Prifysgol ÑÇÖÞÉ«°É yn paratoi ar gyfer mis Medi
Ar hyn o bryd, mae staff Prifysgol ÑÇÖÞÉ«°É yn paratoi ar gyfer y flwyddyn academaidd newydd ym mis Medi, er gwaethaf yr ansicrwydd sy’n bodoli oherwydd y pandemig Covid-19.
Mae'r Brifysgol bellach wedi cadarnhau i'w holl fyfyrwyr, rhai newydd a’r rhai sy’n dychwelyd, ei bod yn paratoi ar gyfer agor y campws fis Medi. Oherwydd y tebygolrwydd y bydd angen rhoi mesuriadau ymbellhau cymdeithasol mewn lle, bwriad y Brifysgol ar hyn o bryd yw cyfuno addysgu wyneb-yn-wyneb ar y campws gydag addysgu ar-lein. Bydd llety myfyrwyr y Brifysgol ar agor hefyd.
Oherwydd y cyfyngiadau presennol, mae'r Brifysgol wedi bod yn cynnal diwrnodau agored ar-lein yn ddiweddar, yn hytrach na'r drefn arferol o gynnal digwyddiadau ar y campws, ac mae wedi bod yn anfon diweddariad cyson at ddarpar fyfyrwyr a’r myfyrwyr fydd yn dychwelyd. Mae'r arolygon niferus sydd wedi'u cynnal gyda myfyrwyr yn dangos eu bod i gyd yn awyddus i fod ar y campws ar gyfer eu hastudiaethau, felly mae'r Brifysgol yn gweithio'n galed i alluogi hyn i ddigwydd tra'n cadw myfyrwyr, staff a'r gymuned leol yn ddiogel.
Mae’r gwaith o gynllunio ar gyfer mis Medi yn parhau, a bydd manylion pellach am hynny yn cael ei rannu maes o law.