Ynglŷn â’r Cwrs Yma
Mae'r cwrs yn pwysleisio profiadau cymdeithasol iechyd a gofal a rheoli gwasanaethau a sut mae cymdeithas, yr economi, ffactorau gwleidyddol a moesegol yn dylanwadu ar y ddarpariaeth hon. Byddwch yn datblygu dealltwriaeth fanwl o faterion cyfoes allweddol sy'n dylanwadu ar ein hiechyd a'n cymdeithas ac felly ar les unigolion a'u cymunedau. Mae'r cwrs hwn yn berffaith i unrhyw un sydd â diddordeb mewn chwarae rhan flaengar wrth wella'r gofal a roddir i aelodau bregus cymdeithas.
Bydd y radd BA (Anrh) Iechyd a Gofal Cymdeithasol yn rhoi dealltwriaeth fanwl i chi o theori ac ymarfer iechyd a gofal cymdeithasol, ac yn eich helpu chi ennill y sgiliau sy'n angenrheidiol i wella bywydau'r rhai sy'n dibynnu ar y system iechyd a gofal cymdeithasol. Mae’r sector iechyd a gofal cymdeithasol yn dal i dyfu. Mae pobl yn byw'n hirach ac mae'r ffyrdd y mae pobl yn rhyngweithio â gwasanaethau yn creu cyfleoedd cyffrous newydd i wneud gwahaniaeth gwirioneddol i fywydau pobl.
Mae'r sector gofal yn newid yn gyflym heddiw, a bydd pwyslais y cwrs ar brofiadau cymdeithasol iechyd a gofal a darparu a rheoli gwasanaethau’n ymarferol. Byddwch yn dysgu sut mae technoleg, cymdeithas a'r economi’n dylanwadu ar ddarparu a chyflenwi'r gwasanaethau  yn ogystal â’r ffactorau gwleidyddol a moesegol dros amrywiaeth o wahanol systemau iechyd a gofal cymdeithasol a wnaiff roi golwg cyffredinol i chi. Byddwch hefyd yn datblygu'r sgiliau beirniadol a dadansoddol sy'n sail i ymarfer sy'n seiliedig ar dystiolaeth, i’ch paratoi at yrfa dda yn y sector, naill ai yn y Deyrnas Unedig neu rywle arall.
Pam dewis Prifysgol ÑÇÖÞÉ«°É ar gyfer y cwrs?
- Mae'n arwain at yrfaoedd mewn meysydd fel rheoli gwasanaethau iechyd, ymchwil, hybu iechyd a gwaith cymdeithasol a chymunedol yn ogystal â bod yn llwybr amgen i broffesiynau gofal iechyd fel Nyrsio.
- Mae’r cynnwys cwrs modern, newydd yn canolbwyntio ar faterion cyfoes allweddol.
- Mae fframwaith gradd hyblyg sy'n cynnig ystod o arbenigeddau yn eich galluogi i addasu eich gradd yn ôl eich anghenion a'ch diddordebau.
Opsiynau Cwrs Ychwanegol
Mae'r cwrs hwn ar gael fel opsiwn 'gyda Blwyddyn ar Leoliad' lle byddwch yn astudio am flwyddyn ychwanegol. Mae'r myfyrwyr yn gwneud y Flwyddyn ar Leoliad ar ddiwedd yr ail flwyddyn ac maent i ffwrdd o'r Brifysgol am y flwyddyn academaidd gyfan.
Mae Blwyddyn ar Leoliad yn gyfle gwych i chi ehangu eich gorwelion a datblygu sgiliau a chysylltiadau hynod ddefnyddiol trwy weithio gyda sefydliad sy'n berthnasol i bwnc eich gradd. Y cyfnod lleiaf ar leoliad (mewn un lleoliad neu fwy nag un lleoliad) yw saith mis calendr; fel rheol mae myfyrwyr yn treulio 10-12 mis gyda darparwr lleoliad. Byddwch fel rheol yn dechrau rywbryd yn y cyfnod rhwng mis Mehefin a mis Medi yn eich ail flwyddyn ac yn gorffen rhwng mis Mehefin a mis Medi y flwyddyn ganlynol. Gall y lleoliad fod yn y Deyrnas Unedig neu dramor a byddwch yn gweithio gyda'r staff i gynllunio a chwblhau trefniadau eich lleoliad.
Bydd disgwyl i chi ddod o hyd i leoliad sy'n addas i'ch gradd, a'i drefnu, ac mi gewch chi gefnogaeth lawn gan aelod pwrpasol o staff eich Ysgol academaidd a Gwasanaeth Sgiliau a Chyflogadwyedd y Brifysgol.
Bydd gennych y cyfle i ystyried yr opsiwn hwn yn llawn ar ôl cychwyn eich cwrs ym Mangor a gallwch wneud cais i drosglwyddo i'r opsiwn hwn ar yr adeg priodol. Darllenwch fwy am y cyfleoedd profiad gwaith sydd ar gael neu, os oes gennych unrhyw ymholiad, mae croeso i chi gysylltu â ni.
Mae'r cwrs hwn ar gael fel opsiwn 'gyda Blwyddyn Profiad Rhyngwladol' lle byddwch yn astudio neu'n gweithio am flwyddyn yn ychwanegol. Bydd ‘gyda Phrofiad Rhyngwladol’ yn cael ei ychwanegu at deitl eich gradd pan fyddwch yn graddio.Â
Mae astudio dramor yn gyfle gwych i weld ffordd wahanol o fyw, i ddysgu am ddiwylliannau newydd ac ehangu eich gorwelion. Gyda phrofiad rhyngwladol o’r fath, rydych yn gwneud byd o les i’ch gyrfa. Mae yna ddewis eang o leoliadau a phrifysgolion sy'n bartneriaid. Os ydych yn bwriadu astudio mewn gwlad lle nad yw’r Saesneg yn cael ei siarad fel iaith frodorol, efallai y bydd cefnogaeth iaith ychwanegol ar gael i chi ym Mangor neu yn y brifysgol yn y wlad arall i wella'ch sgililau iaith.
Bydd gennych y cyfle i ystyried yr opsiwn hwn yn llawn ar unrhyw adeg yn ystod eich gradd ym Mangor a gallwch wneud cais. Os oes gennych unrhyw ymholiad yn y cyfamser, mae croeso i chi gysylltu â ni.
Darllenwch fwy am y rhaglen Blwyddyn Profiad Rhyngwladol a chymrwch olwg ar yr opsiynau astudio neu weithio dramor sydd ar gael yn adran Cyfnewidiadau Myfyrwyr o’r wefan.
Cynnwys y Cwrs
Caiff y cwrs ei gyflwyno trwy ddarlithoedd, seminarau, gwaith mewn grwpiau bach, cyflwyniadau a dysgu annibynnol ar gyfrifiadur. Ar gyfartaledd, bydd gennych 6 awr o ddarlithoedd yr wythnos a hyd at 6 awr o seminarau grŵp.  Trwy gydol y radd, cewch gefnogaeth un i un gan staff academaidd.
Rydym yn defnyddio amrywiaeth o ddulliau asesu, gan gynnwys gwaith cwrs ac arholiadau.  Caiff rhai modiwlau eu hasesu'n gyfan gwbl drwy waith cwrs.  Byddwch hefyd yn gweithio'n annibynnol (gyda goruchwyliaeth) ar ddarn estynedig o waith ysgrifenedig, eich traethawd hir, a fydd yn cynnwys ymchwil yn y maes o'ch dewis.  Mae rhai o’r modiwlau a gynigir fel rhan o'r cwrs ar gael hefyd trwy gyfrwng y Gymraeg.Â
Beth fyddwch chi’n ei astudio ar y cwrs yma?
Mae'r radd yn cyfuno trylwyredd academaidd â phrofiadau ymarferol. Ym Mlwyddyn 1 bydd modiwlau craidd y cwrs yn rhoi cyflwyniad i'r cysyniadau allweddol, y cefndir hanesyddol a materion cyfredol sy'n ymwneud ag iechyd a gofal cymdeithasol, yn ogystal â chyflwyniad i sgiliau ymchwil ac astudio. Yn ystod Blwyddyn 2 a 3, bydd y modiwlau craidd a dewisol yn rhoi sylfaen drwyadl mewn safbwyntiau damcaniaethol allweddol, astudiaethau cymharol mewn polisi iechyd a lles, a methodolegau ymchwil.  Yn ystod Blwyddyn 3, byddwch yn cwblhau eich gradd gydag astudiaeth fanylach o’r pynciau craidd, a byddwch yn cyflawni traethawd hir yn y maes o'ch dewis. Yn ystod y radd, cewch gyfle hefyd i brofi eich gwybodaeth a'ch sgiliau newydd mewn lleoliad gwaith dros ddau semester yn eich ail flwyddyn.
Modiwlau ar gyfer y flwyddyn academaidd gyfredol
Mae’r rhestrau modiwlau ar gyfer eich arwain yn unig ac fe allant newid. Cymerwch olwg ar yr hyn y mae ein myfyrwyr yn ei astudio ar hyn o bryd ar tudalen Modiwlau Iechyd a Gofal Cymdeithasol BA (Anrh).
Mae cynnwys y cwrs wedi’i nodi i’ch arwain yn unig ac fe all newid.
Cyfleusterau
Mae'r rhaglen yn cadw cysylltiadau cryf â'r sector iechyd a gofal cymdeithasol ledled y gogledd a gall myfyrwyr elwa ar sesiynau gan siaradwyr gwadd o amrywiaeth eang o ddisgyblaethau. Yn ogystal â darparu profiad dysgu cyfoethog, mae'r sesiynau hefyd yn cynnig cipolwg o yrfaoedd posib y dyfodol a chyfleoedd rhagorol i rwydweithio.
Cyfleusterau Cyffredinol y Brifysgol
Gwasanaeth Llyfrgell ac Archifau
Mae ein pedair llyfrgell yn cynnig amrywiaeth o amgylcheddau astudio braf gan gynnwys mannau gweithio cydweithredol, ystafelloedd cyfarfod a mannau tawel i astudio.
Mae yma gasgliad mawr o lyfrau a chylchgronau, ac mae llawer o'r cylchgronau ar gael ar gyfrifiadur mewn fformat testun llawn.
Mae gennym hefyd un o’r archifau prifysgol mwyaf nid yn unig yng Nghymru ond hefyd drwy holl wledydd Prydain. Yn gysylltiedig â'r archifau mae casgliadau arbennig o lyfrau printiedig prin.
Adnoddau Dysgu
Mae yma ddewis eang o adnoddau dysgu, sy’n cael eu cefnogi gan staff profiadol, i’ch helpu i astudio.Â
Mae gwasanaethau TG y Brifysgol yn darparu cyfleusterau a gwasanaethau cyfrifiaduro, cyfryngau a reprograffeg sy’n cynnwys:Â
- Dros 1,150 o gyfrifiaduron i fyfyrwyr, gyda rhai ystafelloedd cyfrifiaduron ar agor 24 awr bob dydd
- Blackboard, rhith-amgylchedd dysgu masnachol, sy’n galluogi i ddeunydd dysgu fod ar gael ar-lein.
Costau'r Cwrs
Costau Cyffredinol yn y Brifysgol
Myfyrwyr Cartref (DU)
- Cost cwrs israddedig llawn-amser yw £9,250 y flwyddyn (2025/26).
- Y ffi ar gyfer pob blwyddyn dramor integredig yw £1,385 (2025/26).
- Y ffi ar gyfer blwyddyn mewn diwydiant integredig fel rhan o'r cwrs yw £1,850 (2025/26).
Mwy o wybodaeth am ffioedd a chyllid i fyfyrwyr Cartref (DU).
Myfyrwyr Rhyngwladol (yn cynnwys yr UE)
Costau Ychwanegol
Mae yna hefyd rai costau ychwanegol cyffredin sy'n debygol o godi i fyfyrwyr ar bob cwrs, er enghraifft:
- Os dewiswch chi astudio dramor neu gymryd y Flwyddyn Profiad Rhyngwladol fel rhan o'ch cwrs.
- Os ydych chi'n mynd i'ch Seremoni Raddio, bydd cost llogi gŵn (£25- £75) a chost am docynnau i westeion ychwanegol (tua £12 yr un).
Costau ychwanegol cwrs-benodol
Yn dibynnu ar y cwrs rydych chi'n ei astudio, efallai y bydd costau ychwanegol cwrs-benodol y bydd gofyn i chi eu talu. Gellir rhoi'r costau hyn mewn tri chategori:
- Costau Gorfodol: mae'r rhain yn gysylltiedig â modiwl craidd neu orfodol penodol y mae'n ofynnol i chi ei gwblhau i gwblhau eich cymhwyster e.e. teithiau maes gorfodol, gwisgoedd i fyfyrwyr ar leoliad, gwiriad gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS).
- Costau Angenrheidiol: efallai na fydd pob myfyriwr yn cael y costau hyn, a bydd yn amrywio yn dibynnu ar y cwrs e.e. aelodaeth o gorff proffesiynol, teithio i leoliadau, meddalwedd arbenigol, cyfarpar diogelu personol.
- Costau Dewisol: mae'r rhain yn dibynnu ar eich dewis o fodiwlau neu weithgaredd, ac fe'u dangosir er mwyn rhoi syniad ichi o'r costau dewisol a allai godi i sicrhau bod cymaint o wybodaeth â phosibl ar gael i chi cyn i chi wneud eich dewis. Gall y rhain gynnwys digwyddiadau graddio ar gyfer eich cwrs, teithiau maes dewisol, tripiau Wythnos Groeso.
Gofynion Mynediad
Mae'r cynigion yn seiliedig ar dariffau, 80 - 96Â pwynt tariff o gymwysterau Lefel 3* e.e.:
- Lefel A:Â Ni dderbynnir Astudiaethau Cyffredinol a Sgiliau Allweddol
- Diploma Estynedig Cenedlaethol BTEC: MMP - MMM
- Diploma Technegol Estynedig Caergrawnt: MMP - MMM
- Diploma’r Fagloriaeth Ryngwladol: derbynnir
- Access:Â derbynnir, pasio yn ofynnol
- Bagloriaeth Cymru: Byddwn yn derbyn y cymhwyster hwn ar y cyd â chymwysterau lefel 3 eraill
- Lefelau T: Ystyrir lefelau T mewn pwnc perthnasol fesul achos
- Irish Leaving Certificate: 80-96 pwynt mewn o leiaf 4 pwnc uwch.
- Project Estynedig:Â Gall y pwyntiau gynnwys Project Estynedig (EPQ) perthnasol ond rhaid iddynt gynnwys o leiaf 2 lefel A llawn, neu gyfwerth.
Rydym yn hapus i dderbyn cyfuniadau o'r cymwysterau a restrir uchod, yn ogystal â chymwysterau Lefel 3 amgen fel City & Guilds, Cwrs Mynediad, Diploma Estynedig Lefel 3 NCFE CACHE,  a Diploma Technegol Estynedig Caergrawnt.
Rydym hefyd yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr hÅ·n.
Ymgeiswyr Rhyngwladol: derbyniwn gymwysterau ymadael â’r ysgol cyfwerth â lefel A/Lefel 3 a/neu diplomâu colegau o wledydd ledled y byd (yn amodol ar ofynion iaith Saesneg penodol). manylionÂ
*I gael rhestr lawn o gymwysterau Lefel 3 a dderbynnir, ewch i .
Mae'r cynigion yn seiliedig ar dariffau, 96 - 112Â pwynt tariff o gymwysterau Lefel 3* e.e.:
- Lefel A:Â Ni dderbynnir Astudiaethau Cyffredinol a Sgiliau Allweddol
- Diploma Estynedig Cenedlaethol BTEC: MMM - DMM
- Diploma Technegol Estynedig Caergrawnt: MMM - DMM
- Diploma’r Fagloriaeth Ryngwladol: derbynnir
- Access:Â derbynnir, pasio yn ofynnol
- Bagloriaeth Cymru: Byddwn yn derbyn y cymhwyster hwn ar y cyd â chymwysterau lefel 3 eraill
- Lefelau T: Ystyrir lefelau T mewn pwnc perthnasol fesul achos
- Irish Leaving Certificate: 96 -112 pwynt mewn o leiaf 4 pwnc uwch.
- Project Estynedig:Â Gall y pwyntiau gynnwys Project Estynedig (EPQ) perthnasol ond rhaid iddynt gynnwys o leiaf 2 lefel A llawn, neu gyfwerth.
Rydym yn hapus i dderbyn cyfuniadau o'r cymwysterau a restrir uchod, yn ogystal â chymwysterau Lefel 3 amgen fel City & Guilds, Cwrs Mynediad, Diploma Estynedig Lefel 3 NCFE CACHE,  a Diploma Technegol Estynedig Caergrawnt.
Rydym hefyd yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr hÅ·n.
Ymgeiswyr Rhyngwladol: derbyniwn gymwysterau ymadael â’r ysgol cyfwerth â lefel A/Lefel 3 a/neu diplomâu colegau o wledydd ledled y byd (yn amodol ar ofynion iaith Saesneg penodol). manylionÂ
*I gael rhestr lawn o gymwysterau Lefel 3 a dderbynnir, ewch i .
Gofynion Cyffredinol y Brifysgol
I astudio cwrs gradd mae’n rhaid i chi gael isafswm o bwyntiau tariff UCAS. Am eglurhad manwl o bwyntiau tariff UCAS, ewch i .
Rydym yn derbyn myfyrwyr â phob math o gymwysterau a chefndiroedd ac yn ystyried pob cais yn unigol.
Mae’n rhaid i bob ymgeisydd gael sgiliau sylfaenol da ond mae’r Brifysgol hefyd yn gweld pwysigrwydd sgiliau cyfathrebu a thechnoleg gwybodaeth.Â
Mae’n bolisi gan y Brifysgol i ystyried ceisiadau gan ddarpar fyfyrwyr anabl yn yr un modd â; phob cais arall.
Rydym yn ystyried ceisiadau gan fyfyrwyr hÅ·n sy’n medru dangos fod ganddynt y gallu a’r ymrwymiad i astudio rhaglen prifysgol. Bob blwyddyn rydym yn cofrestru nifer sylweddol o fyfyrwyr hÅ·n. Am fwy o wybodaeth am astudio fel myfyriwr aeddfed, ewch i adran Astudio ym Mangor.ÌýÌý
Gyrfaoedd
Mae Iechyd a Gofal Cymdeithasol yn faes amrywiol iawn a bydd yn agor llawer o gyfleoedd i chi at y dyfodol. Mae llawer o raddedigion BA (Anrh) Iechyd a Gofal Cymdeithasol bellach yn gweithio yn y GIG, gwahanol elusennau fel MIND, sefydliadau gofal cymdeithasol ac asiantaethau eraill y sector cyhoeddus, preifat a gwirfoddol. Cafodd rhai o'r graddedigion diweddar swyddi gyda chynghorau lleol fel swyddogion tai; yn gweithio gyda theuluoedd bregus, neu ffoaduriaid. Mae eraill yn gweithio mewn elusennau, gan helpu'r rhai sydd â materion iechyd meddwl neu sy’n gaeth i sylweddau.
Bydd y cwrs hefyd yn eich helpu chi ddechrau gyrfa neu symud ymlaen at yrfa mewn proffesiynau fel nyrsio, gwaith cymdeithasol neu therapi galwedigaethol. I'r rhai sydd am barhau â'u hastudiaethau academaidd, mae rhai graddedigion hefyd yn dewis dilyn cyrsiau Meistr hyfforddedig, neu raddau ymchwil.
Cyfleoedd ym Mangor
Mae Gwasanaeth Sgiliau a Chyflogadwyedd y Brifysgol yn cynnig amryw o adnoddau i’ch helpu i gyflawni eich amcanion ar ôl graddio.
Rhaglen Interniaeth Prifysgol ÑÇÖÞÉ«°É
Mae Prifysgol ÑÇÖÞÉ«°É yn cynnal cynllun interniaeth â thâl yn adrannau academaidd a gwasanaethau’r Brifysgol.
Gwirfoddoli
Mae gwirfoddoli yn ehangu eich profiadau ac yn gwella eich cyflogadwyedd. Cewch fwy o wybodaeth am wirfoddoli ar wefan .
Gweithio tra'n astudio
Mae TARGETconnect yn hysbysebu swyddi lleol, cenedlaethol a rhyngwladol i raddedigion, cyfleodd profiad gwaith ac interniaethau a chyfleon gwirfoddol.
Adroddiad Cyflawniad Addysg Uwch (HEAR)
Ceir pob myfyriwr sy’n graddio adroddiad terfynol HEAR. Mae’r adroddiad yn rhestru holl gyflawniadau academaidd ac allgyrsiol fel bod darpar gyflogwyr yn ymwybodol o’r sgiliau ychwanegol rydych wedi eu hennill tra yn y Brifysgol.