- Gosodwch gyllideb cyn mynd ati i ddechrau chwilio. Mae’r Uned Cefnogaeth Ariannol yn cynnig llawer o gyngor, gan gynnwys taflen gyllideb.
- I chwilio am dÅ·, ewch i wefan Prifysgol ÑÇÖÞÉ«°É. Mae pob un o'r landlordiaid cofrestredig wedi ymrwymo i amodau'r Swyddfa Tai Myfyrwyr.
- Wrth ddewis tŷ, ystyriwch a allwch ei fforddio, a dewch o hyd i’r dyddiadau y byddwch yn talu rhent. Ydyn nhw'n cyd-fynd â'ch benthyciad myfyriwr, er enghraifft? Weithiau, mae’r taliad rhent cyntaf yn ddyledus dros yr haf, felly efallai y bydd angen i chi baratoi ar gyfer hyn.
- Cymerwch amser i ddod i adnabod eich ffrindiau cyn penderfynu p'un ai i fyw gyda nhw ai peidio.
- Gwiriwch fod yr eiddo’n bodoli go iawn!
- Byddwch yn wyliadwrus o hysbysebion llety ar y cyfryngau cymdeithasol.
- Mae gan awgrymiadau defnyddiol o ran amddiffyn eich hun rhag twyll rhentu.
- Gallwch hefyd wirio bod eich landlord wedi cofrestru gyda .
- Byddem fel rheol yn eich cynghori i beidio â gwneud unrhyw daliadau nac arwyddo unrhyw gytundebau tenantiaeth hyd nes i chi weld yr eiddo a gwneud yn siŵr ei fod yn addas i'ch anghenion.
- Oherwydd bod contractau’n gyfreithiol-rwym, dim ond pan fyddwch yn siŵr y bydd angen y llety arnoch y dylech lofnodi contract. Darllenwch y contract yn ofalus, a chofiwch gael cip ar y ar ein gwefan Studentpad.
Ìý
- Faint yw'r blaendal, a phryd mae angen ei dalu? Mae myfyrwyr yn aml yn talu eu blaendal wrth lofnodi'r contract, a gall hynny fod sawl mis cyn symud i mewn. Efallai y bydd angen i chi dalu blaendal y flwyddyn nesaf cyn i chi dderbyn blaendal eleni yn ôl, felly efallai y bydd angen cyllidebu ar gyfer hyn.
- Sicrhewch fod eich landlord yn diogelu eich blaendal mewn cynllun blaendal tenantiaeth .
- Mae awgrymiadau ynghylch sut i gael eich blaendal yn ôl ar gael ar ein .
- Yn dibynnu ar eich contract, efallai y bydd angen i chi dalu biliau cyfleustodau. Hyd yn oed os ydynt wedi'u cynnwys yn y rhent, peidiwch ag anghofio gwirio a oes cap yn eich contract.
- Ystyriwch sut y gallech gyllidebu ar gyfer unrhyw gynnydd mewn prisiau ynni. Mae sawl ffordd o arbed arian ar eich biliau ynni – ystyriwch ddiffodd offer perthnasol yn llwyr, diffodd goleuadau, golchi ar dymheredd is, osgoi gorlenwi'r tegell. Mae gan yr mwy o syniadau ynghylch hyn, gan gynnwys . Gall Cyngor ar Bopeth hefyd eich helpu i .
- Mae myfyrwyr prifysgol llawn amser wedi'u heithrio rhag talu treth cyngor. Os oes angen, gallwch ofyn am dystysgrif cofrestru.
- Cofiwch wirio a oes angen arnoch, ac ystyriwch yswiriant cynnwys hefyd.
Ìý
Cysylltwch â'r Swyddfa Tai Myfyrwyr os oes angen arweiniad pellach arnoch, a chymerwch gip ar y cyngor a'r dolenni defnyddiol ar ein gwefan