Mae Sefydliad Ymchwil yngÌý Ngholeg y Celfyddydau, Dyniaethau a Gwyddorau Cymdeithas yn rhychwantu amrywiaeth eang o ddisgyblaethau, ac yn cyfuno arbenigedd ar draws meysydd mewn sawl achos.Ìý Mae'r ymchwil gyffrous ac arwyddocaol a wneir gan ein hysgolion academaidd yn chwarae rhan bwysig yn sicrhau statws ÑÇÖÞÉ«°É fel un oÌýsefydliadau ymchwil mwyaf blaenllaw'r byd, fel y cydnabuwyd yn yr asesiad o ansawdd ymchwil blaenorol (REF 2021).
Partneriaethau Ymchwil
Mae ymchwilyn y Sefydliad YmchwilÌý yn cael ei wneud gan unigolion a gan grwpiau a chanolfannau ymchwil. Mae'r Sefydliad yn cynnwys academyddion enwog yn ogystal ag ymchwilwyr ac ysgolheigion hynod ymroddedig ar wahanol gamau gyrfa, gan gynnwys cymuned lewyrchus o ymchwilwyr ôl-raddedig. Ceir gwybodaeth bellach am weithgareddau ymchwil pob ysgol ar eu tudalennau gwe unigol.
Ìý
Strategaeth Ymchwil
Sefydliad yw hwn sy’n gwneud ymchwil arobryn, sy'n rhagorol yn rhyngwladol ac sy'n cael effaith ar draws meysydd pwnc sy'n cynnwys iaith a llenyddiaeth, cerddoriaeth a'r cyfryngau, astudiaethau ariannol a masnach, cyfathrebu, arloesi, rheoleiddio, cydraddoldeb, llesiant a gwytnwch, cyfiawnder, hunaniaethau, addysg athrawon ac astudiaethau cymunedol ymhlith eraill. Cyfunir rhagoriaeth academaidd ag ymgysylltiad cymunedol, effaith polisi, a chyfraniadau creadigol a diwylliannol, ynghyd ag ymrwymiad cryf i gynaliadwyedd ar sail lle mewn ymchwil a thrwy ymchwil. Mae ymchwilwyr o bedair ysgol yn rhan o’r sefydliad:Ìý
- Ysgol Iaith, Diwylliant a’r CelfyddydauÌý
- Ysgol Busnes ÑÇÖÞÉ«°ÉÌý
- Ysgol Hanes, y Gyfraith a Gwyddorau Cymdeithas
- Ysgol Addysg
Fel endid a grëwyd i gefnogi ymchwil ac effaith ar draws Coleg y Celfyddydau, Dyniaethau a Gwyddorau Cymdeithas, mae’r sefydliad yn cael ei arwain gan y cyfarwyddwr (neu gan dîm sy’n rhannu’r gwaith), ac yn gweithio gyda Chyfarwyddwr Ymchwil Ôl-radd y coleg. Mae gan bob ysgol Gyfarwyddwr Ymchwil, Effaith ac Ymgysylltu sy'n gyfrifol am greu amgylchedd ymchwil bywiog a chynaliadwy o fewn yr ysgol, gyda chefnogaeth Cyfarwyddwyr Ymchwil Ôl-radd yr ysgol. Ar y cyd, mae’r tîm arweinyddiaeth hwn yn cefnogi’r gwaith o ddatblygu strategaethau ymchwil ac yn cefnogi datblygiadau thematig sy’n addas i bob ysgol, gan gefnogi effeithlonrwydd, cydweithredu, sicrhau bod nodau a chydlyniad cyffredin ar draws y sefydliad a chydnabod pwysigrwydd amrywiaeth ac arbenigeddau unigol mewn cymuned lle ceir ffyniant a rhagoriaeth o ran ymchwil. Mae hyn yn cynnwys ymchwilwyr ar lefelau ôl-radd, ymchwilwyr ar ddechrau eu gyrfa ac uwch-ymchwilwyr. Gellir rhannu cyfrifoldebau’r Cyfarwyddwyr Ymchwil, Effaith ac Ymgysylltu, a chynnig cefnogaeth bellach trwy gyfrwng swyddogaethau arweinwyr ymchwil cysylltiedig. Ym mhob ysgol, mae lwfansau ymchwil a chyllid sbarduno ar gael i gefnogi ymdrechion i ddatblygu ymchwil ac effaith a chefnogaeth helaeth hefyd mewn perthynas â chyfleoedd cyllido mewnol ac allanol, ynghyd â’r cyfle i wneud cais am gyfnod o absenoldeb astudio a gyllidir gan y sefydliad.
Mae ymchwil y sefydliad wedi ei seilio'n gadarn ar ymdeimlad o le trwy gyfrwng diwylliant, perthnasedd cymharol, cyfryngedd, llenyddiaeth, iaith, cerddoriaeth, hanes, technoleg, addysg a sefydliadau, ynghyd â diddordeb yn natur newidiol cymunedau, cenhedloedd, strwythurau llywodraethu a chyfiawnder. Fel un enghraifft allweddol, mae’r Sefydliad Cydweithredol dros Ymchwil, Addysg, Tystiolaeth ac Effaith (CIEREI) yn meithrin cydweithrediadau allanol gyda Llywodraeth Cymru, CaBan, GwE ac ysgolion ar draws y rhanbarth, gan fynd i’r afael (fel llawer o’r themâu a’r canolfannau ymchwil a nodir isod) â Llesiant Deddf Cenedlaethau’r Dyfodol mewn sawl ffordd. Mae ein themâu ymchwil a nodir isod, yn caniatáu i ymchwilwyr o bob rhan o'r coleg a'r brifysgol ehangach gydweithredu a chynhyrchu ymchwil arloesol, rhyngddisgyblaethol sydd gyda'r gorau yn y byd ac yn cyd-fynd â phwyslais strategol y brifysgol. Nid yw hyn yn eithrio nac yn anwybyddu meysydd rhagoriaeth ymchwil penodol y tu hwnt i'r themâu hynny, ond mae'n cynnig set ehangach o faterion thematig mae llawer o'n hymchwil yn ymffurfio o'u cwmpas, ar y cyd â dau sefydliad ymchwil arall y brifysgol.Ìý
Ìý
Mae gan Fangor draddodiad balch o ymchwil gyda'r gorau yn y byd mewn Astudiaethau Celtaidd, a phwyslais neilltuol a chysylltiadau rhyngwladol parthed hanes, diwylliant, llenyddiaeth, iaith, addysg, economi a gwleidyddiaeth Cymru. Mae’r sefydliad yn gartref i rai o brif grwpiau a chanolfannau ymchwil Cymru, dan arweiniad haneswyr blaenllaw yn hanes Cymru, arbenigwyr yng nghyfraith Cymru, a diwylliant, cerddoriaeth, llenyddiaeth a barddoniaeth Cymraeg a Chymreig.
- Canolfan Ymchwil Cymru
- Canolfan R.S. ThomasÌý
- Sefydliad Ymchwil Ystadau Cymru
- Y Ganolfan Astudiaethau ArthuraiddÌý
- Clwstwr Hyrwyddo Dwyieithrwydd ac Addysg Gymraeg CIEREIÌý
- Canolfan Ymchwil Rhanbarth ar gyfer rhanbarthau ac economïau cynaliadwy
Mae’r thema hon yn gosod Cymru wrth ei chraidd, gan gynnwys gweithgarwch sylweddol sy’n cefnogi nod Cymraeg 2050 Llywodraeth Cymru. Mae’r cylch gorchwyl hefyd yn cynnwys negodi, yn llenyddol ac yn hanesyddol, ffiniau diwylliannol yn fwy cyffredinol, yn ogystal â chysylltiadau rhwng Cymru a’r Deyrnas Unedig, Ewrop a’r byd, gan drafod pryderon a chyfraniadau lleol yng ngoleuni ffenomenau mwy pellgyrhaeddol ym maes cynaliadwyedd a thu hwnt i hynny.Ìý
Cymunedau Gwydn trwy Ddiwylliant, y Celfyddydau a Chymdeithas Sifil
Mae ein hymchwilwyr yn astudio ac yn ymarfer agweddau ar ddiwylliant, addysg a'r celfyddydau, gan feithrin dealltwriaeth o elfennau'r gymdeithas sifil sy'n cryfhau gwytnwch cymunedol i ymdopi â newidiadau a heriau cyfoes yn seiliedig ar le. Yn seiliedig ar adnoddau archifol a chyfoes sylweddol, ynghyd â gweithgarwch artistig, a thrwy Ìýymchwil gwerthuso ac ymyriadau, maent yn cyfrannu'n weithredol at iechyd, llesiant a gwytnwch cymunedau, yn cynnwys diwylliant a'r celfyddydau i roi lle i astudio cymdeithas sifil ar waith, yn ogystal ag arbenigedd am ddefnyddwyr a thwristiaeth. Ochr yn ochr â gweithgarwch mawr ym meysydd ysgrifennu creadigol, cyfansoddi cerddorol a pherfformio ac ymyriadau mewn ysgolion ac ymyriadau i rieni, mae ein grwpiau ymchwil yn y maes hwn yn cynnwys:
- Canolfan Ymchwil Lleoliadau Newid HinsawddÌý
- Y Ganolfan dros Farddoniaeth Gyfoes
- Canolfan Stephen Colclough ar Hanes a Diwylliant y Llyfr
- Y Ganolfan Astudiaethau Ffilm, Teledu a Sgrin
- Clwstwr Optimeiddio Lles a Gwytnwch CIEREI
Mae’r thema hon, yn ogystal ag ategu’r thema sy’n canolbwyntio ar Gymru, yn cynnwys astudiaethau rhyngddisgyblaethol a rhyngddiwylliannol sy’n mynd i’r afael â lleiafrifeiddio, ymyleiddio, hunaniaethau a pherthyn, gan rychwantu diwylliannau a chymdeithasau amrywiol yn Ewrop a thu hwnt, ac yn cynnwys ymchwil sy’n canfod cysylltiadau rhwng theori ac ymarfer perfformiadol.
Mae cymunedau ledled y byd wedi eu cysylltu mewn gwead cymhleth o lywodraethiant, cysylltiadau ariannol ac economaidd, pobl yn mudo, a chwestiynau ynghylch cwmpas a natur sefydliadau ac egwyddorion cydraddoldeb a chyfiawnder. Mae diddordebau cystadleuol cymunedau lleol, cenedl-wladwriaethau, a systemau economaidd byd-eang a rhyngwladol yn gofyn am ymchwil ymatebol i reoliadau a llywodraethiant, sefydliadau ac astudiaethau cymunedol. Mae ein heconomegwyr, ein cyfreithwyr, ein gwyddonwyr cymdeithasol a'n haneswyr yn archwilio'r cysylltiadau cymhleth hynny a sut mae cwestiynau ynglŷn â phŵer, gwleidyddiaeth a heriau byd-eang yn effeithio arnynt. Mae’r grwpiau ymchwil perthnasol yn cynnwys:
- Y Ganolfan dros Gynaliadwyedd
- Sefydliad Cyllid EwropeaiddÌý
- Sefydliad Ymchwil a Data Cymdeithasol ac Economaidd Cymru (WISERD)
- Labordy Deallusrwydd Artiffisial Emosiynol
- Clwstwr Gwella Tegwch a Chynhwysiant CIEREI
Saif Prifysgol ÑÇÖÞÉ«°É mewn amgylchedd dwyieithog sy'n hwyluso'r cryfderau rhagorol sydd ganddi ym meysydd amlieithrwydd a dwyieithrwydd a defnydd iaith mewn amryw o gyd-destunau cyfathrebol, gan gwmpasu rhagoriaeth ymchwil mewn polisi a chynllunio iaith, caffael iaith gyntaf ac ail iaith, addysg ddwyieithog, dadansoddi disgwrs ac astudiaethau corpws, defnydd cymunedau a chymdeithas sifil o iaith a'r goblygiadau i hunaniaeth, yn ogystal â chyfraniad technoleg at ddatblygiad iaith. Mae ymchwilwyr yn y thema hon yn cyfrannu at brofiadau dysgu o ansawdd uchel i blant a phobl ifanc ledled y wlad trwy wella’r ddarpariaeth Gymraeg ar draws ysgolion Cymru a meithrin arferion addysgeg effeithiol. Mae ymchwil yn y thema hon hefyd yn codi cwestiynau ehangach am berthynas iaith a chyfathrebu ac addysg fel math o bŵer, trwy gyfathrebu corfforaethol, moeseg, newyddiaduraeth, cyfathrebu perswadiol a'r cyfryngau, gyda’r ddealltwriaeth honno’n cyfrannu at bolisïau ac ymarfer yng Nghymru. Mae ein canolfannau ymchwil a'n rhwydweithiau'n cynnwys:
- Canolfan Bedwyr a’r Uned Technolegau Iaith
- Y Ganolfan Astudiaethau Galisaidd yng Nghymru
- Rhwydwaith Astudio'r Cyfryngau a Chyfathrebu Perswadiol
- Rhwydwaith Ymchwil Technoleg ac Iaith
- Y Labordy Adfywio Iaith
- Clwstwr Addysg Athrawon, Arweinyddiaeth Systemau ac Ymarfer Proffesiynol CIEREI
Blaenoriaethau Strategol y Coleg ar gyfer Ymchwil
Mae'r strategaeth hon yn ystyried bod ymchwil yn cynnwys, ymhlith pethau eraill, cyhoeddi, denu grantiau, ymgysylltu ac estyn allan, llwybrau at effaith, arloesi a chyfnewid gwybodaeth.Ìý
Caiff blaenoriaethau strategol y sefydliad ar gyfer ymchwil eu llunio yng nghyd-destun ymrwymiad Prifysgol ÑÇÖÞÉ«°É i Lesiant Cenedlaethau'r Dyfodol ac Egwyddorion Cynaliadwyedd. Mae ymchwil yn y sefydliad yn ystyried yr un egwyddor datblygu cynaliadwy; y pedair colofn cynaliadwyedd; y pum ffordd o weithio tuag at gynaliadwyedd; a’r saith nod llesiant
Ìý
Mae'r sefydliad yn hwyluso ymchwil, ymgysylltu, ac effaith rhagoriaeth ranbarthol, genedlaethol a rhyngwladol trwy ein themâu ymchwil, a gydnabyddir trwy gyhoeddiadau a gwobrau proffil uchel, o ansawdd uchel ac a adolygir gan gymheiriaid, ennill grantiau o bwys a mathau eraill o gydnabyddiaeth allanol. Mae pwyslais penodol ar yr isod:
- Cefnogi Strategaeth Ymchwil ac Effaith 2030 Prifysgol ÑÇÖÞÉ«°É y mae cynaliadwyedd yn elfen greiddiol ohoni
- Ymgorffori ymgysylltu a chydweithio yn ein mentrau academaidd, a thrwy hynny gwneud llwybrau at effaith yn rhan o’r broses ymchwilÌý
- Mentora, adborth a chyngor mewn perthynas â syniadau ymchwil, ceisiadau grant, a gweithgarwch ymgysylltu, effaith ac arloesiÌý
- Mynediad at ymchwilwyr y sefydliad sydd â phrofiad o ennill grantiau ac at aelodau paneli dyfarnu ymchwil, yn enwedig yr UKRI
- Ymgysylltu ag ymchwilwyr cenedlaethol a rhyngwladol trwy seminarau, gweithdai a chynllun ymchwilwyr ar ymweliad
- Cysylltu ein hymchwil â'r gymuned ehangach i sicrhau bod ymchwil yn cefnogi’r gwaith o greu gwytnwch cymunedol
- Datblygu cysylltiadau cydweithredol cynaliadwy â phartneriaid allanol sy’n mynd i’r afael â blaenoriaethau cymdeithasol ac economaidd yn y sector preifat, cyhoeddus neu’r trydydd sector, gan atgyfnerthu cysylltiadau â chymdeithas a diwydiantÌý
- Hwyluso ac annog cyd-gynhyrchu cynigion cyllid yn strategol gyda rhanddeiliaid - gwneud yn fawr o gyfleoedd am gyllid cydweithredol megis Partneriaethau Trosglwyddo Gwybodaeth a Phartneriaethau Hyfforddiant Doethurol cydweithredol
- Gwella'r pwyslais ar strategaeth ddiwydiannol foesegol, arloesi, masnacheiddio a chysylltiadau dinesigÌý
- Targedu meysydd o angen cymdeithasol a chyfleoedd ariannu
- Ymgysylltu â llywodraeth a senedd Cymru a’r Deyrnas Unedig yn ogystal â chynghorau lleol, dylanwadu ar bolisïau a datblygu projectau ymchwil gyda’r bwriad o gyfrannu at lunio agendâu llywodraeth
- Cefnogi Cynllun Strategol 'ÑÇÖÞÉ«°É 2050' Prifysgol ÑÇÖÞÉ«°É sy'n hyrwyddo lledaeniad a defnydd o’r Gymraeg, trwy ymchwil ac ymarfer.
Ìý
Mae'r sefydliad yn llwyr ymrwymedig i'r Concordat i Gefnogi Datblygiad Gyrfa Ymchwilwyr ac mae'n darparu cefnogaeth i ymchwilwyr ymhob cam o'u gyrfaoedd. Rydym yn cefnogi ymchwilwyr fel a ganlyn:Ìý
- Annog cyfranogiad rheolwyr ymchwil ac ymchwilwyr mewn rhaglenni hyfforddi perthnasolÌý
- Cynnwys cynrychiolwyr sy’n ymchwilwyr ar ddechrau eu gyrfa ym Mhwyllgor Strategaeth Ymchwil ac Effaith y sefydliad a'i weithgareddau
- Cydnabod amrywiaeth y gweithgarwch ymchwil, ymgysylltu ac effaith sydd ar waith yn y sefydliad gan gynnwys ymarfer creadigol fel ymchwil ac ymgysylltu diwylliannol
- Mentora i gefnogi’r gwaith o ddenu grantiau a datblygu gyrfaoedd ymchwil
- Annog a chydnabod cyfraniadau ymchwilwyr at baneli dyfarnu ymchwil, cymdeithasau dysgedig, a gwaith i gyfnodolion a gwaith golygyddol arall
- Neilltuo amser ar gyfer ymchwil trwy gefnogi’r egwyddor o sicrhau cydraddoldeb o ran amser gwarchodedig mewn ysgolion a thrwy gynnig absenoldeb astudio ledled y sefydliad pan fo cyfiawnhad dros wneud hynny
- Cynrychioli buddiannau a llais cymuned ymchwil y sefydliad yn y brifysgol
- Cefnogi’r gydnabyddiaeth a roddir i ymchwilwyr trwy fesurau allanol o ragoriaeth ymchwil megis y Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil
Mae ymchwil rhyngddisgyblaethol yn cynhyrchu ffurfiau newydd o wybodaeth, arloesi, dealltwriaeth newydd ac allbynnau creadigol sydd eu hangen i roi sylw i'r heriau mawr sy'n wynebu cymdeithas yn fyd-eang. Mae'r sefydliad yn llwyfan i annog a hwyluso gweithgarwch ymchwil, ymgysylltu ac effaith rhyngddisgyblaethol, gan gysylltu ysgolion ar draws y sefydliad, yn ogystal ag ar draws y tri sefydliad yn y brifysgol a'r ysgolion sy’n rhan ohonynt. Gwneir hyn yn y ffyrdd canlynol:Ìý
Ìý
- Trefnu digwyddiadau sefydliad cyfan ac ar y cyd a’r sefydliadau eraillÌý
- Cynnwys y sefydliad yn rhan o fentrau strategol y brifysgol gyfan
- Sefydlu mecanweithiau i fonitro blaenoriaethau'r llywodraeth, a pharu ymchwilwyr a phrojectau â chynlluniau cyllid grant perthnasol cyn gynted ag y byddant ar gael
- Cefnogi cydweithredu a cheisiadau grant rhyngddisgyblaethol a thrawsddisgyblaethol
- Codi ymwybyddiaeth o lwyddiannau, blaenoriaethau a chryfderau ymchwil, ymgysylltu ac effaith y sefydliad ledled y brifysgol, y gymuned ehangach, ac yn rhyngwladol
Nod y Sefydliad yw:
- Galluogi ac annog pob ymchwilydd i wneud cais am gyllid ymchwil priodol (o ystyried lefel gyrfa a'r ddisgyblaeth benodol) ac o ansawdd uchel yn rheolaidd
- Cynyddu'n barhaus nifer ac ystod y ceisiadau grant llwyddiannusÌý
- Ymgorffori gweithgareddau ymgysylltu ym mhob project ymchwil o'r cychwyn cyntafÌý
- Cynyddu nifer y cyhoeddiadau o ansawdd uchel trwy fframwaith cyhoeddi cydlynol gyda'r pwyslais ar ansawdd yn hytrach na swmp
- Annog digwyddiadau rhwydweithio rhyngddisgyblaethol a chymryd rhan mewn nifer cynyddol o geisiadau grant rhyngddisgyblaethol
- Annog meithrin timau yn y sefydliad a thu hwnt, gyda'r bwriad o ddenu grantiau mawr.
Coleg y Celfyddydau, Dyniaethau a Gwyddorau Cymdeithas Ein Themâu Ymchwil
Mae ymchwilwyr Coleg y Celfyddydau, Dyniaethau a Gwyddorau Cymdeithas yn gwneud ymchwil sy'n ennill gwobrau, yn rhagorol yn rhyngwladol ac sy'n cael effaith.Ìý Mewn amrywiol ddisgyblaethau, rydym yn cyfuno rhagoriaeth academaidd gydag ymgysylltiad â'r gymuned, effaith ar bolisi, a chyfraniadau creadigol a diwylliannol.