ÑÇÖÞÉ«°É

Fy ngwlad:

Pwyllgor Moeseg Academaidd Gwyddorau Meddygol ac Iechyd

Yr holl wybodaeth sydd ei hangen arnoch i gyflwyno eich cynnig i'r Pwyllgor Moeseg Academaidd Gwyddorau Gofal Iechyd a Meddygol.

Llywodraethu Ymchwil

Hyd yn oed os na fyddwch yn cyflwyno eich project am gymeradwyaeth foesegol mae’n ofynnol i chi hysbysu'r Ysgol Gwyddorau Iechyd a Meddygol bod yr ymchwil yn cael ei wneud a defnyddio un o'r dulliau a amlinellir isod.

Cofrestru/Adolygu Project Dadansoddi Data Eilaidd

Efallai y bydd rhaid cael cymeradwyaeth foesegol hefyd i brojectau sy'n cynnwys dadansoddi data eilaidd.Ìý  Lawrlwythwch y ffurflen gofrestru/adolygu project yma, a'i chyflwyno i gadeirydd y Pwyllgor Moeseg i'w hystyried, ynghyd â chopi o'ch cynnig ymchwil.   Ceir arweiniad pellach ar ddadansoddi data eilaidd  yn y Polisi Ymchwil.Ìý Gallwch gysylltu â chadeirydd y Pwyllgor Moeseg, trwy e-bost: d.seddon@bangor.ac.uk.

Cofrestru Projectau a'r Gofrestr Ymbelydredd ar gyfer Arbrofion sydd wedi eu lleoli yn yr Ystafell Belydr-x

Gallwch lawrlwytho'r ffurflen gofrestru projectau a'r gofrestr ymbelydredd yma.Ìý Llenwch y ffurflen a'i chyflwyno i'r Goruchwyliwr Diogelu Ymbelydredd i'w chymeradwyo. Yna dylid cyflwyno'r copi wedi ei lofnodi i gadeirydd Pwyllgor Moeseg y brifysgol.Ìý Gallwch gysylltu â chadeirydd y Pwyllgor Moeseg, trwy e-bost: d.seddon@bangor.ac.uk.Ìý

Adnoddau Defnyddiol

Canllawiau Prifysgol ÑÇÖÞÉ«°É

I weld Polisi Llywodraethu Ymchwil BCUHB a Gweithdrefnau Gweithredu Safonol, cysylltwch â;

Dr Huw Roberts huw.roberts@bangor.ac.uk

Canllawiau ar gyfer llenwi’r Ffurflen Cyflwyniad Electronig

Adnoddau ar gyfer Profion Clinigol

Canllawiau GIG

Pasbort Ymchwil

Cyfranogiad Cleifion a'r Cyhoedd

Cysylltwch â ni

Llywodraethu – Sadia Nafees s.nafees@bangor.ac.uk

Cynrychiolydd noddwyr ar gyfer treialon – Huw Roberts (huw.roberts@bangor.ac.uk)