YMCHWIL ÔL-RADDEDIG
Yn gweddnewid eich potensial...
Fel myfyriwr PhD yng CCDGC byddwch yn cael eich goruchwylio gan ysgolheigion egnïol a manwl y mae eu hymchwil wedi ei gydnabod i fod gyda'r gorau yn y byd neu'n rhagorol yn rhyngwladol ynÌýFframwaith Rhagoriaeth Ymchwil 2014.
Rydym yn cynnig nifer helaeth o raddau ôl-radd dysgu ac ymchwil. Fel aelod o Ysgol Graddedigion y Coleg bydd gennych hefyd fynediad at ystod eang o gyfleoedd i'ch datblygu eich hunan fel ymchwilydd, trafod eich syniadau gyda myfyrwyr PhD eraill a staff a chael eich mentora gan academyddion profiadol.
Datblygu ôl-raddedigion galluog a gwybodus…
Un o brif amcanion ein rhaglenni ôl-radd yw datblygu ôl-raddedigion galluog a gwybodus ac i ddarparu cefnogaeth drwy gydol eu hastudiaethau.
Fel eich bod yn gwneud y gorau o'r cyfleoedd sydd ar gael ichi, mae Ysgol Graddedigion y Coleg yn argymell eich bod yn mynd iÌýDdiwrnod Cynefino Ysgol GraddedigionÌýCCDGC a gynhelir yn ystod yr Wythnos Groeso.
Diben y digwyddiad yw eich croesawu'n gynnes i gymuned ymchwil y Coleg, a'ch arwain drwy'r cyfleoedd cyffrous sydd i'w cael wrth astudio mewn prifysgol yng Nghymru a rhoi gwybod ichi am y cyfleusterau a'r gefnogaeth sydd ar gael ichi. Cewch gyfle hefyd i gwrdd â'r Dirprwy Is-ganghellor dros Fyfyrwyr ym Mhrifysgol ÑÇÖÞÉ«°É, Cyfarwyddwr Ymchwil Coleg y Celfyddydau, Dyniaethau a Gwyddorau Cymdeithas a Chyfarwyddwr yr Ysgol Graddedigion, yn ogystal ag aelodau allweddol eraill o Brifysgol ÑÇÖÞÉ«°É.
Mae eich Tîm Goruchwylio, Cyfarwyddwr Astudiaethau Graddedig eich Ysgol a'r staff yn Ysgol Graddedigion Coleg y Celfyddydau, Dyniaethau a Gwyddorau Cymdeithas i gyd yn ysgolheigion ac yn staff cefnogi profiadol y gallwch ofyn am gyngor ganddynt ar unrhyw adeg yn ystod eich astudiaethau gyda ni. I gael gwybodaeth am eu gwahanol swyddogaethau a'u cylchoedd gorchwyl, edrychwch yn Llawlyfr Myfyrwyr Ôl-radd Coleg y Celfyddydau, Dyniaethau a Gwyddorau Cymdeithas.
Eisiau rhagor o wybodaeth?
Os dymunwch rhagor o wybodaeth am ein cyrsiau, yr Ysgol Graddedigion neu unrhyw agwedd arall o astudio cyrsiau ôl- raddedig yng CCDGC, ynaÌýcysylltwch â ni:
Ymholiadau Derbyniadau
Mrs Sian Williams
Ffôn: +44 (0) 1248 382118
·¡²ú´Ç²õ³Ù:Ìýpgadmissionscah@bangor.ac.uk
Ymholiadau – Myfyrwyr presennol
·¡²ú´Ç²õ³Ù:Ìýpostgradcah@bangor.ac.uk
Ìý
Ìý