Yn 2019, lansiodd Sefydliad Iechyd y Byd ei strategaeth i ymdrin 芒 brathiad neidr, clefyd a allai beryglu bywyd ac a achosir gan docsinau mewn brathiad neidr wenwynig. Mae brathiadau nadroedd yn achosi hyd at 138,000 o farwolaethau ac yn gadael 400,000 o bobl eraill ag anableddau parhaol pob blwyddyn.听
Mae Dr Anita Malhotra a Dr Wolfgang W眉ster o Ysgol Gwyddorau Naturiol y brifysgol yn ymuno 芒'r rhestr o arbenigwyr sydd newydd eu cyhoeddi a fydd yn helpu Sefydliad Iechyd y Byd i fynd i'r afael 芒'r heriau o weithredu'r strategaeth hon.听
Tra bod Dr Malhotra a Dr W眉ster wedi bod yn gweithio ar nadroedd gwenwynig ledled y byd ers degawdau, yn fwy diweddar maent wedi canolbwyntio eu hymdrechion yn India, lle mae 50% o'r marwolaethau byd-eang o frathiadau nadroedd yn digwydd.听
Meddai Dr Anita Malhotra:听
鈥淕all gwneud ymchwil fod yn waith caled iawn, mae'n cynnwys oriau hir iawn, a gwaith maes eithaf heriol, felly mae'n braf iawn bod ein hymdrechion yn cael eu cydnabod.鈥
Meddai Dr Wolfgang W眉ster:听
鈥淢ae cynhyrchu gwybodaeth newydd yn rhoi llawer o foddhad i rywun, ond mae ei defnyddio mewn ffordd y gallai gyfrannu at achub bywydau yn gwneud y cyfan gymaint yn fwy gwerth chweil.鈥
Mae eu harbenigedd hefyd o fudd uniongyrchol i fyfyrwyr sy'n astudio S诺oleg gyda Herpetoleg ym Mangor, yr unig radd o'r fath yn y Deyrnas Unedig, gyda chyfle i ddysgu am sut i astudio nadroedd a'u gwenwyn a chymryd rhan mewn hyfforddiant labordy a gwaith maes.
Mae rhagor o wybodaeth am eu gwaith yn India
听
Dau arbenigwr nadroedd gwenwynig o Brifysgol 亚洲色吧 yn ymuno 芒 phanel Sefydliad Iechyd y Byd
Mae dau academydd rhyngwladol o Brifysgol 亚洲色吧 wedi eu penodi i banel o arbenigwyr Sefydliad Iechyd y Byd.