Ynglŷn â’r Cwrs Yma
Mae'r cwrs hwn yn ddelfrydol i’r rhai sydd eisiau astudio Newyddiaduraeth a'r Cyfryngau yn fanwl. Mae ein cwrs yn cynnwys newyddiaduraeth teledu a radio, newyddiaduraeth print a digidol, ac ymarfer yn y cyfryngau. Byddwch yn astudio effaith gymdeithasol a diwylliannol newyddiaduraeth a'r cyfryngau ar lefelau lleol a byd-eang, gan gofleidio cyd-destunau diwydiannol, testunau cyfryngau, cynulleidfaoedd a rheoleiddio. Bydd y cwrs hwn yn rhoi sylfaen gadarn i chi mewn egwyddorion newyddiaduraeth, a'r sgiliau cyfryngau a newyddiaduraeth technegol ac ymarferol sy'n ofynnol gan weithiwr proffesiynol medrus yn y maes.
Bydd ein gradd Newyddiaduraeth a’r Cyfryngau yn rhoi i chi’r sgiliau y byddwch eu hangen i gael gyrfa mewn newyddiaduraeth a’r cyfryngau. Mae'r cwrs gradd cyffrous hwn wedi'i fwriadu ar gyfer myfyrwyr sydd eisiau gwneud proffesiwn o'u hangerdd, trwy ddeall sut mae'r diwydiant newyddion a'r cyfryngau yn gweithio.Ìý
Yn ogystal â'ch diweddaru ar fyd newyddiaduraeth amlgyfrwng sy'n newid yn gyflym, bydd yn eich cyflwyno i ystod eang o safbwyntiau damcaniaethol a fydd yn cyfoethogi'ch ymchwil. Y nod fydd rhoi hyder a hunanddibyniaeth i chi ragori ac addasu i faes cyffrous sydd bob amser yn symud.
Mae staff Newyddiaduraeth a'r Cyfryngau yn yr Ysgol yn arbenigwyr blaenllaw yn eu meysydd gydag ystod o ddiddordebau ymchwil gan gynnwys newyddiaduraeth ddigidol, newyddiaduraeth ddarlledu, gwleidyddiaeth, hysbysebu, rheoleiddio'r cyfryngau, preifatrwydd, cyfathrebu, cyfathrebu risg, ysgrifennu proffesiynol, cylchgronau, diwylliant gweledol, gemau cyfrifiadurol, bydoedd rhithwir, cyfryngau byd-eang, rhwydweithiau cymdeithasol, rhaglenni dogfen a chynrychiolaeth cyfryngau. Mae llawer o aelodau staff yn yr Ysgol yn ymarferwyr ac yn ymgynghorwyr yn eu meysydd.
Yn swatio mewn lleoliad syfrdanol rhwng mynyddoedd Eryri a'r môr, mae ÑÇÖÞÉ«°É hefyd yn lle perffaith i fynd o gwmpas a dod o hyd i straeon newyddion, neu greu eich cynyrchiadau cyfryngau eich hun.
Mae adran y Cyfryngau yng nghalon campws y Brifysgol, ac mae'n cynnig cymuned glos a chyfeillgar ochr yn ochr â phrysurdeb caffis, siopau a bywyd y ddinas. Mae'r brifysgol hefyd yn gartref i ddau bapur newydd myfyrwyr, Seren a Llef, a gorsaf radio, Storm FM. Mae llawer o'n myfyrwyr yn cyfrannu'n rheolaidd.
Cynhelir amrywiaeth o gynadleddau, fideo gynadleddau a digwyddiadau'r Diwydiannau Creadigol ym Mangor hefyd. Ceir ymweliadau rheolaidd gan awduron creadigol, gwneuthurwyr ffilmiau, newyddiadurwyr, dylunwyr, dramodwyr, gwneuthurwyr cyfryngau newydd gwadd a mwy, ac mae hyn yn annog myfyrwyr i ymwneud yn eang â'u diddordebau creadigol y tu allan i waith cwrs ffurfiol.
Pam dewis PrifysgolÌýÑÇÖÞÉ«°É ar gyfer y cwrs?
- Ein cyfuniad agos o ddulliau gweithredu academaidd a damcaniaethol ac ymarfer creadigol.
- Rydym yn arbenigo mewn ysgrifennu proffesiynol a newyddiaduraeth, cyfathrebu yn y cyfryngau a chyfathrebu digidol, astudiaethau ffilm ac ymarfer creadigol a’r cyfryngau.
- Ein hadnoddau pwrpasol ar gyfer y cyfryngau a chynhyrchu, gydag ystafelloedd golygu ac offer cynhyrchu ar gael i fyfyrwyr.
- Mae gennym gysylltiadau gwych â phapurau newydd a'r diwydiant teledu.
- Cynhelir projectau'r flwyddyn olaf yn aml mewn cydweithrediad â chwmni.
Opsiynau Cwrs Ychwanegol
Mae'r cwrs hwn ar gael fel opsiwn 'gyda Blwyddyn ar Leoliad' lle byddwch yn astudio am flwyddyn ychwanegol. Mae'r myfyrwyr yn gwneud y Flwyddyn ar Leoliad ar ddiwedd yr ail flwyddyn ac maent i ffwrdd o'r Brifysgol am y flwyddyn academaidd gyfan.
Mae Blwyddyn ar Leoliad yn gyfle gwych i chi ehangu eich gorwelion a datblygu sgiliau a chysylltiadau hynod ddefnyddiol trwy weithio gyda sefydliad sy'n berthnasol i bwnc eich gradd. Y cyfnod lleiaf ar leoliad (mewn un lleoliad neu fwy nag un lleoliad) yw saith mis calendr; fel rheol mae myfyrwyr yn treulio 10-12 mis gyda darparwr lleoliad. Byddwch fel rheol yn dechrau rywbryd yn y cyfnod rhwng mis Mehefin a mis Medi yn eich ail flwyddyn ac yn gorffen rhwng mis Mehefin a mis Medi y flwyddyn ganlynol. Gall y lleoliad fod yn y Deyrnas Unedig neu dramor a byddwch yn gweithio gyda'r staff i gynllunio a chwblhau trefniadau eich lleoliad.
Bydd disgwyl i chi ddod o hyd i leoliad sy'n addas i'ch gradd, a'i drefnu, ac mi gewch chi gefnogaeth lawn gan aelod pwrpasol o staff eich Ysgol academaidd a Gwasanaeth Sgiliau a Chyflogadwyedd y Brifysgol.
Bydd gennych y cyfle i ystyried yr opsiwn hwn yn llawn ar ôl cychwyn eich cwrs ym Mangor a gallwch wneud cais i drosglwyddo i'r opsiwn hwn ar yr adeg priodol. Darllenwch fwy am y cyfleoedd profiad gwaith sydd ar gael neu, os oes gennych unrhyw ymholiad, mae croeso i chi gysylltu â ni.
Mae'r cwrs hwn ar gael fel opsiwn 'gyda Blwyddyn Profiad Rhyngwladol' lle byddwch yn astudio neu'n gweithio am flwyddyn yn ychwanegol. Bydd ‘gyda Phrofiad Rhyngwladol’ yn cael ei ychwanegu at deitl eich gradd pan fyddwch yn graddio.Ìý
Mae astudio dramor yn gyfle gwych i weld ffordd wahanol o fyw, i ddysgu am ddiwylliannau newydd ac ehangu eich gorwelion. Gyda phrofiad rhyngwladol o’r fath, rydych yn gwneud byd o les i’ch gyrfa. Mae yna ddewis eang o leoliadau a phrifysgolion sy'n bartneriaid. Os ydych yn bwriadu astudio mewn gwlad lle nad yw’r Saesneg yn cael ei siarad fel iaith frodorol, efallai y bydd cefnogaeth iaith ychwanegol ar gael i chi ym Mangor neu yn y brifysgol yn y wlad arall i wella'ch sgililau iaith.
Bydd gennych y cyfle i ystyried yr opsiwn hwn yn llawn ar unrhyw adeg yn ystod eich gradd ym Mangor a gallwch wneud cais. Os oes gennych unrhyw ymholiad yn y cyfamser, mae croeso i chi gysylltu â ni.
Darllenwch fwy am y rhaglen Blwyddyn Profiad Rhyngwladol a chymrwch olwg ar yr opsiynau astudio neu weithio dramor sydd ar gael yn adran Cyfnewidiadau Myfyrwyr o’r wefan.
Cynnwys y Cwrs
Allwch chi wahanu ffaith o'r ffuglen, ac a oes gennych drwyn am newyddion? Os felly, mae angen eich sgiliau ar y byd yn fwy nag erioed. ÌýMae astudiaethau'r Cyfryngau ym Mangor yn unigryw oherwydd y cyfuniad agos rhwng dulliau gweithredu academaidd a damcaniaethol ac ymarfer creadigol. Mae myfyrwyr yn yr Ysgol yn cael cyfle ar bob lefel i gyfuno astudiaethau yn eu dewis faes gyda gwaith ymarferol sy'n deillio o hynny megis newyddiaduraeth, ffilm, a chynhyrchu yn y cyfryngau/cyfryngau digidol.
Addysgir Newyddiaduraeth ac Astudiaethau'r Cyfryngau ym Mangor trwy gynnig cydbwysedd o dasgau ymarferol a dadansoddol. Yn ogystal â darlithoedd, seminarau, a thraethodau, bydd modiwlau ymarferol yn rhoi cyfle i chi adael yr ystafell ddosbarth a chynnal cyfweliadau wyneb yn wyneb a chynhyrchu cynnwys fideo a sain. Byddwch hefyd yn cymryd rhan mewn ymarferion rhith-ystafell newyddion, gyda'r dasg o gwblhau straeon o fewn amserlen benodol.
Yn gyffredinol, mae modiwlau damcaniaethol eraill yn cael eu hasesu trwy draethawd neu gyflwyniad. Wrth i chi fynd trwy'r radd, caiff llawer o'r gwaith astudio ei wneud mewn grwpiau dysgu bach gyda phwyslais ar ddysgu sgiliau gweithio grŵp a'r gallu i gyflawni darn o waith eich hun o'r syniad dechreuol i’w gwblhau.
Wrth ichi symud ymlaen trwy eich gradd byddwch yn adeiladu portffolio o waith cyhoeddedig, yn datblygu eich sgiliau ysgrifennu proffesiynol a sgiliau clywedol, ac yn cael sylfaen gadarn mewn moeseg a'r gyfraith. Byddwn yn rhoi sylfaen gadarn i chi mewn egwyddorion newyddiaduraeth a’r cyfryngau, yn ogystal â'r sgiliau cyfryngau a newyddiaduraeth technegol ac ymarferol sy'n ofynnol i'ch gwneud yn weithiwr proffesiynol medrus yn y maes.
Modiwlau ar gyfer y flwyddyn academaidd gyfredol
Mae’r rhestrau modiwlau ar gyfer eich arwain yn unig ac fe allant newid. Cymerwch olwg ar yr hyn y mae ein myfyrwyr yn ei astudio ar hyn o bryd ar tudalen Modiwlau Newyddiaduraeth ac Astudiaethau’r Cyfryngau BA (Anrh).
Mae cynnwys y cwrs wedi’i nodi i’ch arwain yn unig ac fe all newid.
Cyfleusterau
- Gwasanaeth benthyciadau helaeth ar gyfer offer fel cyfarpar recordio digidol, camerâu fideo, camerâu lluniau llonydd a mwy.
- Stiwdio radio â chyfarpar proffesiynol.
- Ystafelloedd golygu sain gydag Adobe Audition.
- Ystafelloedd golygu fideo digidol gyda Final Cut Pro a Final Cut Express ar gyfrifiaduron Apple Mac.
- Awditoria.
- Pontio, canolfan y celfyddydau ac arloesi, Ìýsy'n cynnwys sinema 200 sedd gyda system sain amgylchynol Dolby.
Cyfleusterau Cyffredinol y Brifysgol
Gwasanaeth Llyfrgell ac Archifau
Mae ein pedair llyfrgell yn cynnig amrywiaeth o amgylcheddau astudio braf gan gynnwys mannau gweithio cydweithredol, ystafelloedd cyfarfod a mannau tawel i astudio.
Mae yma gasgliad mawr o lyfrau a chylchgronau, ac mae llawer o'r cylchgronau ar gael ar gyfrifiadur mewn fformat testun llawn.
Mae gennym hefyd un o’r archifau prifysgol mwyaf nid yn unig yng Nghymru ond hefyd drwy holl wledydd Prydain. Yn gysylltiedig â'r archifau mae casgliadau arbennig o lyfrau printiedig prin.
Adnoddau Dysgu
Mae yma ddewis eang o adnoddau dysgu, sy’n cael eu cefnogi gan staff profiadol, i’ch helpu i astudio.Ìý
Mae gwasanaethau TG y Brifysgol yn darparu cyfleusterau a gwasanaethau cyfrifiaduro, cyfryngau a reprograffeg sy’n cynnwys:Ìý
- Dros 1,150 o gyfrifiaduron i fyfyrwyr, gyda rhai ystafelloedd cyfrifiaduron ar agor 24 awr bob dydd
- Blackboard, rhith-amgylchedd dysgu masnachol, sy’n galluogi i ddeunydd dysgu fod ar gael ar-lein.
Costau'r Cwrs
Costau Cyffredinol yn y Brifysgol
Myfyrwyr Cartref (DU)
- Cost cwrs israddedig llawn-amser yw £9,250 y flwyddyn (2025/26).
- Y ffi ar gyfer pob blwyddyn dramor integredig yw £1,385 (2025/26).
- Y ffi ar gyfer blwyddyn mewn diwydiant integredig fel rhan o'r cwrs yw £1,850 (2025/26).
Mwy o wybodaeth am ffioedd a chyllid i fyfyrwyr Cartref (DU).
Myfyrwyr Rhyngwladol (yn cynnwys yr UE)
Costau Ychwanegol
Mae yna hefyd rai costau ychwanegol cyffredin sy'n debygol o godi i fyfyrwyr ar bob cwrs, er enghraifft:
- Os dewiswch chi astudio dramor neu gymryd y Flwyddyn Profiad Rhyngwladol fel rhan o'ch cwrs.
- Os ydych chi'n mynd i'ch Seremoni Raddio, bydd cost llogi gŵn (£25- £75) a chost am docynnau i westeion ychwanegol (tua £12 yr un).
Costau ychwanegol cwrs-benodol
Yn dibynnu ar y cwrs rydych chi'n ei astudio, efallai y bydd costau ychwanegol cwrs-benodol y bydd gofyn i chi eu talu. Gellir rhoi'r costau hyn mewn tri chategori:
- Costau Gorfodol: mae'r rhain yn gysylltiedig â modiwl craidd neu orfodol penodol y mae'n ofynnol i chi ei gwblhau i gwblhau eich cymhwyster e.e. teithiau maes gorfodol, gwisgoedd i fyfyrwyr ar leoliad, gwiriad gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS).
- Costau Angenrheidiol: efallai na fydd pob myfyriwr yn cael y costau hyn, a bydd yn amrywio yn dibynnu ar y cwrs e.e. aelodaeth o gorff proffesiynol, teithio i leoliadau, meddalwedd arbenigol, cyfarpar diogelu personol.
- Costau Dewisol: mae'r rhain yn dibynnu ar eich dewis o fodiwlau neu weithgaredd, ac fe'u dangosir er mwyn rhoi syniad ichi o'r costau dewisol a allai godi i sicrhau bod cymaint o wybodaeth â phosibl ar gael i chi cyn i chi wneud eich dewis. Gall y rhain gynnwys digwyddiadau graddio ar gyfer eich cwrs, teithiau maes dewisol, tripiau Wythnos Groeso.
Gofynion Mynediad
Mae'r cynigion yn seiliedig ar dariffau, 96 - 120 pwynt tariff o gymwysterau Lefel 3* e.e.:
- Lefel A: Fel rheol, ni dderbynnir Astudiaethau Cyffredinol na Sgiliau Allweddol.Ìý
- Diploma'r Fagloriaeth Ryngwladol
- Diploma Cenedlaethol/Estynedig BTEC: MMM - DDM
- Diploma Technegol Estynedig Caergrawnt: MMM - DDM
- Diploma Technegol/ Estynedig Uwch City & Guilds: a ystyrir fesul achos
- Mynediad
- Derbyniwn Fagloriaeth Cymru
- Lefelau-T: ystyrir fesul achos.
Ymgeiswyr Rhyngwladol: derbyniwn gymwysterau gadael ysgol a diplomâu colegau o wledydd ledled y byd (yn amodol ar ofynion iaith Saesneg sylfaenol), manylion yma.
Rydym hefyd yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr hÅ·n.
*I gael rhestr lawn o gymwysterau Lefel 3 a dderbynnir, ewch i www.ucas.com.
Gofynion Cyffredinol y Brifysgol
I astudio cwrs gradd mae’n rhaid i chi gael isafswm o bwyntiau tariff UCAS. Am eglurhad manwl o bwyntiau tariff UCAS, ewch i .
Rydym yn derbyn myfyrwyr â phob math o gymwysterau a chefndiroedd ac yn ystyried pob cais yn unigol.
Mae’n rhaid i bob ymgeisydd gael sgiliau sylfaenol da ond mae’r Brifysgol hefyd yn gweld pwysigrwydd sgiliau cyfathrebu a thechnoleg gwybodaeth.Ìý
Mae’n bolisi gan y Brifysgol i ystyried ceisiadau gan ddarpar fyfyrwyr anabl yn yr un modd â; phob cais arall.
Rydym yn ystyried ceisiadau gan fyfyrwyr hÅ·n sy’n medru dangos fod ganddynt y gallu a’r ymrwymiad i astudio rhaglen prifysgol. Bob blwyddyn rydym yn cofrestru nifer sylweddol o fyfyrwyr hÅ·n. Am fwy o wybodaeth am astudio fel myfyriwr aeddfed, ewch iÌýadran Astudio ym Mangor.ÌýÌý
Gyrfaoedd
Gall astudio pynciau'r cyfryngau ym Mangor fod yn fan cychwyn i yrfa wych. Mae gennym gysylltiadau gwych â gwasanaethau newyddion ar-lein, cwmnïau theatr, papurau newydd a'r diwydiant teledu.Ìý
Mae ein graddedigion wedi mynd ymlaen i weithio mewn amrywiaeth o swyddogaethau, gan gynnwys: ysgrifennu creadigol; ysgrifennu a chyhoeddi proffesiynol; perfformio a'r theatr (ar y llwyfan a gefn y llwyfan); newyddiaduraeth brint ac/neu ddarlledu; fel actorion, cyflwynwyr ac wrth gynhyrchu rhaglenni teledu; hysbysebu a marchnata; radio (fel cyflwynwyr yn ogystal â chynhyrchu rhaglenni); cynhyrchu digidol, ar y we a'r cyfryngau newydd; diwydiannau amlgyfryngau; addysgu; darlithio; a chysylltiadau cyhoeddus.
Cyfleoedd ym Mangor
Mae Gwasanaeth Sgiliau a Chyflogadwyedd y Brifysgol yn cynnig amryw o adnoddau i’ch helpu i gyflawni eich amcanion ar ôl graddio.
Rhaglen Interniaeth Prifysgol ÑÇÖÞÉ«°É
Mae Prifysgol ÑÇÖÞÉ«°É yn cynnal cynllun interniaeth â thâl yn adrannau academaidd a gwasanaethau’r Brifysgol.
Gwirfoddoli
Mae gwirfoddoli yn ehangu eich profiadau ac yn gwella eich cyflogadwyedd. Cewch fwy o wybodaeth am wirfoddoli ar wefan .
Gweithio tra'n astudio
Mae TARGETconnect yn hysbysebu swyddi lleol, cenedlaethol a rhyngwladol i raddedigion, cyfleodd profiad gwaith ac interniaethau a chyfleon gwirfoddol.
Adroddiad Cyflawniad Addysg Uwch (HEAR)
Ceir pob myfyriwr sy’n graddio adroddiad terfynol HEAR. Mae’r adroddiad yn rhestru holl gyflawniadau academaidd ac allgyrsiol fel bod darpar gyflogwyr yn ymwybodol o’r sgiliau ychwanegol rydych wedi eu hennill tra yn y Brifysgol.
Blwyddyn Sylfaen
Mae opsiwn 'gyda Blwyddyn Sylfaen' ar gael ar gyfer y cwrs hwn. Gwnewch gais am Astudiaethau aÌýChynhyrchu'rÌýCyfryngauÌý(gyda Blwyddyn Sylfaen).
Beth yw cwrs Blwyddyn Sylfaen?
Os nad oes gennych mo'r cymwysterau gofynnol ar gyfer cwrs lefel gradd, neu os ydych am fynd yn ôl i addysg yn dilyn cyfnod i ffwrdd, yna gall Rhaglen Blwyddyn Sylfaen fod y dewis iawn i chi.
Mae’r Flwyddyn Sylfaen yn gyflwyniad rhagorol i astudio pwnc yn y brifysgol a bydd yn rhoi'r wybodaeth, y sgiliau a'r hyder sydd eu hangen arnoch i astudio’r cwrs hwn ar lefel gradd.
Pan fyddwch wedi cwblhau'r Flwyddyn Sylfaen yn llwyddiannus, gallwch symud ymlaen i flwyddyn gyntaf y cwrs lefel gradd yma.Ìý