Mae creu CV effeithiol yn gam hanfodol wrth chwilio am swydd. Mae'n bwysig bod eich CV yn glir ac yn hawdd i'w ddarllen, dim mwy na 1-2 dudalen o hyd ac yn berthnasol i'r swydd rydych chi'n gwneud cais amdani. Mae gennym lawer o gefnogaeth ar gael i'ch helpu i ddechrau arni.
Fel myfyriwr neu gyn-fyfyriwr Prifysgol ÑÇÖÞÉ«°É mae gennych fynediad unigryw i CareerSet, meddalwedd sy'n rhoi adborth ar unwaith ar eich CV ac awgrymiadau ar gyfer gwelliannau. Rydym yn argymell bod myfyrwyr yn defnyddio hwn fel eu cam cyntaf i greu CV o safon dda. Rydym hefyd yn cynnal gweithdai CV ymarferol mewn labordai cyfrifiadurol ar y campws yn ystod y flwyddyn academaidd, a gallwn gynnig Apwyntiadau Cyngor Gyrfaol ar gyfer adolygiadau CV terfynol.
Ìý
Ìý
Ìý
Ìý
Dylech bob amser anfon llythyr eglurhaol gyda'ch CV. Gwnewch yn siŵr eich bod yn gwybod beth yw’r gofynion hanfodol a dymunol ar gyfer y swydd yr ydych yn gwneud cais amdani, gan fod angen i chi roi enghreifftiau eich bod yn bodloni’r gofynion yma yn eich llythyr eglurhaol. Dylech hefyd ddangos eich brwdfrydedd dros y cyflogwr neu’r swydd yr ydych yn ymgeisio amdani – dywedwch wrthynt pam fod gennych ddiddordeb yn y rôl, neu beth sy’n eich denu i’r sefydliad.
P’un a ydych yn chwilio am waith rhan-amser lleol i gyd-fynd â’ch astudiaethau, neu swydd yn ystod y gwyliau dros yr haf, mae gan ein Hwb Cyflogadwyedd ddigon o awgrymiadau i’ch helpu i ddechrau arni – edrychwch ar ein taflen ‘Awgrymiadau ar gyfer dod o hyd i waith rhan-amser'. Rydym hefyd yn cynnal gweithdai rheolaidd ar sut i chwilio am swydd yn effeithiol, felly edrychwch ar ein hamserlen gweithdai hefyd.
Mae’n bwysig paratoi’n drylwyr ar gyfer pob rhan o’r broses ymgeisio, o anfon ffurflen gais neu CV i gyfweliadau neu ganolfannau asesu. Er bod llawer o fyfyrwyr yn poeni am sut i berfformio'n dda yn ystod cyfweliad, mae yna ychydig o gamau syml y gallwch eu dilyn a fydd yn rhoi'r hyder i chi lwyddo.
Oeddech chi'n gwybod, er enghraifft, y gallwch chi ragweld yn aml y math o gwestiynau y gallai cyflogwr eu gofyn i chi yn ystod eich cyfweliad? Maent yn aml yn seiliedig ar y gofynion hanfodol a dymunol a restrir yn yr hysbyseb wreiddiol.
Mae gan bob un o'n myfyrwyr a'n graddedigion fynediad i'n platfform unigryw Graduates First, lle gallwch chi ymarfer ystod eang o gwestiynau cyfweliad ac adolygu a derbyn adborth ar eich perfformiad. Mae'r ymarfer cyfweliad rhyngweithiol yn arbennig o ddefnyddiol ar gyfer cyfweliadau wedi'u recordio ymlaen llaw ac ar-lein.
Ìý
Ìý
Ìý
Mae’r Gwasanaeth Gyrfaoedd a Chyflogadwyedd hefyd yn cynnig pecyn cymorth i fyfyrwyr sy'n wynebu rhwystrau i brofiad gwaith. Gall rhwystrau ddeillio o nifer o wahanol ffactorau megis: caledi ariannol, anabledd, gwahaniaeth dysgu, iechyd meddwl a dyletswyddau gofalu.
Os hoffech chi gael gwybod mwy am y cymorth rydyn ni’n ei gynnig ar gyfer profiad gwaith, llenwch y a byddwn ni’n cysylltu â chi. Efallai y byddwch yn gymwys i gael cyllid i'ch helpu i gael mynediad at gyfleoedd profiad gwaith, er enghraifft cymorth ariannol ar gyfer cyrsiau hyfforddi neu gostau teithio, os nad ydynt yn gysylltiedig â lleoliadau gorfodol neu broffesiynol.
Ìý
Ìý