Canolfan Bedwyr yn y Gymuned
Wedi iddynt gwblhau cwrs gloywi iaith wedi ei deilwra’n benodol ar eu cyfer gan diwtoriaid iaith Canolfan Bedwyr, cyflwynwyd tystysgrifau i aelodau staff Cylch Meithrin Seiont a Pheblig, Caernarfon yn ddiweddar.
Nod y cwrs oedd cynyddu hyder gweithwyr y Cylch Meithrin yn eu defnydd o’r Gymraeg drwy gynnal cyfres o sesiynau dysgu anffurfiol dan ofal Elen Davies, Tiwtor Iaith yng Nghanolfan Bedwyr.
Mae’r ardal wedi ei dynodi yn un o ardaloedd Cymunedau yn Gyntaf Llywodraeth Cymru. Serch hynny, mae’r Gymraeg yn gryf yno, gydag oddeutu 86% o’r boblogaeth yn medru’r iaith yn ôl ystadegau Cyfrifiad 2011. O ganlyniad, mae’r Gymraeg yn cael ei gweld fel modd o wella cyfleoedd yr unigolion sy’n byw a gweithio yno.
Yn ôl Karen Evans, Arweinydd Cylch Meithrin Seiont a Pheblig:
‘Mae’r cwrs wedi rhoi’r cyfle i ni ddatblygu ein sgiliau iaith personol ac wedi rhoi’r hyder i ni rannu’r hyn yr ydym wedi’i ddysgu efo’r plant sy’n dod i’r Cylch Meithrin. Rydym yn ffodus ac yn ddiolchgar o fod â phrifysgol ar ein stepen drws a bod yr arbenigeddau oddi mewn iddi yn cael eu rhannu â’r gymuned yn y fath fodd.’
Yn cyflwyno’r tystysgrifau i aelodau’r Cylch Meithrin oedd Yr Athro Jerry Hunter, Dirprwy Is-ganghellor (Cyfrwng Cymraeg a Chysylltiadau â’r Gymuned) a ddywedodd:
‘Rydym ni ym Mhrifysgol ÑÇÖÞÉ«°É wrth ein boddau’n cydweithio â phartneriaid lleol ac yn falch o bob cyfle i ddefnyddio adnoddau’r Brifysgol i helpu cryfhau’r Gymraeg ac i helpu gydag addysg plant a phobl ifainc o bob oed yn ein cymunedau. Mae ein staff ni yng Nghanolfan Bedwyr wedi mwynhau cydweithio â staff y Cylch Meithrin yn fawr iawn, ac rwyf yn bersonol yn gobeithio’n fawr y bydd y berthynas hon yn parhau.’
Noddwyd y cwrs gan Ganolfan Ehangu Mynediad y Brifysgol.
Dyddiad cyhoeddi: 1 Gorffennaf 2016