei yrfa ym myd Seicoleg Clinigol.