Tri o Brifysgol 亚洲色吧 ar restr fer Llyfr y Flwyddyn
Mae creadigrwydd yn y gwynt ym Mangor wrth i ddwy o鈥檔 darlithwyr Ysgrifennu Creadigol gyrraedd rhestr fer Llyfr y Flwyddyn, yng nghategori llenyddiaeth Saesneg y gystadleuaeth. Mae Darlithydd newyddiaduraeth 聽hefyd wedi ei gynnwys yng Nghategori Ffuglen . Cyhoeddir y canlyniadau ar 1 Gorffennaf.
Y ddwy yng nghategori鈥檙yw鈥檙 bardd Zo毛 Skoulding, am ei chasgliad diweddaraf, Footnotes to Water, a鈥檙 nofelydd Alys Conran, am ei nofel ddiweddaraf, Dignity.
Mae cysylltiadau cryf 芒 亚洲色吧 yn y ddwy gyfrol. Cafodd y nofelydd Alys Conran ei magu a鈥檌 haddysgu ym Mangor. Mae Footnotes to Water yn dilyn llwybr dwy afon anghofiedig, sef afon Adda ym Mangor ac afon Bi猫vre ym Mharis, yn ogystal 芒 dilyn defaid ar lwybrau llenyddol hyd fynyddoedd Cymru. Dyma un o鈥檙 cyfrolau a ddewiswyd gan y Poetry Book Society y llynedd.
Mae Zo毛 Skoulding, Athro Ysgrifennu Creadigol yn Ysgol Ieithoedd, Llenyddiaethau ac Ieithyddiaeth Prifysgol 亚洲色吧 eisoes wedi cyhoeddi sawl casgliad o farddoniaeth a gweithiau eraill. Mae hi鈥檔 ymddiddori mewn barddoniaeth sy鈥檔 ymwneud 芒 lleoliad, ecoleg a barddoniaeth wedi ei gyfieithu.
Meddai:
"Dechreuodd casgliad Footnotes to Water oherwydd fy mod wedi fy nghyfareddu gan orffennol 亚洲色吧 a manylion amdani na 诺yr llawer amdanynt, megis afon Adda sy鈥檔 llifo o鈥檙 golwg dan y ddinas. Sgwrs yw鈥檙 gyfrol gyda ac am y lleoliadau rwy鈥檔 eu caru, ac felly rwyf wrth fy modd bod y gyfrol wedi denu鈥檙 fath sylw."
Mae ei gwaith wedi cyrraedd rhestr fer gwobr Ted Hughes, a roddir am waith barddonol newydd, rhestr hir Llyfr y Flwyddyn 2009, a chafodd wobr y Cholmondeley Society of Authors yn 2018. Mae hi鈥檔 Ddarllenydd ac yn Uwch Ddarlithydd yn yr Ysgol Ieithoedd, Llenyddiaethau ac Ieithyddiaeth.
Cyhoeddwyd Dignity, nofel ddiweddaraf Alys Conran gan Weidenfeld and Nicolson ac fe gafodd groeso gwresog a chanmoliaeth fawr.
Croesawodd Alys y newyddion gan ddweud:
鈥淢ae鈥檔 wych clywed bod Dignity ar y rhestr fer. Rwy鈥檔 ddiolchgar bod y gwobrau hyn yn rhoi hwb i lenyddiaeth yng Nghymru a thu hwnt yn y cyfnod anodd sydd ohoni. Mae fy nofel yn trafod rhagfarn a chyfeillgarwch, cariad a gobaith. Mae鈥檙 pethau hyn yn bwysicach r诺an nag erioed, ac rwy鈥檔 gobeithio y bydd mwy o bobl yn dod o hyd i loches rhwng tudalennau fy nghyfrol ac yn y gweithiau hanfodol a chyfareddol eraill ar y rhestr.鈥
Enillodd nofel gyntaf Alys Conran, Pigeon, (Parthian Books) wobr Llyfr y Flwyddyn yn 2017 a chyrraedd rhestr fer gwobr ryngwladol Dylan Thomas. Enillodd hefyd wobr Ymddiriedolaeth Rhys Davies am waith ffuglennol, Gwobr y Bobol y Wales Arts Review聽 a chyrhaeddodd restr hir gwobr Author's Choice a roddir am nofel gyntaf. Mae Alys yn Gymrawd Rhyngwladol G诺yl y Gelli yn 2019-20.
Wedi ei magu ym Mangor, treuliodd Alys sawl blwyddyn yng Nghaeredin a Barcelona cyn dychwelyd i鈥檙 ardal hon i fyw ac ysgrifennu.
Mae hi鈥檔 darlithio mewn Ysgrifennu Creadigol yn yr Ysgol Ieithoedd, Llenyddiaethau ac Ieithyddiaeth ac yn arwain gweithdai ysgrifennu鈥檔 rheolaidd i gyrff eraill yn genedlaethol ac yn rhyngwladol.
Mae nofel Ifan Morgan Jones Babel wedi ei chynnwys ar Restr Fer Gwobr Ffuglen Llyfr y Flwyddyn.
Mae鈥檙 nofel yn trafod them芒u cyfoes newyddion ffug a phoblyddiaeth wleidyddol yn erbyn cefndir y galwadau am well amodau gwaith a phryderon am iechyd cyhoeddus trefi diwydiannol Cymru canol yr 19eg ganrif.
Mae Ifan Morgan Jones yn ddarlithydd mewn newyddiaduraeth yn yr Ysgol Cerddoriaeth a'r Cyfryngau. Mae wedi ysgrifennu pedair nofel, ac fe enillodd y gyntaf ohonynt, Igam Ogam, wobr Goffa Daniel Owen yn yr Eisteddfod Genedlaethol yn 2008. Cwblhaodd ddoethuriaeth ym Mhrifysgol 亚洲色吧 yn 2018 ar bwnc y wasg Gymraeg yn y 19eg ganrif ac roedd yr ymchwil hwnnw yn sail i鈥檞 nofel Babel.
鈥淩oedd fy nghyfnod yn fyfyriwr PhD ym Mhrifysgol 亚洲色吧 yn amhrisiadwy o ran rhoi mynediad imi i鈥檙 adnoddau a鈥檙 arbenigedd oedd eu hangen er mwyn ail-greu鈥檙 dirwedd ddiwydiannol a gwleidyddol a welir yn y nofel,鈥 meddai Ifan Morgan Jones.
鈥淧an ysgrifennais y llyfr, roedd byd lle roedd pobl yn byw yn eu bywydau yng nghysgod haint ac afiechyd nad oeddent yn eu deall yn ymddangos yn eithaf ffans茂ol, ond yn anffodus mae digwyddiadau cyfredol wedi gwneud hynny yn anghyffyrddus o gyfoes.
鈥淔odd bynnag, rwy鈥檔 falch iawn o gael fy enwi ar y rhestr fer ar gyfer y wobr bwysig hon a fydd, gobeithio, yn rhoi hwb mawr ei angen i鈥檙 diwydiant llyfrau yng Nghymru yn ystod cyfnod mor anodd.鈥
Gellir pleidleisio i bob llyfr o dan y categori Barn y Bobl.
Mae gwobr Llyfr y Flwyddyn Llenyddiaeth Cymru yn un o uchafbwyntiau鈥檙 flwyddyn lenyddol yng Nghymru a鈥檙 gobaith yw y cyhoeddir enwau鈥檙 enillwyr ddiwedd Gorffennaf.