Ynglŷn â’r Cwrs Yma
Wrth wraidd y cwrs hwn mae plant a phobl ifanc yr 21ain ganrif fel actorion cymdeithasol: sydd â rhywbeth i'w ddweud, gyda gwytnwch, gyda bywydau cymhleth ac sy'n brofiadol yng nghanol yr holl newidiadau diwylliannol, cymdeithasol, addysgol a gwleidyddol sy'n digwydd yn y byd o'u cwmpas. Mae'n gallu arwain at amrywiaeth eang o yrfaoedd yn cynnwys dysgu, gwaith cymdeithasol, cwnsela a'r gyfraith lle gallwch wneud gwahaniaeth gwirioneddol i fywydau pobl ifanc.
Mae'r radd ddeinamig, amlddisgyblaethol hon yn cynnig cyfle i chi astudio ystod amrywiol o bynciau sy'n ymwneud â phrofiadau byw plant a phobl ifanc yn y gymdeithas gyfoes, gan eich cynorthwyo i ddilyn gyrfaoedd mewn amrywiaeth o feysydd gan gynnwys addysgu, gwaith cymdeithasol, cwnsela a'r gyfraith. Mae gan ein tîm addysgu arbenigedd a chefndiroedd mewn seicoleg, cymdeithaseg, hawliau plant, ieithyddiaeth, addysg, fforenseg, iechyd a lles. Mae'r amgylchedd dysgu cyfoethog ac amrywiol hwn yn nodwedd unigryw o'n cwrs, ac yn rhoi'r cyfle i chi astudio plentyndod a phobl ifanc o nifer o safbwyntiau.
Mae'r cwrs 3 blynedd wedi'i gynllunio o gwmpas tri llwybr, gyda modiwlau'n ymwneud â safbwyntiau seicolegol, cymdeithasegol ac addysgol ar faterion sy'n berthnasol i blentyndod a phobl ifanc mewn theori ac yn ymarferol. Mae'r flwyddyn gyntaf wedi'i chynllunio i roi sylfaen gref i chi ym mhob un o'r tri maes. Mae'r ail flwyddyn yn parhau i adeiladu ar y llinynnau hyn ac i ddatblygu ymarfer effeithiol drwy weithio gyda chyflogwyr yn y meysydd gwaith er mwyn datblygu gwybodaeth ymarferol a gwneud cysylltiadau pwysig â darpar gyflogwyr a darparwyr gwasanaethau. Mae hyn yn arwain at flwyddyn tri, lle gallwch astudio o leiaf bedwar pwnc a ddewisir o'r ystod o fodiwlau sydd ar gael ar hyn o bryd ar draws y llwybrau astudio. Yn y flwyddyn olaf hon byddwch hefyd yn cwblhau project ymchwil pwysig sy'n eich galluogi i ddyfnhau'ch arbenigedd a'ch gwybodaeth yn eich maes dewisol. Mae'r cwrs hwn hefyd yn cynnwys siaradwyr gwadd, cyfleoedd i astudio dramor yn ogystal â chyfleoedd i gyflwyno mewn cynadleddau, gan eich helpu i ddatblygu'ch sgiliau academaidd a chyflogadwyedd. Bob blwyddyn cewch gyfle i fynd ar leoliadau gwaith i ddatblygu eich dealltwriaeth o agweddau ar anghenion a datblygiad plant ac i wneud ymchwil i faterion ac ymarfer cyfredol.
Nod y radd hon mewn Astudiaethau Plentyndod ac Ieuenctid yw rhoi sylw i’r galw cyfredol am arbenigwyr cymwysedig a all weithio gyda phlant, pobl ifanc a’u teuluoedd mewn ystod o gyd-destunau, yn y gymuned ac mewn sefydliadau. Yn y rhaglen ceir cyfuniad o sylfaen academaidd gadarn ynghyd â dimensiwn ymarferol a gweithredol a fydd yn cynhyrchu gweithwyr proffesiynol a all ymdopi a sialensiau cymdeithas gyfoes a phrysur mewn gwlad ddwyieithog.
Cwrs cyfrwng Saesneg yw hwn. Mae gan y cwrs cyfrwng Cymraeg god UCAS gwahanol.
Pam dewis ÑÇÖÞÉ«°É?
- Lleoliadau gwaith i ddatblygu eich dealltwriaeth o agweddau ar anghenion a datblygiad plant
- Mae gennym arbenigedd proffesiynol ac academaidd mewn amrywiol feysydd megis hawliau plant, cyfraith y teulu, dwyieithrwydd, addysg, gofal cymdeithasol, iechyd meddwl, llythrennedd, anghenion dysgu ychwanegol a chynhwysiant.
- Gallwch astudio eich cwrs cyfan neu ran ohono trwy gyfrwng y Gymraeg.
Opsiynau Cwrs Ychwanegol
Mae'r cwrs hwn ar gael fel opsiwn 'gyda Blwyddyn ar Leoliad' lle byddwch yn astudio am flwyddyn ychwanegol. Mae'r myfyrwyr yn gwneud y Flwyddyn ar Leoliad ar ddiwedd yr ail flwyddyn ac maent i ffwrdd o'r Brifysgol am y flwyddyn academaidd gyfan.
Mae Blwyddyn ar Leoliad yn gyfle gwych i chi ehangu eich gorwelion a datblygu sgiliau a chysylltiadau hynod ddefnyddiol trwy weithio gyda sefydliad sy'n berthnasol i bwnc eich gradd. Y cyfnod lleiaf ar leoliad (mewn un lleoliad neu fwy nag un lleoliad) yw saith mis calendr; fel rheol mae myfyrwyr yn treulio 10-12 mis gyda darparwr lleoliad. Byddwch fel rheol yn dechrau rywbryd yn y cyfnod rhwng mis Mehefin a mis Medi yn eich ail flwyddyn ac yn gorffen rhwng mis Mehefin a mis Medi y flwyddyn ganlynol. Gall y lleoliad fod yn y Deyrnas Unedig neu dramor a byddwch yn gweithio gyda'r staff i gynllunio a chwblhau trefniadau eich lleoliad.
Bydd disgwyl i chi ddod o hyd i leoliad sy'n addas i'ch gradd, a'i drefnu, ac mi gewch chi gefnogaeth lawn gan aelod pwrpasol o staff eich Ysgol academaidd a Gwasanaeth Sgiliau a Chyflogadwyedd y Brifysgol.
Bydd gennych y cyfle i ystyried yr opsiwn hwn yn llawn ar ôl cychwyn eich cwrs ym Mangor a gallwch wneud cais i drosglwyddo i'r opsiwn hwn ar yr adeg priodol. Darllenwch fwy am y cyfleoedd profiad gwaith sydd ar gael neu, os oes gennych unrhyw ymholiad, mae croeso i chi gysylltu â ni.
Mae'r cwrs hwn ar gael fel opsiwn 'gyda Blwyddyn Profiad Rhyngwladol' lle byddwch yn astudio neu'n gweithio am flwyddyn yn ychwanegol. Bydd ‘gyda Phrofiad Rhyngwladol’ yn cael ei ychwanegu at deitl eich gradd pan fyddwch yn graddio.Â
Mae astudio dramor yn gyfle gwych i weld ffordd wahanol o fyw, i ddysgu am ddiwylliannau newydd ac ehangu eich gorwelion. Gyda phrofiad rhyngwladol o’r fath, rydych yn gwneud byd o les i’ch gyrfa. Mae yna ddewis eang o leoliadau a phrifysgolion sy'n bartneriaid. Os ydych yn bwriadu astudio mewn gwlad lle nad yw’r Saesneg yn cael ei siarad fel iaith frodorol, efallai y bydd cefnogaeth iaith ychwanegol ar gael i chi ym Mangor neu yn y brifysgol yn y wlad arall i wella'ch sgililau iaith.
Bydd gennych y cyfle i ystyried yr opsiwn hwn yn llawn ar unrhyw adeg yn ystod eich gradd ym Mangor a gallwch wneud cais. Os oes gennych unrhyw ymholiad yn y cyfamser, mae croeso i chi gysylltu â ni.
Darllenwch fwy am y rhaglen Blwyddyn Profiad Rhyngwladol a chymrwch olwg ar yr opsiynau astudio neu weithio dramor sydd ar gael yn adran Cyfnewidiadau Myfyrwyr o’r wefan.
Cynnwys y Cwrs
Byddwch yn dysgu trwy gyfuniad o ddarlithoedd, seminarau, adnoddau digidol a gweithdai ymarferol. Mae darlithoedd a seminarau yn gwneud defnydd creadigol o amrywiaeth o wahanol adnoddau digidol a chyfryngau er mwyn eich helpu i gynllunio, recordio a hybu eich cynnydd. Â Elfen annatod o'r rhaglen yw'r amrywiaeth o siaradwyr gwadd ac ymweliadau addysgol sy'n cyfoethogi ac yn atgyfnerthu eich dysgu.
Mae’r rhan fwyaf o’r modiwlau’n cael eu cynnig trwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg. Gallwch ddewis cael tiwtor personol sy'n siarad Cymraeg a gwneud aseiniadau trwy gyfrwng y Gymraeg. Mae'r asesiadau'n amrywio o fodiwl i fodiwl ac yn cynnwys traethodau, cyflwyniadau, gwneud ffilmiau, arholiadau neu brofion gyda chwestiynau aml-ddewis.
Yn eich trydedd flwyddyn, byddwch yn gwneud project ymchwil o bwys mewn maes o'ch dewis chi. Yn dibynnu ar eich maes ymchwil, efallai y byddwch chi'n ymwneud â phrojectau mewn ysgol, projectau mewn ysgol feithrin neu brojectau gydag ymarferwyr yn y diwydiant plentyndod ac ieuenctid. Bydd eich project yn cael ei oruchwylio yn unigol gan un o'n harbenigwyr, gan roi'r cyfle i chi wella'ch gwybodaeth a'ch sgiliau a datblygu dealltwriaeth fanwl o'r maes.
Beth fyddwch yn ei astudio ar y cwrs hwn?
Mae'r flwyddyn gyntaf yn darparu sylfaen mewn meysydd allweddol megis sgiliau academaidd a phroffesiynol, safbwyntiau cymdeithasol-ddiwylliannol, hanesyddol a seicolegol ar blentyndod, ac yn archwilio pynciau megis chwarae, hawliau ac amrywiaeth. Mae'r ail flwyddyn yn darparu sylfaen bellach mewn methodoleg ymchwil, safbwyntiau damcaniaethol ar draws meysydd megis iechyd meddwl, llythrennedd, plentyndod ledled y byd a chynhwysiant. Yn eich blwyddyn olaf cewch gefnogaeth i atgyfnerthu a mireinio eich gwybodaeth drwy wneud traethawd ymchwil, ochr yn ochr â modiwlau arbenigol sy'n edrych ar bynciau megis plant a throseddu, rhyw a hil, teuluoedd a chamddefnyddio sylweddau, plant a phroblemau cyfathrebu, ac amlieithrwydd. Byddwch hefyd yn gweithio ochr yn ochr â chyflogwyr a darparwyr gwasanaethau ym maes gwasanaethau plentyndod ac ieuenctid i feithrin profiad o arferion gwaith ac i wneud cysylltiadau pwysig.
Mae pob modiwl yn y flwyddyn 1af yn orfodol; ym mlwyddyn 2, a 3, yn dibynnu ar yr hyn sydd ar gael, bydd gennych ddewis o fodiwlau yn ychwanegol at y modiwlau Ymchwil craidd. Bob blwyddyn byddwch yn astudio cyfanswm o 120 credyd, gan roi ehangder a dyfnder gwybodaeth a dealltwriaeth i chi erbyn i chi raddio.
Eich Ymchwil
Mae ymchwil yn elfen bwysig o'r cwrs hwn. Fel rhan o'r modiwlau Dulliau Ymchwil, byddwch yn cymryd rhan mewn sesiynau ymarferol lle byddwch yn dysgu sut i gynllunio astudiaethau, cynnal eich arbrofion eich hun, casglu a dadansoddi data ac adrodd ar eich canfyddiadau. Bydd y sgiliau hyn yn rhoi sylfaen gadarn i chi yn barod ar gyfer blwyddyn 3 pan fyddwch yn gwneud eich ymchwil eich hun. Â
Modiwlau ar gyfer y flwyddyn academaidd gyfredol
Mae’r rhestrau modiwlau ar gyfer eich arwain yn unig ac fe allant newid. Cymerwch olwg ar yr hyn y mae ein myfyrwyr yn ei astudio ar hyn o bryd ar tudalen Modiwlau Astudiaethau Plentyndod ac Ieuenctid (cwrs cyfrwng Saesneg) BA (Anrh).
Mae cynnwys y cwrs wedi’i nodi i’ch arwain yn unig ac fe all newid.
Cyfleusterau
- Gweithdai ar faterion mor amrywiol â llythrennedd plant, plant a thechnoleg a hawliau plant gyda chefnogaeth arbenigwyr yn y meysydd.
- Defnydd o gyfryngau digidol ac adnoddau i addysgu, i gefnogi ymchwil, i helpu i gofnodi cynnydd ac i rannu gwaith.
- Cymryd rhan mewn cyfarfodydd a chynadleddau ar amrywiaeth o faterion yn ymwneud â'r cwrs, gan gynnwys lleisiau plant a chyfraniad plentyndod ac ieuenctid at brosesau gwneud penderfyniadau.
- Cyflwyniadau rheolaidd gan arbenigwyr yn y maes mewn meysydd sy'n gysylltiedig â'r gwahanol lwybrau plentyndod ac ieuenctid.
- Ymweliadau addysgol â'r ardal leol, â lleoedd o arwyddocâd cenedlaethol ac, mewn rhai achosion, â lleoliadau rhyngwladol.
- Cyfle i weithio ochr yn ochr â chyflogwyr a darparwyr gwasanaeth mewn meysydd sy'n ymwneud â phlentyndod ac ieuenctid, gan gynnwys addysg, gwasanaethau gofal ac asiantaethau sy'n cefnogi darpariaeth i bobl ifanc.
- Cyswllt a chefnogaeth reolaidd â sefydliadau sy'n bwysig i'r maes, yn cynnwys ysgolion, sefydliadau gofal cymdeithasol, sefydliadau hawliau plant. Cynnal cyswllt â'r sefydliadau hyn i helpu i ddatblygu syniadau a llwybrau sy'n gysylltiedig â dyheadau gyrfa unigolion.
Cyfleusterau Cyffredinol y Brifysgol
Gwasanaeth Llyfrgell ac Archifau
Mae ein pedair llyfrgell yn cynnig amrywiaeth o amgylcheddau astudio braf gan gynnwys mannau gweithio cydweithredol, ystafelloedd cyfarfod a mannau tawel i astudio.
Mae yma gasgliad mawr o lyfrau a chylchgronau, ac mae llawer o'r cylchgronau ar gael ar gyfrifiadur mewn fformat testun llawn.
Mae gennym hefyd un o’r archifau prifysgol mwyaf nid yn unig yng Nghymru ond hefyd drwy holl wledydd Prydain. Yn gysylltiedig â'r archifau mae casgliadau arbennig o lyfrau printiedig prin.
Adnoddau Dysgu
Mae yma ddewis eang o adnoddau dysgu, sy’n cael eu cefnogi gan staff profiadol, i’ch helpu i astudio.Â
Mae gwasanaethau TG y Brifysgol yn darparu cyfleusterau a gwasanaethau cyfrifiaduro, cyfryngau a reprograffeg sy’n cynnwys:Â
- Dros 1,150 o gyfrifiaduron i fyfyrwyr, gyda rhai ystafelloedd cyfrifiaduron ar agor 24 awr bob dydd
- Blackboard, rhith-amgylchedd dysgu masnachol, sy’n galluogi i ddeunydd dysgu fod ar gael ar-lein.
Costau'r Cwrs
Costau Cyffredinol yn y Brifysgol
Myfyrwyr Cartref (DU)
- Cost cwrs israddedig llawn-amser yw £9,250 y flwyddyn (2025/26).
- Y ffi ar gyfer pob blwyddyn dramor integredig yw £1,385 (2025/26).
- Y ffi ar gyfer blwyddyn mewn diwydiant integredig fel rhan o'r cwrs yw £1,850 (2025/26).
Mwy o wybodaeth am ffioedd a chyllid i fyfyrwyr Cartref (DU).
Myfyrwyr Rhyngwladol (yn cynnwys yr UE)
Costau Ychwanegol
Mae yna hefyd rai costau ychwanegol cyffredin sy'n debygol o godi i fyfyrwyr ar bob cwrs, er enghraifft:
- Os dewiswch chi astudio dramor neu gymryd y Flwyddyn Profiad Rhyngwladol fel rhan o'ch cwrs.
- Os ydych chi'n mynd i'ch Seremoni Raddio, bydd cost llogi gŵn (£25- £75) a chost am docynnau i westeion ychwanegol (tua £12 yr un).
Costau ychwanegol cwrs-benodol
Yn dibynnu ar y cwrs rydych chi'n ei astudio, efallai y bydd costau ychwanegol cwrs-benodol y bydd gofyn i chi eu talu. Gellir rhoi'r costau hyn mewn tri chategori:
- Costau Gorfodol: mae'r rhain yn gysylltiedig â modiwl craidd neu orfodol penodol y mae'n ofynnol i chi ei gwblhau i gwblhau eich cymhwyster e.e. teithiau maes gorfodol, gwisgoedd i fyfyrwyr ar leoliad, gwiriad gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS).
- Costau Angenrheidiol: efallai na fydd pob myfyriwr yn cael y costau hyn, a bydd yn amrywio yn dibynnu ar y cwrs e.e. aelodaeth o gorff proffesiynol, teithio i leoliadau, meddalwedd arbenigol, cyfarpar diogelu personol.
- Costau Dewisol: mae'r rhain yn dibynnu ar eich dewis o fodiwlau neu weithgaredd, ac fe'u dangosir er mwyn rhoi syniad ichi o'r costau dewisol a allai godi i sicrhau bod cymaint o wybodaeth â phosibl ar gael i chi cyn i chi wneud eich dewis. Gall y rhain gynnwys digwyddiadau graddio ar gyfer eich cwrs, teithiau maes dewisol, tripiau Wythnos Groeso.
Gofynion Mynediad
Mae'r cynigion yn seiliedig ar dariffau, 96-128 pwynt tariff o gymwysterau Lefel 3* e.e.:
- Lefel A:Â Ni dderbynnir Astudiaethau Cyffredinol a Sgiliau Allweddol fel rheol
- Diploma Estynedig Cenedlaethol BTEC: MMM - DDM
- Diploma Technegol Estynedig Caergrawnt: MMM - DDM
- Diploma Estynedig Technegol Uwch City & Guilds (1080): MMM - DDM
- Diploma Bagloriaeth Ryngwladol
- Diploma Mynediad i Addysg Uwch
- Diploma Estynedig Lefel 3 NCFE CACHE
- Tystysgrif Ymadael Iwerddon: 96-128 pwynt  o fan leiaf 4 Pwnc Uwch
- Bagloriaeth Cymru
Mae'n ofynnol i ymgeiswyr gael gwiriad manwl gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd ar gyfer y gweithlu plant gan gynnwys gwiriad o'r rhestr gwahardd rhag gweithio'n agos â phlant.  Mae'n ofynnol hefyd i ymgeiswyr sydd wedi byw neu weithio y tu allan i'r DU gael gwiriad cofnodion troseddol yn eu gwledydd preswyl.
Ymgeiswyr rhyngwladol: derbynnir cymwysterau gadael ysgol a diplomâu colegau o wledydd ledled y byd (yn amodol ar ofynion iaith Saesneg sylfaenol). Cewch ragor o wybodaeth yma.
Rydym hefyd yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr hÅ·n.
*I gael rhestr lawn o gymwysterau Lefel 3 a dderbynnir, ewch i .
Mae'r cynigion yn seiliedig ar dariffau, 96-128 pwynt tariff o gymwysterau Lefel 3* e.e.:
- Lefel A
- Diploma Estynedig Cenedlaethol BTEC: MMM - DDM
- Diploma Technegol Estynedig Caergrawnt: MMM - DDM
- Diploma Estynedig Technegol Uwch City & Guilds (1080): MMM - DDM
- Diploma Bagloriaeth Ryngwladol
- Diploma Mynediad i Addysg Uwch
- Diploma Estynedig Lefel 3 NCFE CACHE
- Tystysgrif Ymadael Iwerddon: 96-128 pwynt  o fan leiaf 4 Pwnc Uwch
- Bagloriaeth Cymru
Mae'n ofynnol i ymgeiswyr gael gwiriad manwl gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd ar gyfer y gweithlu plant gan gynnwys gwiriad o'r rhestr gwahardd rhag gweithio'n agos â phlant.  Mae'n ofynnol hefyd i ymgeiswyr sydd wedi byw neu weithio y tu allan i'r DU gael gwiriad cofnodion troseddol yn eu gwledydd preswyl.
Ymgeiswyr rhyngwladol: derbynnir cymwysterau gadael ysgol a diplomâu colegau o wledydd ledled y byd (yn amodol ar ofynion iaith Saesneg sylfaenol). Cewch ragor o wybodaeth yma.
Rydym hefyd yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr hÅ·n.
*I gael rhestr lawn o gymwysterau Lefel 3 a dderbynnir, ewch i .
Gofynion Cyffredinol y Brifysgol
I astudio cwrs gradd mae’n rhaid i chi gael isafswm o bwyntiau tariff UCAS. Am eglurhad manwl o bwyntiau tariff UCAS, ewch i .
Rydym yn derbyn myfyrwyr â phob math o gymwysterau a chefndiroedd ac yn ystyried pob cais yn unigol.
Mae’n rhaid i bob ymgeisydd gael sgiliau sylfaenol da ond mae’r Brifysgol hefyd yn gweld pwysigrwydd sgiliau cyfathrebu a thechnoleg gwybodaeth.Â
Mae’n bolisi gan y Brifysgol i ystyried ceisiadau gan ddarpar fyfyrwyr anabl yn yr un modd â; phob cais arall.
Rydym yn ystyried ceisiadau gan fyfyrwyr hÅ·n sy’n medru dangos fod ganddynt y gallu a’r ymrwymiad i astudio rhaglen prifysgol. Bob blwyddyn rydym yn cofrestru nifer sylweddol o fyfyrwyr hÅ·n. Am fwy o wybodaeth am astudio fel myfyriwr aeddfed, ewch i adran Astudio ym Mangor.ÌýÌý
Gyrfaoedd
Mae cynllun amlddisgyblaethol y radd yn paratoi myfyrwyr at ystod o ddewisiadau gyrfa ym myd addysg, seicoleg a chymdeithaseg a phroffesiynau cysylltiedig, yn y sector cyhoeddus a’r sector preifat, gan gynnwys iechyd, gofal cymdeithasol, gwaith ieuenctid a gwaith cymunedol. Ar y llaw arall, mae rhai myfyrwyr yn parhau â’u hastudiaethau ar raglen Meistr neu’n gwneud cais am le ar gwrs TAR Cynradd. Os penderfynwch wneud cais am gwrs TAR Cynradd ym Mangor, cynigir cyfweliad i chi os byddwch yn diwallu’r gofynion mynediad.
Mae'r radd BA Astudiaethau Plentyndod ac Ieuenctid hon yn addas i fyfyrwyr sydd am ddilyn gyrfa sy'n ymwneud ag unrhyw un o'r tri phrif lwybr sy'n sail i'r cwrs: Addysg, Seicoleg a Gwyddorau Cymdeithas. Gan fod y cwrs hwn yn cynnwys safbwyntiau o'r tri maes, mae'n rhoi cyfle i'r myfyrwyr ddarganfod eu prif faes diddordeb, sydd wedyn yn arwain at amrywiol broffesiynau yn y maes hwnnw. Mae dyfnder y wybodaeth a geir ar ein cwrs yn darparu sylfaen gref iawn i fynd ymlaen i arbenigo mewn gwahanol feysydd. Mae'r rheiny’n cynnwys, er enghraifft, yrfaoedd mewn gwasanaethau plant, rheoli, addysgu, gwaith cymdeithasol, cwnsela, therapïau a'r gyfraith.
Mae cyflogadwyedd yn thema allweddol yn y rhaglen Plentyndod a Phobl Ifanc, ac rydym wedi cynnwys nifer fawr o gyfleoedd yn ein gradd i sicrhau bod gan ein graddedigion CV cryf. Er enghraifft, rhoddir cyfle i'r myfyrwyr gofrestru ar gwrs Makaton, dod yn llysgenhadon ar gyfer gwahanol elusennau a chymryd rhan mewn gwaith gwirfoddol. Mae llawer o'n myfyrwyr wedi creu cymaint o argraff ar leoliad nes cael cynnig gwaith ar ôl iddynt orffen eu gradd.
Cyfleoedd ym Mangor
Mae Gwasanaeth Sgiliau a Chyflogadwyedd y Brifysgol yn cynnig amryw o adnoddau i’ch helpu i gyflawni eich amcanion ar ôl graddio.
Rhaglen Interniaeth Prifysgol ÑÇÖÞÉ«°É
Mae Prifysgol ÑÇÖÞÉ«°É yn cynnal cynllun interniaeth â thâl yn adrannau academaidd a gwasanaethau’r Brifysgol.
Gwirfoddoli
Mae gwirfoddoli yn ehangu eich profiadau ac yn gwella eich cyflogadwyedd. Cewch fwy o wybodaeth am wirfoddoli ar wefan .
Gweithio tra'n astudio
Mae TARGETconnect yn hysbysebu swyddi lleol, cenedlaethol a rhyngwladol i raddedigion, cyfleodd profiad gwaith ac interniaethau a chyfleon gwirfoddol.
Adroddiad Cyflawniad Addysg Uwch (HEAR)
Ceir pob myfyriwr sy’n graddio adroddiad terfynol HEAR. Mae’r adroddiad yn rhestru holl gyflawniadau academaidd ac allgyrsiol fel bod darpar gyflogwyr yn ymwybodol o’r sgiliau ychwanegol rydych wedi eu hennill tra yn y Brifysgol.