亚洲色吧

Fy ngwlad:
Nyrs yn rhoi cefnogaeth i gleifion

Rhanddeiliaid ac Arbenigwyr trwy Brofiad

Lleisiau Mewn Addysg ac Ymchwil

Gwahodd y cyhoedd, rhanddeiliaid ac arbenigwyr trwy brofiad i ddylanwadu ar Addysg ac Ymchwil a鈥檜 llywio.

Sesiwn holi ac ateb

Sesiwn holi ac ateb rhwng:

Laura Davies, darpar nyrs iechyd meddwl, a David Phillips, sylfaenydd a chadeirydd Sefydliad Anna Phillips.

Cynhaliwyd y cyfweliad:

3 Mai, 2022.

1. Dywedwch wrthym am eich sefydliad.

Sefydlwyd Sefydliad Anna Phillips er cof am Anna Phillips, merch David, ac mae鈥檔 elusen gofrestredig. Amcan yr elusen yw helpu pobl sydd 芒 heriau iechyd meddwl cysylltiedig 芒 thrawma. Y tair ffordd y gwn芒nt hynny yw trwy gynnal gweithgareddau ym myd natur; cydweithio ag ymchwilwyr i ddeall yn well effaith/buddiannau鈥檙 amgylchedd/byd naturiol i bobl 芒 phrofiadau trawma a thrwy ymgyrchu i wella鈥檙 ddealltwriaeth o鈥檙 rhesymau dros hunan-niweidio/hunanladdiad a lleihau鈥檙 stigma sy鈥檔 gysylltiedig 芒 hyn.

2. Beth yw ethos y sefydliad?

Mae tri gwerth wrth wraidd y Sefydliad: tosturi, symlrwydd a chyfiawnder.
Mae tosturi yn gysylltiedig 芒 chariad a'r ffordd y mae pobl yn ymddwyn tuag at ei gilydd. Symlrwydd oherwydd nad yw cymhlethdod y byd heddiw bob amser am y gorau, a gall dychwelyd at ddilysrwydd a'r pethau syml fel bod ym myd natur fod yn arf pwerus.
Cyfiawnder i sicrhau bod pobl yn cael y gofal a鈥檙 gefnogaeth y maent yn eu haeddu yn enwedig ar 么l profiadau trawmatig. Cenhadaeth y Sefydliad yw creu byd lle gall pobl deimlo'n ddiogel a chael eu trin 芒 pharch - 'bod yn ddiogel yw bod yn rhydd'. Gall defnyddio byd natur i wneud hyn helpu rhywun i symud i ffwrdd o'r trawma y maent wedi'i brofi a chanolbwyntio ar les trwy fod mewn amgylchedd pur.

3. Ar ba brojectau ydych chi'n gweithio arnynt ar hyn o bryd / ar gyfer y dyfodol?

Y thema gyffredinol sy鈥檔 rhedeg drwy鈥檙 holl brojectau yw ceisio lleihau effaith trawma drwy fynd yn 么l at fyd natur. Bydd y Sefydliad yn gweithio ar iechyd, ymchwil a pholisi. Mae鈥檙 agwedd iechyd ar gael ar leoliad yn Nh欧 Anna, lle gellir cyfeirio pobl i gael mynediad i le diogel i weithio trwy eu trawma ac ailgysylltu 芒 byd natur. Diben yr ymchwil, fel y crybwyllwyd uchod, yw darparu tystiolaeth y gall bod ym myd natur fod o fudd enfawr wrth helpu rhywun i ymdopi 芒'u hiechyd meddwl sy'n gysylltiedig 芒 thrawma. Mae'r Sefydliad yn barod i gydweithredu a chymryd rhan mewn unrhyw ymchwil sy'n gysylltiedig 芒 gofal gwyrdd ac ecotherapi.

Mae鈥檙 Sefydliad hefyd yn ymgyrchu am newidiadau mewn deddfwriaeth i geisio lleihau effaith stigma ar y bobl hynny 鈥 nifer anghymesur ohonynt yn ferched 鈥 sy鈥檔 cael diagnosis o anhwylder personoliaeth ffiniol. Ar hyn o bryd mae鈥檙 unigolion hyn yn cael eu trin mewn ffordd ddiraddiol gan y system, yn enwedig o ran cael mynediad at wasanaethau therapiwtig. Mae angen ail-fframio cwestiynau sy'n canolbwyntio ar ofyn 鈥渂eth ddigwyddodd i chi鈥 nid 鈥渂eth sy'n bod arnoch chi鈥. Mae鈥檙 Sefydliad yn ymgyrchu i geisio cael Llywodraeth Cymru i newid eu safiad ar hyn a sicrhau bod digon o gefnogaeth ac ymwybyddiaeth o鈥檙 diagnosis hwn.

4.听 Pa neges fyddech chi'n ei rhoi i'r sawl sy'n darllen y wybodaeth hon?

Mae David yn gobeithio y byddai unrhyw un sy'n darllen y wybodaeth hon eisiau darganfod mwy am yr hyn y mae Sefydliad Anna Phillips yn ei wneud, ac eisiau cael gwell dealltwriaeth o'r hyn y mae am ei gyflawni. Hoffai i bawb wybod am y Sefydliad p'un a ydynt yn glinigwyr, yn aelodau o'r cyhoedd neu'n bobl a fyddai'n elwa'n uniongyrchol o'r gwaith y mae'r Sefydliad yn ei wneud. Mae'n arbennig o awyddus i'r bobl hynny a fyddai'n elwa o ecotherapi ddysgu mwy am y Sefydliad fel y gallant ailddarganfod eu llwybr eu hunain a dod yn awdur eu stori eu hunain.

5. Beth yw鈥檙 prif bwynt yr hoffech i fyfyrwyr wybod amdano?

Byddai croeso i fyfyrwyr ddod i'r gofod i helpu/gwirfoddoli. Mae David yn gobeithio rhyw ddiwrnod efallai y bydd cyfle i fyfyrwyr gael profiad o Sefydliad Anna Phillips o safbwynt lleoliad.

I gael rhagor o wybodaeth am Sefydliad Anna Phillips: