Ynglŷn â’r Cwrs Yma
Mae’r BA Drama, Theatr a Pherfformio yn gwrs cyfoes ac arloesol. Bydd yn meithrin eich creadigrwydd, eich dychymyg a’ch hyder ar gyfer twf y dyfodol yn sector y celfyddydau a diwylliant.
Bydd hyfforddiant amrywiol mewn perfformio, ysgrifennu dramâu, cyfarwyddo, cynhyrchu, y theatr gerdd, a datblygiad yn y theatr dechnegol, y celfyddydau at iechyd a llesiant a chreadigrwydd mewn addysg. Byddwn yn eich cyflwyno i astudiaethau amrywiol o theori ac ymarfer.Â
Rydym yn cydweithio â staff proffesiynol yng Nghanolfan Celfyddydau ac Arloesi’r Brifysgol, Pontio, sy’n gartref i gyfleusterau o’r radd flaenaf. Mae gennym hefyd adran cerdd, drama a pherfformio gwerth £2 filiwn sydd newydd ei hadnewyddu.
Mae ymarfer proffesiynol, profiad gwaith a chyfraniad diwydiant yn rhan ganolog o’r cwrs, er mwyn sicrhau y byddwch un cam ar y blaen gyda'ch sgiliau cyflogadwyedd ar ôl graddio.
Pam dewis Prifysgol ÑÇÖÞÉ«°É ar gyfer y cwrs?
- Llwybr creadigol mewn cyfarwyddo, actio, dyfeisio, y theatr gerdd, ysgrifennu dramâu a’r theatr dechnegol.
- Mae'r cwrs hefyd yn cynnig astudiaethauau mewn meysydd ymarfer cysylltiedig ym maes ffilm, y cyfryngau a newyddiaduraeth, radio, cerddoriaeth, seicoleg, addysg a rheolaeth busnes.
- Bydd Canolfan Celfyddydau ac Arloesi’r Brifysgol, Pontio, ar eich trothwy – mae’n gartref i theatr 450 sedd a theatr stiwdio 250 sedd, BLWCH gwyn technegol ar gyfer arbrofi digidol a thechnegwyr proffesiynol mewnol, gweinyddwyr artistig a rhaglen ieuenctid gymunedol .
- Mae gan y Brifysgol 5 o gymdeithasau drama poblogaidd iawn sy'n llwyfannu cynyrchiadau mewn testun clasurol, dramâu cyfoes, theatr gerddorol a theatr Gymraeg yn rheolaidd. Mae hefyd nifer o gymdeithasau perfformio cerddoriaeth, cymdeithas ffilm a chymdeithas ddawns, syrcas ac opera.
Opsiynau Cwrs Ychwanegol
Mae'r cwrs hwn ar gael fel opsiwn 'gyda Blwyddyn ar Leoliad' lle byddwch yn astudio am flwyddyn ychwanegol. Mae'r myfyrwyr yn gwneud y Flwyddyn ar Leoliad ar ddiwedd yr ail flwyddyn ac maent i ffwrdd o'r Brifysgol am y flwyddyn academaidd gyfan.
Mae Blwyddyn ar Leoliad yn gyfle gwych i chi ehangu eich gorwelion a datblygu sgiliau a chysylltiadau hynod ddefnyddiol trwy weithio gyda sefydliad sy'n berthnasol i bwnc eich gradd. Y cyfnod lleiaf ar leoliad (mewn un lleoliad neu fwy nag un lleoliad) yw saith mis calendr; fel rheol mae myfyrwyr yn treulio 10-12 mis gyda darparwr lleoliad. Byddwch fel rheol yn dechrau rywbryd yn y cyfnod rhwng mis Mehefin a mis Medi yn eich ail flwyddyn ac yn gorffen rhwng mis Mehefin a mis Medi y flwyddyn ganlynol. Gall y lleoliad fod yn y Deyrnas Unedig neu dramor a byddwch yn gweithio gyda'r staff i gynllunio a chwblhau trefniadau eich lleoliad.
Bydd disgwyl i chi ddod o hyd i leoliad sy'n addas i'ch gradd, a'i drefnu, ac mi gewch chi gefnogaeth lawn gan aelod pwrpasol o staff eich Ysgol academaidd a Gwasanaeth Sgiliau a Chyflogadwyedd y Brifysgol.
Bydd gennych y cyfle i ystyried yr opsiwn hwn yn llawn ar ôl cychwyn eich cwrs ym Mangor a gallwch wneud cais i drosglwyddo i'r opsiwn hwn ar yr adeg priodol. Darllenwch fwy am y cyfleoedd profiad gwaith sydd ar gael neu, os oes gennych unrhyw ymholiad, mae croeso i chi gysylltu â ni.
Mae'r cwrs hwn ar gael fel opsiwn 'gyda Blwyddyn Profiad Rhyngwladol' lle byddwch yn astudio neu'n gweithio am flwyddyn yn ychwanegol. Bydd ‘gyda Phrofiad Rhyngwladol’ yn cael ei ychwanegu at deitl eich gradd pan fyddwch yn graddio.Â
Mae astudio dramor yn gyfle gwych i weld ffordd wahanol o fyw, i ddysgu am ddiwylliannau newydd ac ehangu eich gorwelion. Gyda phrofiad rhyngwladol o’r fath, rydych yn gwneud byd o les i’ch gyrfa. Mae yna ddewis eang o leoliadau a phrifysgolion sy'n bartneriaid. Os ydych yn bwriadu astudio mewn gwlad lle nad yw’r Saesneg yn cael ei siarad fel iaith frodorol, efallai y bydd cefnogaeth iaith ychwanegol ar gael i chi ym Mangor neu yn y brifysgol yn y wlad arall i wella'ch sgililau iaith.
Bydd gennych y cyfle i ystyried yr opsiwn hwn yn llawn ar unrhyw adeg yn ystod eich gradd ym Mangor a gallwch wneud cais. Os oes gennych unrhyw ymholiad yn y cyfamser, mae croeso i chi gysylltu â ni.
Darllenwch fwy am y rhaglen Blwyddyn Profiad Rhyngwladol a chymrwch olwg ar yr opsiynau astudio neu weithio dramor sydd ar gael yn adran Cyfnewidiadau Myfyrwyr o’r wefan.
Cynnwys y Cwrs
Byddwch yn mynychu darlithoedd, seminarau, tiwtorialau, gweithdai a arweinir gan ymarfer, dosbarthiadau meistr ac ymarferion. Cyflwynir perfformiadau unigol a grŵp hefyd.
Byddwch yn dysgu gan weithwyr proffesiynol - mae ymweliadau â pherfformiadau, siaradwyr ac ymarferwyr gwadd proffesiynol yn dod i'n gweithdai i rannu eu profiadau. Cynhelir digwyddiadau Labordy Perfformio mewn ymarfer technegol a pherfformio i annog pawb i arbrofi ac arloesi mwy yn y ffordd yr ydym yn gwneud gwaith byw a gweithio ar draws meysydd pwnc.
Mae profiad gwaith dewisol yn rhoi'r cyfle i chi ennill profiad bywyd go iawn a dealltwriaeth o'r math o lwybr gyrfaol y gallech ei ddilyn yn y dyfodol.
Byddwch yn dysgu gyda’ch gilydd, mewn grwpiau bach a hefyd un i un gyda'ch tiwtor.
O ran asesiadau, mae pob modiwl yn cynnwys casgliad o waith cwrs. Nid oes arholiadau ysgrifenedig yn y maes pwnc. Gan ddibynnu pa fodiwlau a ddewiswch, dyma’r math o asesiadau y gallech ddod ar eu traws: portffolau, dyluniadau technegol, perfformiadau gosodwaith, cynyrchiadau, ymarferion dan gyfarwyddyd, testun chwarae, adroddiadau profiad gwaith, ceisiadau am gyllid, cyflwyniadau marchnata, traethodau, perfformiadau unigol ac adolygiadau perfformiad.
Gwyddom nad yw pawb yn dymuno ‘actio’ wrth ddewis astudio Drama, ac rydym yn hyblyg yn y dull hwn o ddatblygu cyfarwyddwyr, ysgrifenwyr, technegwyr o fewn y rhaglen ddrama hefyd.
O ran y dulliau addysgu a’r asesu sy’n gysylltiedig â’r modiwlau dewisol mewn addysg, seicoleg neu fusnes, cynhelir darlithoedd a seminarau pellach yn y meysydd astudio hynny a cheir rhagor o wybodaeth am ddulliau asesu meysydd pwnc ategol yn rhestr gynnwys y modiwlau ar gyfer pob blwyddyn academaidd o astudio.
Beth fyddwch chi’n ei astudio ar y cwrs yma?
Nod y BA Drama, Theatr a Pherfformio hwn yw nodi gwerth y celfyddydau yn y gymdeithas sydd ohoni a sut y gallwn gymhwyso’r sgiliau hynny i’r sector creadigol ehangach. Cewch eich cyflwyno i hyfforddiant sy’n seiliedig ar berfformio mewn actio, dyfeisio, cyfarwyddo, ysgrifennu dramâu, y theatr dechnegol a’r theatr gerdd ac amryw o feysydd astudio dewisol mewn addysg, rheoli busnes a marchnata, seicoleg, ffilm, y cyfryngau a newyddiaduraeth. Mi wnaiff hynny sicrhau bod gennych y sgiliau hanfodol sydd eu hangen ar gyfer marchnad swyddi gystadleuol heddiw.
Yn eich blwyddyn gyntaf, byddwch yn astudio sylfaen o theori ac ymarfer cyfoes y theatr, gan ddilyn 80 credyd o fodiwlau gorfodol ochr yn ochr â 40 credyd o fodiwlau dewisol mewn meysydd pwnc cysylltiedig eraill, megis cerddoriaeth*, ffilm, newyddiaduraeth, seicoleg, rheolaeth busnes, marchnata neu/ac addysg.
Ym Mlwyddyn 2, byddwch yn dechrau arbenigo, gan ddewis rhwng 60-80 credyd o fodiwlau gorfodol a 40-60 credyd o fodiwlau dewisol i sicrhau astudiaethau amrywiol o sector y celfyddydau a diwylliant. Cyflwynir hyfforddiant a llwybrau pellach o fewn y sector celfyddydau a diwylliant, megis cyfarwyddo a dramyddiaeth, gwaith cynhyrchu mewn ysgrifennu newydd a’r theatr gerddorol, ymarfer perfformio amlgyfrwng gan archwilio technolegau trochi, megis rhithrealiti, ffilm 360, realiti estynedig a perfformiad digidol.
Yn y flwyddyn olaf, bydd opsiynau i barhau ar lwybrau penodol o hyfforddiant sy’n seiliedig ar berfformio, yn ogystal â pharhau i ddatblygu sgiliau cysylltiedig mewn meysydd astudio eraill, a chyfle ychwanegol i ddewis gwneud profiad gwaith a datblygu sgiliau busnes mewn marchnata ac ariannu busnes yn y celfyddydau. Byddwch hefyd yn gweithio ar draethawd hir annibynnol a arweinir gan ymarfer neu ymchwil yn eich maes astudio dewisol, o dan arweiniad eich goruchwyliwr traethawd hir un-i-un. Gallech ysgrifennu eich drama eich hun, neu gyfarwyddo/dyfeisio eich perfformiad eich hun, neu fynd ymlaen i archwilio llwybr penodol o fewn y sector celfyddydol, addysgol, busnes neu iechyd yn y theatr dechnegol, y theatr gerdd, ymarfer cymunedol neu gelfyddyd mewn iechyd a lles.
Mantais ychwanegol yw y bydd gennych chi Ganolfan Celfyddydau ac Arloesi'r Brifysgol, 'Pontio' ar eich trothwy. Trefnir ymweliadau rheolaidd i berfformiadau yn y ganolfan a chyflwynir dosbarthiadau meistr gan wneuthurwyr theatr o fri cenedlaethol a rhyngwladol.
*Ar gyfer rhai modiwlau cerdd dewisol efallai y bydd angen gallu darllen hen nodiant. Cysylltwch â ni am fwy o wybodaeth.
Modiwlau ar gyfer y flwyddyn academaidd gyfredol
Mae’r rhestrau modiwlau ar gyfer eich arwain yn unig ac fe allant newid. Cymerwch olwg ar yr hyn y mae ein myfyrwyr yn ei astudio ar hyn o bryd ar tudalen Modiwlau Drama, Theatr a Pherfformio BA (Anrh).
Mae cynnwys y cwrs wedi’i nodi i’ch arwain yn unig ac fe all newid.
Cyfleusterau
- Mae yma gyfleusterau ardderchog, gan gynnwys Neuadd John Phillips, man perfformio mawr ar gyfer ymarfer a pherfformio, a Phontio, sef canolfan gelfyddydau ac arloesi lle mae stiwdio berfformio a chefnogaeth dechnegol gan weithwyr proffesiynol o'r diwydiant.
- Ym Mhontio hefyd mae Theatr Bryn Terfel, sef theatr ac ynddi 450 o seddi, sy'n denu cynyrchiadau theatr o'r radd flaenaf yn rheolaidd.
- 6 ystafell ymarfer gyda Pianos ar gyfer hyfforddiant lleisiol (4 ohonynt yn ystafelloedd ymarfer addas ar gyfer ymarferion drama) yn adeilad yr adran Cerdd a Drama.
- Ystafelloedd golygu sain gydag Adobe Audition
- Ystafelloedd golygu fideo digidol gyda Final Cut Pro a Final Cut Express ar gyfrifiaduron Apple Mac
- Goleuadau theatr proffesiynol ar gyfer ymarferion a pherfformiadau
- Offer fideo a radio i'w defnyddio ar leoliad ym maes radio a theledu
- 5 stiwdio a chyfarpar o safon ryngwladol ar gyfer cyfansoddi, ymchwilio a recordio.
- 6 piano grand Steinway.
- Neuadd John Phillips - lle perfformio sylweddol gyda system sain a goleuadau cyfrifiadurol ddigidol ar gyfer ymarfer a gwaith perfformio.Â
- Stiwdio Canolfan Gelfyddydau Pontio gyda chefnogaeth dechnegol broffesiynol ac arweiniad ar gyfer gwaith perfformio.
- Mannau perfformio awyr agored.
- Mynediad i fannau ymarfer yng Nghanolfan Gelfyddydau Pontio
- Canolfan Gyfryngau bwrpasol gyda Stiwdio Deledu aml-gamera ac oriel gynhyrchu fawr.
- Stiwdio radio proffesiynol gyda'r offer digidol diweddaraf.
- Ystafelloedd golygu Avid, Matrox ac analog, ac ystafelloedd golygu sain digidol.
- Sinema ddigidol gydag offer taflunio ardderchog a system sain amgylchynol Dolby.
Costau'r Cwrs
Costau Cyffredinol yn y Brifysgol
Myfyrwyr Cartref (DU)
- Cost cwrs israddedig llawn-amser yw £9,250 y flwyddyn (2025/26).
- Y ffi ar gyfer pob blwyddyn dramor integredig yw £1,385 (2025/26).
- Y ffi ar gyfer blwyddyn mewn diwydiant integredig fel rhan o'r cwrs yw £1,850 (2025/26).
Mwy o wybodaeth am ffioedd a chyllid i fyfyrwyr Cartref (DU).
Myfyrwyr Rhyngwladol (yn cynnwys yr UE)
Costau Ychwanegol
Mae yna hefyd rai costau ychwanegol cyffredin sy'n debygol o godi i fyfyrwyr ar bob cwrs, er enghraifft:
- Os dewiswch chi astudio dramor neu gymryd y Flwyddyn Profiad Rhyngwladol fel rhan o'ch cwrs.
- Os ydych chi'n mynd i'ch Seremoni Raddio, bydd cost llogi gŵn (£25- £75) a chost am docynnau i westeion ychwanegol (tua £12 yr un).
Costau ychwanegol cwrs-benodol
Yn dibynnu ar y cwrs rydych chi'n ei astudio, efallai y bydd costau ychwanegol cwrs-benodol y bydd gofyn i chi eu talu. Gellir rhoi'r costau hyn mewn tri chategori:
- Costau Gorfodol: mae'r rhain yn gysylltiedig â modiwl craidd neu orfodol penodol y mae'n ofynnol i chi ei gwblhau i gwblhau eich cymhwyster e.e. teithiau maes gorfodol, gwisgoedd i fyfyrwyr ar leoliad, gwiriad gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS).
- Costau Angenrheidiol: efallai na fydd pob myfyriwr yn cael y costau hyn, a bydd yn amrywio yn dibynnu ar y cwrs e.e. aelodaeth o gorff proffesiynol, teithio i leoliadau, meddalwedd arbenigol, cyfarpar diogelu personol.
- Costau Dewisol: mae'r rhain yn dibynnu ar eich dewis o fodiwlau neu weithgaredd, ac fe'u dangosir er mwyn rhoi syniad ichi o'r costau dewisol a allai godi i sicrhau bod cymaint o wybodaeth â phosibl ar gael i chi cyn i chi wneud eich dewis. Gall y rhain gynnwys digwyddiadau graddio ar gyfer eich cwrs, teithiau maes dewisol, tripiau Wythnos Groeso.
Gofynion Mynediad
Mae cynnig nodweddiadol yn seiliedig ar isafswm o 96-120 o bwyntiau tariff o gymhwyster Lefel 3 e.e.
- Lefel A - ni dderbyniwn Astudiaethau Cyffredinol a Sgiliau Allweddol fel rheol
- Diploma'r Fagloriaeth Ryngwladol
- Diploma Cenedlaethol Estynedig BTEC. MMM-DDM
- Diploma Technegol Estynedig Caergrawnt: MMM-DDM
- Diploma Technegol/ Estynedig Uwch City & Guilds: fesul achos
- Mynediad - mae angen llwyddo
- Derbyniwn Fagloriaeth Cymru
- Rydym hefyd yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr hÅ·n.
Sylwer: Ystyriwn bwyntiau arholiadau Drama, Cerddoriaeth a Dawns (e.e. TCL, LCM, LAMDA, RSL, ABRSM, ISTD, ac yn y blaen) lle bo'n briodol, er nad ydynt fel arfer yn cael eu cynnwys yn y cynnig.
Ymgeiswyr rhyngwladol: derbynnir cymwysterau gadael ysgol a diplomâu coleg o wledydd ledled y byd (yn amodol ar ofynion iaith Saesneg penodol), ceir manylion yn: www.bangor.ac.uk/international/applying/entryrequirements
Gofynion Cyffredinol y Brifysgol
I astudio cwrs gradd mae’n rhaid i chi gael isafswm o bwyntiau tariff UCAS. Am eglurhad manwl o bwyntiau tariff UCAS, ewch i .
Rydym yn derbyn myfyrwyr â phob math o gymwysterau a chefndiroedd ac yn ystyried pob cais yn unigol.
Mae’n rhaid i bob ymgeisydd gael sgiliau sylfaenol da ond mae’r Brifysgol hefyd yn gweld pwysigrwydd sgiliau cyfathrebu a thechnoleg gwybodaeth.Â
Mae’n bolisi gan y Brifysgol i ystyried ceisiadau gan ddarpar fyfyrwyr anabl yn yr un modd â; phob cais arall.
Rydym yn ystyried ceisiadau gan fyfyrwyr hÅ·n sy’n medru dangos fod ganddynt y gallu a’r ymrwymiad i astudio rhaglen prifysgol. Bob blwyddyn rydym yn cofrestru nifer sylweddol o fyfyrwyr hÅ·n. Am fwy o wybodaeth am astudio fel myfyriwr aeddfed, ewch i adran Astudio ym Mangor.ÌýÌý
Gyrfaoedd
Mae rhagolygon gwaith ein graddedigion yn rhagorol, ac mae dewis amrywiol iawn o ran gyrfaoedd. Mae llawer o raddedigion yn dewis gweithio yn y diwydiant theatr, ffilm neu/a theledu, naill ai fel actorion, cyfarwyddwyr, dramodwyr, neu ymgymryd â swyddi cynhyrchu fel ymchwilwyr, cynhyrchwyr, technegwyr, neu ddylunwyr. Bydd eraill yn gweithio trwy weinyddu'r celfyddydau, marchnata a chodi arian o fewn canolfannau celfyddydol, gwyliau neu gwmnïau, gan drefnu a chefnogi rhaglennu artistig a rheoli digwyddiadau.
Mae drama’n sylfaen ardderchog os ydych yn dymuno gweithio ym myd addysg neu mewn cyd-destun cymdeithasol. Mae llawer o raddedigion yn mynd ymlaen i hyfforddi fel athrawon drama, gweithwyr cymdeithasol, therapyddion drama, hwyluswyr theatr gymunedol, a chwnselwyr. Mae'r hyfforddiant sy’n seiliedig ar sgiliau a'r sgiliau generig ar gyfer datblygu hyder, a sgiliau cyflwyno’n ddefnyddiol os ydych yn dymuno dilyn llwybr gyrfa mewn Seicoleg, Busnes, Newyddiaduraeth neu'r Gyfraith.
Ymhlith y llwybrau gyrfa posibl eraill mae ysgrifennu creadigol; ysgrifennu a chyhoeddi proffesiynol; newyddiaduraeth brint a/neu ddarlledu; fel cyflwynwyr; radio (fel cyflwynwyr yn ogystal â chynhyrchu rhaglenni); cynhyrchu digidol, y we a chyfryngau newydd; diwydiannau amlgyfrwng; darlithio; hysbysebu a chysylltiadau cyhoeddus.
Bob blwyddyn mae nifer o fyfyrwyr yn dewis gwneud gwaith ôl-radd sy'n para rhwng blwyddyn a phedair blynedd. Mae hyn yn eu galluogi i ddyfnhau eu gwybodaeth a’u harbenigedd, a datblygu cyfraniad gwirioneddol unigol fel academydd, perfformiwr neu gyfansoddwr. Yn aml mae ôl-raddedigion academaidd yn mynd ymlaen i ddysgu mewn prifysgolion, tra bo rhai ymarferwyr a pherfformwyr yn dod i amlygrwydd yn y diwydiant cyfryngau a theatr yn genedlaethol ac yn rhyngwladol.
Cyfleoedd ym Mangor
Mae Gwasanaeth Sgiliau a Chyflogadwyedd y Brifysgol yn cynnig amryw o adnoddau i’ch helpu i gyflawni eich amcanion ar ôl graddio.
Rhaglen Interniaeth Prifysgol ÑÇÖÞÉ«°É
Mae Prifysgol ÑÇÖÞÉ«°É yn cynnal cynllun interniaeth â thâl yn adrannau academaidd a gwasanaethau’r Brifysgol.
Gwirfoddoli
Mae gwirfoddoli yn ehangu eich profiadau ac yn gwella eich cyflogadwyedd. Cewch fwy o wybodaeth am wirfoddoli ar wefan .
Gweithio tra'n astudio
Mae TARGETconnect yn hysbysebu swyddi lleol, cenedlaethol a rhyngwladol i raddedigion, cyfleodd profiad gwaith ac interniaethau a chyfleon gwirfoddol.
Adroddiad Cyflawniad Addysg Uwch (HEAR)
Ceir pob myfyriwr sy’n graddio adroddiad terfynol HEAR. Mae’r adroddiad yn rhestru holl gyflawniadau academaidd ac allgyrsiol fel bod darpar gyflogwyr yn ymwybodol o’r sgiliau ychwanegol rydych wedi eu hennill tra yn y Brifysgol.
Blwyddyn Sylfaen
Mae opsiwn 'gyda Blwyddyn Sylfaen' ar gael ar gyfer y cwrs hwn. Yn ddibynol ar eich diddordebau o fewn Drama, gwnewch gais am un o'r cyrsiau canlynol: Cerddoriaeth BA (gyda Blwyddyn Sylfaen)Ìý²Ô±ð³Ü Astudiaethau a Chynhyrchu'r Cyfryngau (gyda Blwyddyn Sylfaen). Mae croeso i chi gysylltu â ni am fwy o wybodaeth a chyngor.Â
Beth yw cwrs Blwyddyn Sylfaen?
Os nad oes gennych mo'r cymwysterau gofynnol ar gyfer cwrs lefel gradd, neu os ydych am fynd yn ôl i addysg yn dilyn cyfnod i ffwrdd, yna gall Rhaglen Blwyddyn Sylfaen fod y dewis iawn i chi.
Mae’r Flwyddyn Sylfaen yn gyflwyniad rhagorol i astudio pwnc yn y brifysgol a bydd yn rhoi'r wybodaeth, y sgiliau a'r hyder sydd eu hangen arnoch i astudio’r cwrs hwn ar lefel gradd.
Pan fyddwch wedi cwblhau'r Flwyddyn Sylfaen yn llwyddiannus, gallwch symud ymlaen i flwyddyn gyntaf y cwrs lefel gradd yma.Â